Mae llwybrau beicio mynydd yn cael eu graddio er mwyn rhoi syniad i chi o beth i’w ddisgwyl, ac i’ch helpu i ddewis llwybr addas i chi, yn dibynnu ar y tywydd a’ch profiad.

Mae’r awdur Dave Evans wedi graddio’r llwybrau beicio mynydd isod gan ddefnyddio diffiniadau safonol UK MTB ar gyfer graddio llwybrau – mae mwy o fanylion ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae’r rhain i gyd yn llwybrau gwyrdd neu las, ac felly’n ddewisiadau da i ddechreuwyr neu deuluoedd sydd â beicwyr amhrofiadol yn eu plith.

Llwybrau beicio mynydd i ddechreuwyr fesul ardal

Minor Taur, Parc Coedwig Coed y Brenin

Gradd: Glas – trac sengl cymedrol
Pellter: 3, 5, 9, 12km (2-8 milltir) (1-3 awr)

Coed y Brenin, ger Dolgellau, oedd un o ganolfannau beicio mynydd pwrpasol cyntaf Prydain. Mae gan lwybr glas Minor Taur bedair dolen, sy’n ei wneud yn berffaith i bobl sydd am ddewis llwybr o wahanol hyd (3, 5, 9 neu 12km) i gyd-fynd â gallu pawb yn y grŵp. Mae’r llwybrau lletach, hamddenol hyn yn ddelfrydol i’r rheini sydd am brofi cyffro beicio mynydd, ond heb ddringfeydd mawr na rhannau technegol. Mae’r tair dolen gyntaf yn addas i feics mynydd wedi’u haddasu.

Mae gan Ganolfan Ymwelwyr Coed y Brenin sawl lle chwarae i ddifyrru’r plant. Mae’r Ffowndri i’w chanfod yma hefyd – ardal i ymarfer eich sgiliau a chael dipyn o hwyl ar yr un pryd.

Mae siop feics y ganolfan, Beics Brenin, yn llogi beics arferol ac e-feics. Trefnwch ymlaen llaw i osgoi cael eich siomi yn y lleoliad poblogaidd hwn.

Coedwig Beddgelert, Beddgelert

Bedwen
Gradd: Gwyrdd – trac sengl hawdd
Pellter: 6km (3.75 milltir) (1 awr)

Derwen
Gradd: Gwyrdd – trac sengl hawdd
Pellter: 9.5km (6 milltir) (1-2 awr)

Mae Coedwig Beddgelert, rhwng pentrefi Rhyd Ddu a Beddgelert, yn lle bach a’r llwybrau’n fyr, sy’n gwneud y rheini’n ddelfrydol i deuluoedd sydd â beics i’w reidio oddi ar y ffordd. Does dim rhaid cael systemau hongiad (suspension) ar y beics, ond mae’n well cael teiars trwchus a brêcs da i gael antur ddiogel a chyffrous.

Mae’r ffyrdd garw, di-draffig drwy’r goedwig yn gyfle i feicio ac edmygu’r mynyddoedd yr un pryd, gan gynnwys yr Wyddfa ei hun. Mae’r llwybrau’n cysylltu â’i gilydd i roi dewis o ddwy ddolen lai, neu un ddolen fwy, sy’n arwain at harddwch hynod Llyn Llywelyn – lle penigamp i gael picnic.

Dyn a phlentyn ar gefn beics mynydd, yn reidio ar hyd llwybrau graean drwy goedwig
Dau unigolyn ar gefn beics mynydd ar lwybr graean ger llyn.

Llwybrau Bedwen a Derwen, Coedwig Beddgelert, Beddgelert, Gogledd Cymru

Plwg a Plu, Antur Stiniog, Blaenau Ffestiniog

Gradd: Gwyrdd – trac sengl hawdd
Pellter: 2km (1.25 milltir) (0.25-0.5 awr – i lawr allt bob cam o’r ffordd!)

Canolfan Beicio Mynydd Antur Stiniog ydy unig ganolfan beicio mynydd lawr allt bwrpasol y gogledd sy’n cynnig llwybr gwyrdd i ddechreuwyr – ac fe gewch chi fwynhau lifft mewn cerbyd i’r top!

Mae llwybrau Plwg a Plu yn gyflwyniad gwych i ‘feicio disgyrchiant’, gyda dros 2km (1.25 milltir) o elltydd braf i’w disgyn, a digonedd o hwyl i’w gael ar y ffordd. At hynny, mae yma lwybrau glas i brofi eich medrau wrth i chi fagu hyder yn ystod y dydd.

