Mae gan Gymru arfordir hynod, a hwnnw’n llawn trefi trawiadol, pentrefi prysur a golygfeydd godidog. Ond mae gan y glannau hefyd lefydd heb eu hail i fwyta ynddyn nhw. Dewch o hyd i’r caffi bach gwych yna ar y tywod, y dafarn uwchben yr harbwr a’r bwyty bendigedig wrth y môr, a hynny fesul ardal er mwyn i chi gael cynllunio’ch hoe fach nesaf ger y dŵr.

Arlwy’r arfordir yn y gogledd

Ynys Môn: Bwytai braf ger y môr

 Mae gan Ynys Môn 125 milltir o arfordir – a hwnnw’n baradwys i bawb sy’n hoff o gyfuno bwyd da â golygfeydd gwych o’r tonnau. Ar y lan ddwyreiniol, mae The Tavern on the Bay yn sefyll mewn lle hyfryd uwchben tywod Traeth Coch – un o draethau mwyaf yr ynys – ac mae’n lle rhagorol am bryd o fwyd gyda golygfa wych. 

Ar y lan orllewinol, mae The Oyster Catcher ger Rhosneigr yn lle campus am fwyd cyn crwydro traethau a thwyni Môn neu fwynhau ychydig o chwaraeon dŵr. Mae’n lle modern a braf, ac yn ddewis da ar ôl diwrnod ar lan y môr.

Am olygfa ychydig yn wahanol, Marina Caergybi amdani, lle mae ffenestri The Harbourfront Bistro yn edrych dros yr harbwr a’r cychod sydd wedi angori ger y lan. Mae’r olygfa o fan hyn, law yn llaw â bwydlen sy’n cynnig bwyd môr amheuthun, yn golygu bod cael pryd o fwyd yma’n brofiad llawn naws.

 

Llandudno a Bae Colwyn: Bwyta ger y lli yn y gogledd

Ychydig filltiroedd sy’n gwahanu Llandudno a Bae Colwyn – hen drefi glan môr Fictoraidd o’r iawn ryw, a’r rheini’n dal i ddenu pobl rif y gwlith. Maen nhw hefyd yn gyfleus iawn i grwydro Parc Cenedlaethol Eryri. Ewch am dro ar hyd glan y môr ym Mae Colwyn – ardal sydd wedi’i hadnewyddu’n hyfryd – ac fe ddewch chi ar draws bwyty Bryn Williams ym Mhorth Eirias, bistro cyfoes y cogydd enwog sydd wedi ennill gwobr Bib Gourmand Michelin. Mae’r fwydlen yn llawn cynnyrch Cymreig, tra bo’r golygfeydd braf o’r môr yn sicr o roi profiad bwyta cofiadwy i chi.

Fymryn ymhellach i’r tir, mae Neuadd Bodysgallen ar gyrion Llandudno yn blasty gwledig bendigedig sy’n gweini bwyd o’r radd flaenaf. Mae gan dref Conwy hefyd ddigonedd i ddenu pobl sy’n gwirioni ar eu bwyd, gan gynnwys The Jackdaw, sydd ar restr Canllaw Michelin ac yn cynnig bwydlen flasu gwbl Gymreig. Am rywle i ymlacio ger y tonnau, ewch am dro i’r Tŷ Coch ym Mhorthdinllaen wedyn – tŷ ar y tywod yng ngwir ystyr y gair! Mae’r dafarn hon yn sefyll ar erchwyn bae godidog ym Mhen Llŷn, ac yn aml yn cael ei henwi ymhlith tafarndai traeth gorau’r byd.

 

Y tu mewn i fwyty sy'n mwynhau golygfeydd godidog dros y môr.
Bwthyn gwyngalch sy'n edrych dros fae tywodlyd gyda chychod a golygfeydd o'r môr.

Bryn Williams ym Mhorth Eirias, Bae Colwyn, Tafarn Tŷ Coch, Porthdinllaen, Gogledd Cymru

Abersoch: Bwyd ger y bae ym Mhen Llŷn

Fel y byddech chi’n ei ddisgwyl a chithau mewn tref ar lannau Pen Llŷn, y bwyd môr sy’n serennu yn Abersoch. Mae The Potted Lobster yn gweini cimychiaid sydd newydd gael eu dal ym Mae Ceredigion, tra bo’r fwydlen yn The Dining Room yn llawn cynnyrch lleol a thymhorol.

Harbwr Abersoch gyda chychod a chychod hwylio wedi'u hangori ar y traeth gyda'r llanw allan.

