Mae'r olygfa i lawr dyffryn Tal-y-Llyn tuag at Llyn Mwyngil yn un sy'n serennu mewn cannoedd o gardiau post ac Insta Stories. Mynyddoedd creigiog, serth i bob ochr, a'r llyn yn llafn o fetel llwyd ar y gwaelod, y lôn fach yn nadreddu tua'r gorwel. Dyma fy ffordd adref. Ar yr union orwel yna, heibio'r llyn a'r mynyddoedd sy'n gwarchod y fro, mae tref Tywyn. Dwi'n caru'r olygfa yna er ei bod hi mor boblogaidd, achos fod teithio ar y lôn yna i'r cyfeiriad yna'n golygu un peth- Dwi'n mynd adref. Sut bynnag fo'r tywydd ar y daith, mae Bro Dysynni'n oleuni ar y gorwel, fel petai haul caredig, parhaus ar ben y lôn.
Hanesion hynafol
Y môr sy'n denu'r mwyafrif, boed nhw'n ymwelwyr neu'n bobol leol. Promenâd hir yn ymestyn fel bys yn pwyntio tua Aberdyfi i'r de, Llwyngwril i'r gogledd, ac mae diwrnod hir a thesog ar y tywod meddal gydag ambell ymweliad i'r caffis ar y prom yn brofiad breuddwydiol o hyfryd. Does dim rhaid mynd yn bell cyn dod o hyd i berlau bach unigryw. Pan fydd y llanw'n isel, mae'r hen fawndiroedd yn ymddangos yn y tywod o'r de i'r promenâd- cyfres hir o sgwariau sydd wedi eu torri'n ofalus, fel sylfeini hen dai, ac wedi eu britho gan weddillion coedwig hynafol. Mae'r lle hwn yn procio atgofion o hen stori (un dwi'n mynnu credu sy'n wir) Cantre'r Gwaelod, tir hen a ffrwythlon a gollwyd i'r dyfroedd. Ar lefel mwy ymarferol ac ychydig yn llai sentimental, mae'r sgwariau yma o fawrn yn dal dŵr y môr pan ddaw'r trai, ac erbyn diwedd diwrnod o haul poeth, maen nhw'n creu fersiwn bendigedig o naturiol o dwba poeth.
Ar ben arall y dref, mae Eglwys Sant Cadfan, addoldy hynafol ac anarferol o ddifyr. Yn ei fudandod, fe ddewch chi o hyd i drysorau - Carreg Sant Cadfan, o'r nawfed ganrif neu'n gynt, a dyma drysor cenedl, achos mai ar Garreg Sant Cadfan ceir y Gymraeg ysgrifenedig cynharaf y gwyddom amdano. Crwydrwch ychydig yn bellach i'r eglwys er mwyn cwrdd â delw o Gruffudd ab Adda. Mewn tywydd llaith, bydd Gruffudd yn wylo. Na, dim rhan o nofel arswyd mo hwn a na, does neb eto wedi selio cyfres arswyd amdano ar S4C. Mae daearegwyr yn dweud mai nam yn y garreg dros lygad chwith Gruffudd sy'n gyfrifol am y dagrau sy'n llifo lawr ei rudd, ond efallai eich bod chi fel finnau'n mynd yn ddigon rhwystredig gyda'r tueddiad i resymu'n gall. Mae o'n crïo, a dyna pam fydda i'n ymweld â fo mor aml.
Lluniaeth a Llyfrau
Os ydy gweld carreg yn wylo wedi gadael ei hoel arnoch chi, mae digon o gaffis a bwytai yn Nhywyn i chi gael dod at eich coed. Mae'r The Retreat Bar and Cafe yn gwneud coffi bendigedig ac yn gweini prydau blasus a rhesymol (mae'r pizza, yn enwedig, yn hyfryd.) Mae trip i'r Proper Gander yn troi pryd o fwyd yn achlusur arbennig, a'r prisiau yma hefyd yn rhesymol iawn am fwyd ffres, pob cynhwysyn wedi ei ddewis yn ofalus er mwyn creu'r blas gorau un. Mae gan dafarn y Whitehall fwydlen eang, o fyrgyrs enfawr i bysgod bendigedig (a dyma le sy'n berffaith os ydych chi eisiau pryd da o fwyd, tra hefyd yn plesio plentyn ffyslyd!)
Os ydy'r pres yn llosgi twll yn eich poced, mae gan y stryd fawr digon o siopau sy'n gwerthu crefftau a thrugareddau lleol. Mae Clock Tower Books yn siop lyfrau bychan sy'n dal yr union awyrgylch mae rhywun yn gobeithio amdano mewn siop lyfrau. Wedi ei leoli yn neuadd y farchnad, mae'n gwerthu llyfrau newydd ac ail-law (gan gynnwys llyfrau Cymraeg) - holwch Karl fydd wrth y til, ac mi fydd o'n sicr o ddod o hyd i'r llyfr gorau wnewch chi ddarllen byth.