Oherwydd y tir creigiog, rydyn ni’n awgrymu eich bod yn defnyddio beics mynydd modern gyda systemau hongiad (suspension) yn y ffrynt, fan lleiaf, ynghyd â brêcs disg. Mae gan y ganolfan siop a chaffi croesawgar, ac mae modd rhentu beics lawr allt yma os nad oes gennych chi un eich hun.

Dau feiciwr mynydd yn reidio i lawr llwybr troellog yn Antur Stiniog.

Llwybrau yn Antur Stiniog, Blaenau Ffestiniog, Gogledd Cymru

Llyn Trawsfynydd, Trawsfynydd

Gradd: Gwyrdd – trac sengl cymedrol
Pellter: 15km (9.3 milltir) (2-3 awr)

Llwybrau gyda wyneb da a digon o arwyddion i ddangos y ffordd ydy’r rhain. Maen nhw’n dechrau ym mhen gogleddol Llyn Trawsfynydd ac yn dolennu’n hamddenol o’i amgylch. Dim ond un ddringfa fawr sydd yma. Mae modd gwthio’r beic i fyny’r rhan hon, ac mae’n werth wneud hynny am y golygfeydd godidog o’r copaon o’ch cwmpas. Mae’r llwybr tawel hwn yn ddelfrydol i blant, ond yn antur braf i’r teulu i gyd. Mae modd llogi beics ar y safle.

Llyn mewn gwyll, gyda cholofnau ar y lan.

Llyn Trawsfynydd, Gogledd Cymru

Coed Llandegla, Wrecsam

Gradd: Gwyrdd – trac sengl cymedrol
Pellter: 5km (3 milltir) (1-2 awr)

Mae Oneplanet Adventure yn lle heb ei ail i ddechrau beicio mynydd. Mae gan y ganolfan le llogi beics a gweithdy, ynghyd â roliau bacwn enwog i dynnu dŵr o’r dannedd cyn i chi gychwyn ar eich antur.

Mae’r Llwybr Gwyrdd wedi’i arwyddo ac yn 5km (3 milltir) o hyd, a hwnnw wedi’i gynllunio’n benodol i ddifyrru’r teulu. Mae’r llwybr yn troelli o amgylch y gronfa ddŵr braf, yna’n anelu drwy’r goedwig cyn y wib i lawr allt yn ôl i’r ganolfan ymwelwyr.

Mae yma hefyd lwybrau glas, coch a du, sy’n gwneud Llandegla yn lle gwych i deuluoedd pan fydd eu gallu’n gymysg ar gefn beic.

MB Wales – gwybodaeth am feicio mynydd yng Nghoed Llandegla, Gogledd Cymru

Llwybr Brenig, Llyn Brenig, Conwy

Gradd: Gwyrdd/glas – trac sengl cymedrol
Pellter: 15km (9.3 milltir) (2-3 awr)

Mae Llwybr Glas Brenig yn dechrau ac yn gorffen yng Nghanolfan Ymwelwyr Llyn Brenig (lle mae modd llogi beics) a dyma daith ddelfrydol i deuluoedd neu’r rheini sy’n amhrofiadol ac am fynd i grwydro cefn gwlad ar ddwy olwyn. Fan hyn, fe gewch chi fynd linc-di-lonc o amgylch y llyn anferth, a’r cyfan yn teimlo’n bell iawn o brysurdeb y byd. Dim ond un ddringfa fawr sydd, a darn byr ar ffordd dawel, sy’n gwneud y llwybr hwn yn addas i unrhyw feic sydd â theiars oddi-ar-y-ffordd. Cofiwch bacio picnic a threulio amser yn mwynhau’r bywyd gwyllt sydd o’ch cwmpas ym mhobman.

Dyn a dau o blant ar feics ar lan llyn gyda chychod.
Oedolyn a phlentyn ar lwybr beicio fflat ger llyn llydan.

Teulu’n beicio o amgylch Llyn Brenig, Gogledd Cymru

Llwybr Alwen, Cronfa Ddŵr Alwen, Cerrigydrudion

Gradd: Gwyrdd – trac sengl cymedrol
Pellter: 11km (6.8 milltir) (1.5-2 awr)

Trac sengl braf, wedi’i greu’n benodol i feicio, ydy Llwybr Alwen a hwnnw’n cysylltu â ffyrdd a thraciau coedwig wrth droelli o amgylch Cronfa Ddŵr Alwen a thrwy Goedwig Clocaenog. Dim ond un ddringfa fawr sydd, tua hanner ffordd ar hyd y llwybr. Mae’r llwybr hwnnw’n dechrau ger argae Alwen ac yn dringo o’r coed i weundir agored sy’n rhoi golygfeydd hyfryd o ddarn bach o Gymru nad oes llawer o bobl yn gwybod dim amdano. Mae modd ymuno â Llwybr Brenig drwy gychwyn a gorffen yng Nghanolfan Ymwelwyr Llyn Brenig – bydd hynny’n creu taith o ryw 24km (15 milltir) i gyd