Harbwr Abersoch, Gogledd Cymru, yn ymgolli yng ngolau'r haul

Arlwy’r arfordir yng Ngheredigion

Aberystwyth: Tafarndai a bwytai ger y lli

Mae’n werth aros am sbel yn Aberystwyth (neu ‘Aber’ i’r trigolion lleol) wrth deithio ar hyd Ffordd yr Arfordir. Beth am fwynhau tro bach ar y prom Fictoraidd, cyn dal y trên serth i ben y clogwyn a galw heibio i Lyfrgell Genedlaethol Cymru am ychydig o ddiwylliant?

Ar ôl magu archwaeth, anelwch am Ultracomida, deli a bar tapas hyfryd sy’n cyfuno bwydydd Sbaenaidd a Chymreig, ac sy’n ffefryn mawr ymhlith y ffyddloniaid.

 

Mae’r dewis o dafarndai’n ddi-ben-draw yn Aber hefyd, gan gynnwys y Glengower, tafarn lan môr draddodiadol lle gallwch chi fwynhau peint bach yng ngolwg y môr, a’r White Horse yn y strydoedd y tu ôl i’r prom.

 

Arlwy’r arfordir yn Sir Benfro

Dinbych-y-pysgod: ciniawa clasurol uwchben yr harbwr

Mae rhywbeth arbennig iawn yn yr heli yn Ninbych-y-pysgod. Tref fwced a rhaw hen ffasiwn ydy hon ar lawer ystyr, a’r traethau gwych yno wedi denu pobl ar eu gwyliau ers degawdau lawer. 

Am hufen iâ, mae Fecci’s Ice Cream Parlour wedi gweini’i ddanteithion ers y 1930au ac yn arbenigo mewn sundaes o’r iawn ryw. Ymhellach i lawr y ffordd, bachwch frechdanau cranc o The Stowaway Coffee Company a mwynhau eu bwyta ar waliau’r harbwr.

 

 

Dafliad carreg o’r fan honno mae Plantagenet House – o bosibl yr adeilad hynaf yn Ninbych-y-pysgod. Mae croeso i gŵn yn ystafell y Cei. 

 

Grwpiau o bobl yn bwyta wrth fyrddau yng ngolau cannwyll.

Plantagenet House, Dinbych-y-pysgod

Llanusyllt: lluniaeth wrth y lli

Fymryn dros y pentir o Lanusyllt mae bwyty Lan y Môr, sy’n bartneriaeth rhwng Hywel Griffith o’r Beach House yng Ngŵyr (bwyty sydd â seren Michelin), a Gerwyn Jones, cyn brif gogydd Grove of Narberth, bwyty arall sydd wedi ennill gwobrau lu.
 Dyma le godidog ger y môr, a’r fwydlen yn drawiadol tu hwnt. Efallai nad ydy hi’n syndod mai pysgod ffres ydy sêr y sioe! Mae llawer o bobl yn ystyried fan hyn yn un o lefydd bwyta gorau Cymru gyfan. 

Hefyd yn Llanusyllt mae’r St Brides Spa Hotel. Ewch yno i fwynhau tamaid i’w fwyta yn y bwyty uwchben y pwll gorwel, a’r golygfeydd o fae Llanusyllt yn ddigon i gipio’r anadl.

Llwybr a rheiliau sy'n arwain at adeilad modern gyda bwyty a seddi allanol.
Y tu allan i'r adeilad wedi'i orchuddio â phren gydag arwydd 'Lan y Môr' a seddi awyr agored.

Bwyty Lan y Môr, Llanusyllt

Gŵyr: y lle i gael gwledd

Glannau Bae Oxwich ydy cartref y Beach House, sydd yng ngofal y cogydd o fri, Hywel Griffith. Mae gan y bwyty seren Michelin, a’r fwydlen dymhorol yn dathlu cynnyrch gorau Cymru mewn llecyn cwbl odidog. Mae’r ffenestri tal a’r teras ger y tywod yn rhoi golygfeydd hynod dros y bae, sy’n golygu bod hwn yn lle gwych i giniawa mewn steil ger y môr. 

Golygfa trwy ffenestr tuag at deras glan môr awyr agored, gyda phobl yn sefyll ac yn eistedd o amgylch byrddau pren yn edrych dros yr arfordir ar ddiwrnod disglair.

Bwyta yn yr awyr agored yn The Beach House gyda golygfeydd dros dywod a dyfroedd Bae Oxwich.

