Ers 2002 mae’r gyfres wedi cael ei ffilmio yn Awstralia, ond eleni gyda chyfyngiadau yn sgil y pandemig bu’n rhaid symud i leoliad newydd – Castell Gwrych, ger Abergele.
Dros dair wythnos fe fydd gwylwyr yn gweld enwogion yn ymgymryd â heriau a threialon i ennill prydau bwyd, fydd yn y pendraw yn arwain at un ohonynt yn cael eu coroni yn Frenin neu Frenhines y Castell.
Mae’r castell atmosfferig yn denu sylw byd eang diolch i’r gyfres, sy’n gymorth i’r ymgyrch i adfer y plasty hardd rhestredig Gradd 1.

Gyda’r cyflwynwyr Ant a Dec yn agor y sioe gyda 'Noswaith dda', yr Ye Olde Shop yn troi’n Yr Hen Siop, a Keith yn troi’n Cledwyn, mae ymdrech i gyflwyno’r Gymraeg i gynulleidfaoedd newydd.
Roedd yr ymateb ar gyfryngau cymdeithasol i olygfeydd hynod gogledd Cymru yn arbennig, gan gynnwys lleoliad y sialens gyntaf, Penmon, gyda sawl un yn datgan bod Cymru’n well lleoliad i’r sioe nag Awstralia!

Mae’r penderfyniad i ffilmio’r gyfres yng Nghymru eleni yn dod â hwb hynod o bositif i’r sector dwristiaeth, ar ôl blwyddyn galed meddai Joanne Pamment, sy’n byw tafliad carreg o Gastell Gwrych.
'Mae Abergele yn sicr yn gweld budd o’r rhaglen, ac mae’r cyffro yn amlwg wrth i siopau’r stryd fawr addurno ffenestri, gyda Chyngor y Dref yn rhannu grant rhwng y siopa i fynd i ysbryd yr hwyl.'
'Es i ganol dref dydd Sadwrn ac roedd pawb jest mor hapus - y busnesau a’r gymuned - mae wedi rhoi hwb i bawb. Mae’r ysgolion yn gwneud prosiectau am y peth, y siopau yn gwneud cystadlaethau, a bwytai yn gwneud heriau… dwi’n neud bushtucker trial yn y dafarn leol, Pen y Bont, wythnos yma!'
'Mae Abergele llawn siopau annibynnol, ac mae’n hyfryd gweld y siopau yn llawn. Mae yna siopau gwych yma sy’n haeddu’r gefnogaeth. Oni’n meddwl bod Eisteddfod Abergele yn wyllt, ond mae hwn ar lefel arall!'



Mae Nia Elisabeth Jones yn fyfyrwraig sy’n byw yn Abergele ac yn gweithio yn nhafarn y George & Dragon.
'Doedd neb arfer mynd am dro heibio'r castell - a nawr mae 'na lot o wynebau newydd o gwmpas y dref, mae o'n lyfli!'
'Mae’n neis gweld gogledd Cymru’n cael sylw – yr holl ardaloedd fel Penmon hefyd. Mae 'na gymaint o drysorau o gwmpas.'
Anturiaethau Cymru
Does ryfedd iddyn nhw ddewis Cymru ar gyfer y gyfres - mae anturiaethau o bob math ym mhob cornel o’r wlad gyda gweithgareddau ar gael sy'n addas i bawb - os ydych chi'n ddigon dewr!
Tra mae’r enwogion yn ymgartrefnu yng Nghastell Gwrych beth am gynllunio'ch cyfres eich hun o heriau ar gyfer y flwyddyn newydd – a gweld a allwch chi goroni'ch hun yn Frenin neu’n Frenhines anturiaethau 2021!