Melindwr, Bwlch Nant yr Arian, ger Aberystwyth

Gradd: Glas – trac sengl cymedrol
Pellter: 2/5km (1.25 - 3 milltir) (1-2 awr)

Mae llwybrau Melindwr ymhlith llwybrau gorau’r wlad lle gall beicwyr sy’n hyderus ar lwybrau glas wella’u sgiliau cyn mentro ar y llwybrau coch sydd gerllaw.

Mae dwy ddolen yma, a’r rheini’n cyfuno i greu taith 5km (3 milltir) droellog ar drac sengl hyfryd, gyda chanteli mawr a chyfleoedd rif y gwlith i rowlio. Mae gan bob dolen ddringfa drwy’r goedwig, ond digonedd o feinciau i gael saib a mwynhau harddwch Mynyddoedd Cambria cyn i chi fwynhau gwibio i lawr y rhiw.

Mae gan ganolfan Bwlch Nant yr Arian ei hun lawer mwy i’w gynnig i’r teulu, gyda llwybrau cerdded ar lan y llyn, ardaloedd chwarae, ac arddangosfa ryfeddol sy’n bwydo barcutiaid coch. Mae yno hefyd drac pwmpio i’r rheini sydd am ddal ati i reidio tra bydd gweddill y criw’n ymlacio yn y caffi.

Barcutiaid Coch yn hedfan dros lyn.
Tri o bobl ar feics mynydd ar lwybr graean ar ochr bryn.

Barcutiaid coch a llwybrau beicio mynydd yn Nant yr Arian, Ponterwyd, Canolbarth Cymru

Llwybr Derwen, Coedwig Brechfa, Caerfyrddin

Llwybr Derwen
Gradd: Gwyrdd – trac sengl hawdd
Pellter: 5km (3 milltir) (1 awr)

Llwybr beicio mynydd o’r iawn ryw ydy hwn, er mai llwybr gwyrdd ydy o. Mae’n ddelfrydol i ddechreuwyr.

Mae Llwybr Derwen yng Nghoedwig Brechfa yn troelli’n ysblennydd drwy’r dail, gan ddringo’n hamddenol i un o goetiroedd naturiol mwyaf y de. I fanteisio i’r eithaf ar y llwybr hwn, mae’n syniad da cael beic mynydd modern gyda brêcs disg.

Llwybrau Gwyrdd a Glas Derwen
Gradd: Glas – trac sengl hawdd
Pellter: 10km (6.2 milltir) (2-3 awr)

Bydd modd i feicwyr mwy anturus ymestyn eu taith drwy ychwanegu dringfa fwy serth y llwybr glas at y llwybr gwyrdd. Bydd yr ymdrech ychwanegol hon, sy’n 5km (3 milltir) o hyd, yn talu ar ei chanfed wrth i chi droelli ar hyd llwybrau coedwig cul cyn gwibio yn ôl i lawr ar ddarn igam-ogam gwefreiddiol i ymuno â’r llwybr gwyrdd.

Os byddwch chi’n mwynhau’r llwybr glas, mae hwn yn ymarfer da cyn mentro ar lwybr coch Gorlech i lawr y ffordd, sy’n fwy serth a thechnegol.

MB Wales – gwybodaeth am feicio mynydd yng Nghoedwig Brechfa, Gorllewin Cymru

Llyn a Chanolfan Ymwelwyr Llys-y-frân

Mae Llyn a Chanolfan Ymwelwyr Llys-y-frân yn Clarbeston Road yn lle penigamp i’r teulu dreulio diwrnod ar gefn beics. Mae yma lwybr braf i deulu ar hyd glannau’r gronfa ddŵr, yn ogystal â thrac pwmpio i ymarfer eich sgiliau cyn rhoi cynnig ar rai o’r llwybrau glas newyddaf yng Nghymru.

Mae saith o lwybrau glas i ddewis o’u plith. Dyma dri o’r goreuon!

Grebe Glen
Pellter: 300m (0.3 awr)

Trac sengl troellog sy’n mynd i lawr at lan y dŵr lle mae’n rowlio i fyny ac i lawr. Mae darn creigiog gradd glas opsiynol yma hefyd i roi mwy o her.

Woodstock Weave
 Pellter: 750m (0.5 awr)

Ymgollwch yn y coetir hynafol trwchus, lle mae’r llwybr yn dringo’n raddol bach cyn nadreddu i lawr rhiw hir rhwng y dail.

