Wisgi a rhaeadrau yn Abergwyngregyn

Mae i’r lle hwn ei gymeriad arbennig ei hun. Dyma gartref Distylfa Aber Falls a gallwch aros yma am ginio. Ond byddwch yn ofalus - gall y ganolfan ymwelwyr eich temtio i wneud eich gin eich hun mewn sesiynau labordy! Rhowch gynnig ar ginio yng Nghaffi Hen Felin - hen felin y pentref sydd nawr y ganolfan gymunedol. 

Mae’r llwybr yma yn rhedeg ar hyd fflatiau tywod eang Lafan, sy’n ymestyn bron i Sir Fôn, paradwys i adarwyr. Am rywbeth gwahanol ewch i mewn i’r wlad. Cerddwch ar draws dôl at Raeadr Aber, y rhaeadr uchel sy’n rhoi ei enw i’r ddistyllfa.

Tawelwch a thrysorau ym Miwmares

Mae Biwmares llawn hanes. Dilynwch y broses gyfiawnder o’r 19edd ganrif o’r llys i’r carchar. Ac edrychwch ar gloc yr eglwys a gafodd ei felltithio gan garcharor ar y crocbren i fod yn anghywir am byth! Mae Castell Biwmares a’r ffos o’i gwmpas bron yn hollol gymesur, ac mae golygfeydd gwych ar draws y Fenai i Eryri o’r tyrau. Mae yma heddwch i’r enaid hefyd. Ymlaciwch mewn gweithdy peintio sidan yn Hartworks neu mwynhewch llonyddwch Gerddi'r Castell. Mae cychod yn mynd o’r pîr draw i Ynys Seiriol.

Golygfa o'r awyr o gastell Biwmares, Ynys Môn
Dau feiciwr yn gwylio cychod hwylio

Castell Biwmares a golygfeydd dros y Fenai

Mae’r ffordd i’r de ar lwybr yr arfordir yn serth ond mae’r golygfeydd yn arbennig – i fyny Allt Goch Bach 140m (460tr) ar hyd ffyrdd coediog gan edrych yn ôl ar y castell ac Ynys Seiriol tu hwnt.

Egni creadigol Caernarfon

Mae'n rhaid ymweld â Chastell Caernarfon i ddechrau, ond ar ôl y crwydro ewch i ganolfan gelfyddydau Galeri. Mae’n fywiog iawn, ac mae’r harbwr wedi cael ei adfer hefyd - mae unedau gwaith a chelf a marchnadoedd a digwyddiadau yng Nghei Llechi. Mae Gŵyl Fwyd Caernarfon yn uchafbwynt blynyddol ac mae llu o ddigwyddiadau eraill drwy’r flwyddyn. 

castell yn y cefndir â chychod o’i flaen

Mae tyrau anferth Castell Caernarfon yn edrych dros yr aber

Am daith hamddenol wyth milltir croeswch yn bont godi a dilyn llwybr yr arfordir i’r de allan o’r dref. Edrychwch am Eglwys Sant Baglan o’r 13edd ganrif. Yn Saron ewch i’r dwyrain ar draws caeau i ymuno â Lôn Eifion, llwybr cerdded nôl i Gaernarfon ar hyd hen reilffordd. Gallwch aros yma hefyd am Reilffordd Ucheldir Cymru rhag ofn y bydd angen pas.

 

Cilfachau cyfforddus yn y Borth

Cymuned fach gelfyddydol gyfeillgar ar y traeth hiraf yng Ngheredigion yw'r Borth. Mae yma orielau a siopau crefft, ac yn yr orsaf drenau mae amgueddfa fach hyfryd yn cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr. Cofiwch fynd i Libanus 1877, capel sydd bellach yn le bwyta, bar a sinema boutique. Yn y Friendship Inn mae cyfle i ganu’n gymdeithasol, neu mae'r Victoria Inn yn le braf am siocled poeth neu ginio dydd Sul yn edrych allan dros y traeth.

olion coedwig a foddodd ar y traeth gyda fachlud haul yn y cefndir

Yr haul yn machlud ar fonion coed ar draeth y Borth

Ac mae traeth y Borth yn ddigon o ryfeddod! Mae’n draeth melyn, gwastad, perffaith i hedfan barcud a syrffio i ddechreuwyr. Mae’n enwog am y bonion coed 4500 blwydd oed sydd i’w gweld pan fydd y llanw’n isel. Mae llwybr yn mynd i mewn i’r wlad yma, taith wastad hawdd yng nghanol UNESCO Biosffer Dyfi. Mae yma greaduriaid di-asgwrn-cefn a phlanhigion prin!