 

Arlwy’r arfordir ym Mro Morgannwg

Ynys y Barri: Danteithion glan môr o’r iawn ryw

Mae hi’n wir bod cyfres deledu lwyddiannus Gavin & Stacey wedi dod â thref lan môr Ynys y Barri i lygad y byd, ond bu’n lle poblogaidd erioed. Yn dra difyr, penrhyn yn hytrach nag ynys ydy’r darn hwn o dir go iawn! Am fwyd glan môr traddodiadol, bachwch fag o sglodion i’w fwynhau ar y prom, cyn ymlacio gyda hufen iâ o Zio's Gelateria.

Tu mewn i Gelateria Zio gyda cownteri arddangos gwydr wedi'u llenwi â gelato a bunting lliwgar yn hongian o'r nenfwd.
Llaw yn dal cwpan o gelato siocled gyda bisgedi wedi'i frandio yn Zio's Gelateria.
Detholiad o flasau gelato yn cael eu harddangos mewn hambyrddau metel y tu mewn i gownter oergell yn Zio's Gelateria.

Zio’s Gelateria, Ynys y Barri, De Cymru

Dafliad carreg i lawr yr arfordir mae’r Blue Anchor Inn, tafarn to gwellt o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg sy’n aml yn ymddangos ar restri tafarndai gorau’r wlad. Maen nhw’n gweini prydau cartref swmpus yno ynghyd â detholiad gwych o gwrw go iawn. 

Ardal eistedd awyr agored gyda meinciau picnic wrth ymyl Tafarn yr Anchor Glas gwellt yn Aberddawan.
Ystafell fwyta draddodiadol yn y Blue Anchor Inn gyda waliau cerrig agored, trawstiau pren a byrddau a chadeiriau pren.

Tafarn Blue Anchor, Dwyrain Aberddawan

Penarth: Prydau wrth y pier

Tafarn sy’n arbenigo mewn bwyd ydy Hickmans, a honno’n sefyll yng nghanol y dref a’r awyrgylch yno’n wych. Fe allwch chi hefyd fwynhau llymaid ar y teras ar y to ar ôl cinio neu swper. 

Mae The Touring Club, bwyty Bryn Williams, ar agor o ddydd Mercher tan ddydd Sul. Dyma le hyfryd i fwynhau cynnyrch lleol, ac mae’r brecwastau a’r ciniawau’n werth chweil. Gyda’r nos, y teras ydy’r union fan i fwynhau platiau bach a choctels. 

Bwyty Hickmans ym Mhenarth, gyda’i du blaen croesawgar a’i deras awyr agored, yn cynnig lle perffaith i ymlacio a mwynhau bwyd a diod mewn awyrgylch bywiog ger y glannau.
Ardal lolfa yn Hickmans gyda seddi lledr, gwaith cerrig agored ac addurn cyfoes.
Tu mewn i'r Touring Cub ym Mhenarth, sy'n cynnwys cownter bar teils teal, cegin agored, llestri gwydr crog a stôl bar, gyda chwsmer yn cerdded heibio yn y blaendir.

Hickmans a The Touring Club, Penarth, De Cymru

Tref lan môr fechan ydy Penarth, ond mae’r dewis o lefydd bwyd yn niferus dros ben yma. Ar ôl crwydro’r strydoedd, mwynhau awyr iach y môr, ac edmygu’r pier Fictoraidd a’r pafiliwn Art Deco sydd wedi’i adnewyddu’n llwyr, anelwch am Bar 44 am ychydig o dapas.

Nepell o Forglawdd Bae Caerdydd wedyn, fe ddewch chi ar draws gwesty’r Custom House. Mae yno ddau fwyty, La Marina ac El Puerto, a’r rheini’n cynnig detholiad o brydau sy’n newid yn rheolaidd, a’r cynhwysion yn dymhorol a lleol.

 

Ardal fwyta olau ac awyrog yn The Custom House, gyda tho gwydr trawiadol, bar croesawgar a seddi bwyty cain sy’n creu awyrgylch hamddenol i fwynhau bwyd a diod wrth ymyl glannau Bae Caerdydd.
Cabinet sy'n heneiddio sych yn arddangos toriadau crog o gig y tu mewn i fwyty The Custom House.

The Custom House, Penarth, De Cymru

Yn chwilio am fwy o ysbrydoliaeth i fwyta wrth y môr? Darllenwch ein canllaw i’r llefydd gorau sy'n gweini bwyd y môr yng Nghymru. O’r bwyty bach yna uwch yr harbwr, i’r caffi ar y traeth, i’r llefydd sy’n coginio’u cynnyrch yn syth o’r lli.

 

A oedd yr erthygl yma yn ddefnyddiol i ti?
Diolch yn fawr iawn am dy adborth.