Chwilota cynaliadwy am fwyd yng Nghanolbarth a De Cymru

Mae profiad Chwilota Bannau Brycheiniog, dan arweiniad yr awdur a’r chwilwraig enwog Adele Nozedar, yn cynnig cyfuniad o archwilio natur a choginio. Cynhelir y teithiau tywys yn Aberhonddu a’r cyffiniau, o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, yn ogystal ag yn nhref Y Fenni a phentref Llanfrynach. Mae pob un o’r lleoedd hyn yn gyfoethog o ran treftadaeth ac yn cynnig digon i’w ddarganfod ar hyd y ffordd.

Menyw yn dal basged wiail yn cynnwys bwyd gwyllt a gasglwyd wrth chwilota.
Menyw yn defnyddio chwyddwydr i archwilio planhigyn

Teithiau Chwilota Bannau Brycheiniog gydag Adele Nozedar, Y Fenni

 

Mae’r rhan hon o’r ffin rhwng Canolbarth a De Cymru yn berffaith ar gyfer dod o hyd i berlysiau gwyllt, blodau bwytadwy a phlanhigion y gellir eu defnyddio wrth goginio.

  • Mae’r sesiynau chwilota misol i greu jin fotanegol yn gyfle i archwilio’r dirwedd leol, casglu perlysiau a phlanhigion gwyllt, a chreu dy gymysgedd jin unigryw dy hun gan ddefnyddio’r cynhwysion ffres rwyt ti wedi’u casglu.
  • Bydd y tywysydd yn dangos i ti sut i adnabod planhigion a chwilota’n gynaliadwy, gan dy helpu i gysylltu â natur mewn ffordd gyfrifol.

Mae’r profiad yn ymwneud â throchi dy hun ym myd natur ac, ar yr un pryd, ysgogi’r synhwyrau.

Happy Foragers

The Really Wild Emporium

Activity
St Davids

Anturiaethau chwilota arfordirol yn Sir Benfro

Ymuna â The Really Wild Emporium am daith chwilota ymarferol ar hyd yr arfordir godidog ger Tyddewi. Dan arweiniad yr hwylusydd Julia Horton-Mansfield, cei gyfle i ddarganfod planhigion bwytadwy, perlysiau a gwymon wrth ddysgu sut i'w defnyddio mewn bwyd a meddyginiaethau naturiol.

  • Byddi di'n mwynhau danteithion blasus a phicnics gwyllt ar hyd y ffordd, ac mae rhai cyrsiau hyd yn oed yn rhoi cyfle i ti goginio a rhannu'r hyn rwyt ti wedi'i gasglu.
  • Gyda'r tymhorau'n newid drwy'r flwyddyn, nid yw'r un daith byth yr un fath. Mae pob un yn dod â blasau, straeon a syrpreisys newydd.

Yn dibynnu ar y tywydd, efallai y cei gyfle i goginio ar y traeth neu ymgynnull yng nghartref clyd Julia ar gyfer sesiwn dan do.

Menyw yn dal planhigion
Delwedd o'r awyr o rai o ddarganfyddiadau chwilota arfordirol
Traeth Caerfai, ger Tyddewi, Sir Benfro.

Julia o Wild About Pembrokeshire, yn arwain sesiwn chwilota arfordirol ar draeth Caerfai, Tyddewi.

 

A oedd yr erthygl yma yn ddefnyddiol i ti?
Diolch yn fawr iawn am dy adborth.

Straeon cysylltiedig