Mae Tywyn yn dref i'r bolgwn, felly peidiwch â cholli'r cyfle i ymweld â siop Holgates ar gyrion y dref, mae'r hufen ia mêl anhygoel ac enwog, sy'n blasu fel hen hafau a lliwiau llachar. Chewch chi ddim gwell cig nag yn y siop gigydd lleol, T Rowlands and Son.
Crwydro'r Fro
Ar ôl cael llond bol o fwyd, mae 'na ddigon o lwybrau a throeon. Mae llwybr arfordir y Cambria i'r gogledd yn mynd â chi i Donfannau, ble mae adfeilion yr hen wersylloedd rhyfel. Bydd deng munud yn y car yn mynd â chi i Graig y Deryn, sy'n codi'n hy ac yn ogoneddus o'r tir, neu dawelwch a heddwch Castell y Bere. Gallwch fynd ar drên bach Talyllyn o Dywyn i Abergynolwyn a chrwydro llwybrau coediog, hardd Nant Gwernol. Os nad ydych chi am ddefnyddio car neu drafnidiaeth gyhoeddus, mae'n bosib cerdded i bentref cyfagos Aberdyfi ar hyd y traeth. Yna fe welwch bentref prysur a thlws ar hen harbwr. Mae Aberdyfi'n brysur iawn yn yr haf, ac mae'r pentref ar ei orau yn y gaeaf, pan fo bob man ychydig yn dawelach. Mae'n bosib hefyd cerdded o Dywyn i Ynysmaengwyn, sy'n barc ac yn goedwig ble mae blodau gwylltion a chreaduriaid bychain yn byw yn hen adfeilion y plasty.
Coctêls hudol
Ond os oes un peth mae'n raid i chi wneud pan ddewch chi draw i Dywyn, dyma fo - ewch i'r pictiwrs. Mae Sinema'r Llusern Hud (sydd newydd enill gwobr sienma'r flwyddyn BFI!) Wedi cael ei adnewyddu'n ddiweddar, ond tydy'r lle heb golli dim o'i gymeriad unigryw. Mae'r murluniau mawrion ar y waliau yn gelfyddyd hardd a bendigedig, ardal y bar yn eich atgoffa o hen ddyddiau da, a'r rhestr coctêls.. rhowch gynnig ar un o'r clasuron ar thema ffilm. Ni fyddwch yn difaru.
A felly, dyna i chi Dywyn, fy adref i - delw marchog yn wylo, traeth hir â thywod meddal, coctêl a Tywyn bun. Mi allwn i ddweud gymaint mwy am y dref fach yma, wedi ei chuddio ar ben y lôn fach yna i lawr bwlch Tal-y-Llyn, ond fe ddewch chi o hyd i'ch anturiaethau eich hun yma.
Tips Tywyn
Ceir mwy o wybodaeth am Manon Steffan Ros ar wefan Y Lolfa.
Gallwch deithio i Dywyn yn hawdd ar drafnidiaeth gyhoeddus - mae yna orsaf reilffordd a bysiau rheolaidd. Gall Traveline Cymru eich helpu i gynllunio'ch taith. Os oes gennych gar trydan, mae gorsafoedd gwefru EV cyhoeddus ym maes parcio'r ganolfan hamdden a Pharc Carafanau Ynysymaengwyn (archebwch ymlaen llaw). Mae gan Hendy Farm Cottages a Cynfal Farm Cottages wefryddion EV os ydych chi'n aros yno.
Mae traeth Tywyn yn wych ar gyfer adeiladu cestyll tywod, darganfod pyllau creigiog a phadlo. Fel pob tro, paratowch o flaen llaw a darllenwch gyngor yr RNLI ar ddiogelwch ar y traeth. Nid oes modd i gŵn ymweld â rhannau o'r traeth rhwng Ebrill a Medi, ond mae digon o le iddynt redeg o gwmpas pen gogleddol a de'r traeth.
Os ydych yn mentro allan i gerdded neu heicio, mae gan Adventure Smart UK pentwr o gyngor ac rydym yn argymell eich bod yn ei ddarllen cyn cynllunio eich antur. Mae llawer o'r llwybrau troed o amgylch Tywyn yn mynd ar draws tir fferm felly dangoswch barch a dilynwch y Côd Cefn Gwlad.
Rhestr o lefydd i aros a phethau i'w gwneud o amgylch Tywyn.