 

Chwilota yn yr aber yn Solfach

Pentref harbwr bach prydferth ar draeth cysgodol yw Solfach. Dechreuwch drwy grwydro'r traeth - mae llwybr yr arfordir yn mynd o’i amgylch heibio i’r odynnau calch hanesyddol. Pan fydd y llanw’n isel gallwch gerdded i lawr yr aber at ogof ynysig. Neu ewch i fyny’r llethr i felin wlân Solfach gyda fframiau gwau ac olwyn ddŵr yn gweithio. Mae Raul Speek Gallery yn donig Caribïaidd i’r enaid. Gallwch gwrdd â Raul ei hun yn peintio neu’n chwarae jazz.

Y lle cyntaf i fynd pan fydd angen bwyd yw Caffi mam-gu lle mae bob math o bice ar y maen. Yna ewch i’r Pointz Castle am hufen iâ neu i’r Cambrian Inn o’r 16eg ganrif am bryd blasus.

Am daith gerdded dda gallwch anelu tua’r de ar lwybr yr arfordir – pedair milltir droellog ar ben y clogwyn i draeth hirfaith Niwgwl.

Traethau a bwyd môr yn Saundersfoot

Traeth Saundersfoot yw’r seren yma, ac mae’r dref wedi llwyddo i ddarparu digon o fannau bwyta lle gallwch fwynhau’r olygfa o’r môr. Caban ceffylau yn gwerthu bwyd stryd ar y lanfa yw Cŵlbox, sy’n gweini bwyd môr gyda meinciau ar y tywod. Neu ewch i’r Stone Crab ar yr harbwr am olygfeydd hardd wrth fwyta wystrys, crancod a chimychiaid. Am rywbeth mwy crand mae Coast Saundersfoot yn cynnig bwyd rhagorol gyda golygfeydd o’r môr o bob cyfeiriad yn Coppet Hall.

Cychod yn harbwr Saundersfoot ar ddiwrnod heulog.
Yr ystafell fwyta yn Coast Restaurant, Saundersfoot gyda golygfeydd o’r môr.

Yr harbwr yn Saundersfoot a bwyty Coast gerllaw

Pan fydd hi’n bwrw glaw ewch i Periwinkle – gyda brecwast swmpus a tapas gyda’r nos, gallwch hefyd beintio’ch potiau eich hun yma.

Mae llwybr yr arfordir o Saundersfoot yn hwylus i bobl mewn cadair olwyn, cerbyd bach neu feic ar Lwybr y Tramffordd gan gynnwys twneli drwy’r pentir yn Coppet Hall a Wiseman’s Bridge. A pha le gwell i orffen y diwrnod nag yn y pwll moethus yn St Brides Spa?

Te prynhawn yn Llansteffan

Pan fyddwch wedi gorffen crwydro Castell Llansteffan, ewch i lawr i fwynhau croeso’r Castle Inn a gwylio bwrlwm y sgwâr. Mae cerddoriaeth fyw rhai nosweithiau yn yr Inn at the Sticks, neu gallwch fwynhau te prynhawn yn Llansteffan Tea Rooms, gan edrych dros afon Tywi at Lanyfferi. Ac os codwch yn gynnar, bachwch fara ffres Jamie yn siop y pentref!

Castell Llansteffan oddi fry, Sir Gaerfyrddin

Edrych dros gastell Llansteffan ar draws aber afon Tywi

Gallwch ddilyn llwybr yr arfordir i’r de ar hyd y lan at Fae Scott lle mae fila glan môr o’r 19edd ganrif. Tarwch heibio i ffynnon Antwn Sant ar eich ffordd – maen nhw’n dweud ei fod yn gallu iachau. Trowch yn ôl o’r fan hon ar hyd ymyl y castell. I gerdded ymhellach ewch ymlaen ar hyd llwybr yr arfordir nes ichi gyrraedd Wharley Point i edrych dros Fae Caerfyrddin bob cam draw i Ddyfnaint. Mae mwy o wybodaeth ar wefan Llwybr Arfordir Cymru.

Draw at y ffin yng Nghas-gwent

Mae Cas-gwent yn berffaith ar gyfer crwydro ymhlith tai trefol Sioraidd a siopau boutique annibynnol. Un o’r tai trefol yw Amgueddfa Cas-gwent gyda hanesion am y diwydiant adeiladu llongau yn y dref a masnach gwin y gorffennol. A chofiwch fynd i Gastell Cas-gwent wrth gwrs. 

Cas-gwent yn dangos y bont a’r castell.

Cas-gwent ar y ffin â Lloegr

Rydych ar ddiwedd (neu ddechrau) Llwybr Arfordir Cymru yma, a bydd pobol sy’n mynd ar deithiau cerdded pell yn aml yn ymuno yma â Llwybr Clawdd Offa, sy’n rhedeg ar hyd y ffin i gyd bron.  

Darllen rhagor: Llwybrau cerdded cenedlaethol Cymru

Straeon cysylltiedig