Badger’s Bank
 Pellter: 1000m (<1 awr)

Dyma lwybr glas hiraf y safle, sy’n dringo’n droellog i ben wal y chwarel, lle mae golygfeydd godidog yn eich aros. Mae yma glogfaen gradd coch opsiynol i brofi’ch sgiliau, cyn y cewch chi hwyl a sbri yn dychwelyd i lawr y rhiw rhwng y coed.

Mae caffi’r Lakeside yn y Ganolfan Ymwelwyr fodern yn lle campus am gacen a phaned wedyn. Fe allwch chi logi beics yma, ac mae gweithdy hefyd ar gael os bydd angen cymorth arnoch chi.

Grŵp o bedwar beiciwr ar lwybr llyfn, gwastad ger cronfa ddŵr.

Beicio ger Llyn a Chanolfan Ymwelwyr Llys-y-frân, Clarbeston Road, Sir Benfro, Gorllewin Cymru

Kermit, BikePark Wales, Merthyr Tudful

 Yn BikePark Wales, fe allech chi feddwl eich bod chi mewn pentref sgïo diolch i’r lifftiau a gewch chi mewn cerbydau a’r gwasanaeth rhentu beics. Y cyfan sydd angen i feicwyr newydd ei wneud ydy trefnu’r pecyn iawn a gadael i BPW ofalu am bopeth arall. Ar ôl i chi gyrraedd, fe gewch chi lifftiau diddiwedd i’r top i reidio eto!

Ond peidiwch â glanio yno’n ddirybudd. Mae’n hollbwysig trefnu lle ymlaen llaw drwy’r wefan. Mae gan BPW bob math o offer gwych ar gael i’w logi, ynghyd â phecynnau cynefino a theithiau tywys sy’n golygu y gall hyd yn oed ddechreuwyr pur fwynhau’r profiad.

Gall y rheini sydd â’u hoffer eu hunain drefnu pasys i’r top a dewis o blith bron i ddeugain o lwybrau. Yn eu plith, mae 14 o opsiynau gwyrdd a glas, sy’n ddelfrydol i ddechreuwyr a theuluoedd fel ei gilydd.

Kermit
 Gradd: Gwyrdd – trac sengl hawdd
 Pellter: 5km (3 milltir) (0.5 awr – i lawr rhiw bob cam o’r ffordd!)

Kermit ydy’r llwybr trac sengl i lawr rhiw hiraf ym Mhrydain i ddechreuwyr. Mae’n llwybr cwbl unigryw, yn dechrau bron i 500 metr uwch lefel y môr, gyda golygfeydd syfrdanol o Ben y Fan a Bannau Brycheiniog. Fel rhuban llyfn, mae’n gweu wedyn drwy goetir cymysg i lawr y rhiw am 5km (3 milltir). Cafodd y llwybr ei ddylunio i wneud i feicwyr ymddangos yn fedrus, ac mae’n addo reid lawn hwyl i feicwyr sydd â sgiliau trin beic da.

BikePark Wales | Fideo o’r llwybr - Kermit

Llwybr Gwyrdd Rookie, Coedwig Afan, Castell-nedd

Gradd: Gwyrdd – trac sengl hawdd
Pellter: 6.1km (3.7 milltir) (1-2 awr)

Mae gan Lwybr Gwyrdd Rookie ym Mharc Coedwig Afan bopeth i roi diwrnod penigamp i’r teulu. A hwnnw wedi’i ddylunio’n benodol ar gyfer teuluoedd a dechreuwyr, mae digonedd o le i bawb ar y llwybr llydan, troellog hwn, gan gynnwys pobl sy’n defnyddio beics wedi’u haddasu a chadeiriau olwyn. Mae yma hefyd lefydd picnic i gael hoe, bwyta a mwynhau. Fe all y rheini sy’n awyddus i wella’u doniau technegol fynd draw i’r ardal sgiliau am fwy o her.

Os byddwch chi yn yr ardal ar wyliau, mae modd llogi beics yn lleol.

Plentyn ar gefn beic mynydd yn reidio ar hyd llwybr estyllod pren.

Llwybr Rookie, Parc Coedwig Afan, Cynonville, Port Talbot, Gorllewin Cymru

Mwy o wybodaeth

Dau unigolyn ar gefn beics mynydd ar lwybr ar lan llyn.

Llwybr Derwen, Beddgelert, Gogledd Cymru

A oedd yr erthygl yma yn ddefnyddiol i ti?
Diolch yn fawr iawn am dy adborth.

Straeon cysylltiedig