Dw i’n caru’r môr. Caru gweld yr haul yn disgleirio ar draws y dŵr, gwylio bywyd gwyllt o’m padlfwrdd a gwylio’r sglefrod môr yn arnofio’n hamddenol heibio. Dwi’n caru gweld pysgod yn neidio allan o’r dŵr a’r eiliadau arbennig yna pan mae o’n jyst chdi ar dy fwrdd yn gwylio llamhidyddion yn llamu trwy’r dŵr.

Mae arfordir Cymru yn arbennig, ond mae'n rhaid paratoi yn feddyliol ac yn gorfforol cyn mynd am antur ar y môr. Dyma rannu fy mhrofiadau a chyngor gyda chi… 

Menyw â gwallt tywyll ar badlfwrdd ar draeth.
Llun o gefn padlfyrddiwr yn gwisgo cap a chymorth hynofedd melyn, yn dal padl, a silwét yn erbyn adlewyrchiad o'r haul ar y môr.

Sian Sykes gyda'i phadlfwrdd 

Cynllunio a pharatoi

Y peth pwysicaf yw paratoi yn drylwyr. Rydw i’n astudio a chreu mapiau wrth drefnu’r daith gan edrych am fannau i gychwyn a gorffen, nodi risgiau posib ac hefyd llwybrau dianc rhag ofn bydd angen dod a’r siwrne i ben ar frys. Rwyf hefyd yn nodi rhagolygon y tywydd a gwybodaeth am y llanw os yw’n berthnasol. Cofiwch mae bob amser yn well mynd gydag arweinydd cymwys.

Gallu a phrofiad

Parwch eich antur arfordirol â'ch gallu a phrofiad. Peidiwch â mynd i lefydd garw a gwyntog gyda glaniadau cyfyngedig os nad oes gennych unrhyw brofiad o'r amodau hyn. Cadwch yn saff, gan gofio mai diwrnod hamddenol ar y dŵr yw’r nod.

Offer

Mae’n bwysig gwybod pa offer sydd angen ar eich taith, a deall sut mae’r offer yn gweithio. Peidiwch â bod yr unigolyn hwnnw sydd â'r holl offer ond dim syniad sut i'w defnyddio! Profwch eich offer a gwnewch yn siŵr eich bod yn hollol gyfforddus ac yn hyderus yn ei defnyddio fel na fyddwch yn mynd i banig mewn argyfwng. Y peth pwysicaf yw sicrhau eich bod yn gwisgo tennyn wedi ei glymu'n gywir i'r padlfwrdd, a siaced achub / cymorth hynofedd wedi'i ffitio'n dda. Defnyddiwch y rhestr isod i sicrhau bod gennych yr offer priodol ar gyfer yr amodau:

  • Tennyn (yn ddelfrydol gwregys gall eu rhyddhau'n gyflym gyda thennyn coil ynghlwm wrth y bwrdd ar ddŵr gwastad a thennyn ffêr syth os ydych chi'n syrffio)
  • Padlfwrdd (addas ar gyfer eich gallu, a'r maint cywir o ran pwysau, hyd a lled)
  • Rhwyf 
  • Siaced achub / cymorth hynofedd (maint cywir, gyda chwiben argyfwng) 
  • Siaced gwrth-wynt
  • Siaced gynnes neu dop inswleiddio
  • Menig a het
  • Esgidiau (sandalau, esgidiau ymarfer corff, esgidiau gwlyb - unrhyw beth sy'n eich helpu i gerdded ar draws glannau garw a thraethau)
  • Het haul a sbectol haul polariaidd
  • Eli haul ac eli gwefus
  • Cit cymorth cyntaf
  • Oriawr neu ffordd o ddweud yr amser
  • Ffordd o gyfathrebu - ffôn symudol mewn bag sych (mae bag rhewgell yn gweithio fel opsiwn rhad)
  • Dillad sbâr cynnes
  • Fflasg o ddiod gynnes (yn ddibynnol ar y tywydd)
  • Dŵr
  • Byrbrydau llawn egni
  • Chwiben
  • Unrhyw feddyginiaeth angenrheidiol (gyda rhai sbâr)
  • Tortsh
  • Map a chwmpawd
  • Manylion cysylltu mewn argyfwng 
Menyw yn cario padlfwrdd yn cerdded ger twyni tywod ac môr gyda machlud haul yn y cefndir.

Sian Sykes yn padlfyrddio yn Llanddwyn

Tywydd

Rydw i’n astudio’r rhagolygon tywydd diweddaraf i ddeall yn well sut fydd cyflwr y môr. Mae’n help i ddeall beth i’w ddisgwyl. Mae ystyried cyfeiriad y gwynt yn angenrheidiol hefyd. Peidiwch byth a mynd allan pan mae’r gwynt yn chwythu o’r tir allan i’r môr.

Llanw

Mae’n bwysig ymchwilio a deall llif y llanw a dylid ei ddefnyddio, neu ei osgoi – fel nad oes trafferthion. Gall y llanw fod yn gryf iawn mewn rhai manau ar adegau penodol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gyfarwydd ag amseroedd y llanw cyn cychwyn ar y môr.

Cyfathrebu

Sut ydych chi'n mynd i gysylltu â'r gwasanaethau brys os bydd rhywbeth yn digwydd? Cysylltwch â Gwylwyr y Glannau i'w hysbysu o'ch cynllun o flaen llaw, byddai'n well ganddyn nhw wybod am eich taith yn hytrach na derbyn galwadau gan y cyhoedd yn poeni eich bod yn mynd allan i'r môr yn anfwriadol. I mi, Gwylwyr y Glannau, yw fy ngheidwaid ar y môr.

     

    Person ar padlfwrdd ar y môr gyda machlud haul.

    Sian Sykes padlfyrddio wrth i'r haul fachlud

    Bwyd

    Ar y môr y peth allweddol yw yfed digon. Cofiwch fynd a bwyd hefyd rhag ofn eich bod angen ychydig o egni ychwanegol.

    Achub

    Ydych chi'n gwbl hyderus gydag achub eich hun neu eraill? Ydych chi'n gyfarwydd â chymorth cyntaf sylfaenol? Os ydych chi, mae'n lleihau'r angen i alw am gymorth ac i fod yn annibynnol ac yn hunangynhaliol wrth fynd ar anturiaethau.

    Côd Ymddygiad Morol

    Mae’n bwysig eich bod yn gyfarwydd â’r Côd Ymddygiad Morol. Yng Nghymru rydym yn ffodus o‘r bywyd morol rhyfeddol. Fodd bynnag mae mamaliaid morol a bywyd gwyllt yn cael eu niweidio. Er does gan badlfwrdd ddim injan, mae’n gallu achosi cymaint o niwed i fywyd morol a llongau modur. Mae’n rhaid bod yn ymwybodol o’r Cod Ymddygiad cyn cychwyn allan ar y môr. 

    Gadael dim ar ôl

    Mae Cymru yn wlad mor brydferth ac mae angen i ni wneud ein gorau glas i'w gwarchod. Felly ystyriwch yr amgylchedd a sut rydych chi'n ei adael. Mae angen i ni fod yn lysgenhadon cefnfor er mwyn ei warchod ar gyfer y genhedlaeth nesaf. Ewch â'ch sbwriel gyda chi a chaniatáu amser i lanhau’r traeth hefyd! Gwnewch eich rhan a helpwch yr amgylchedd.

    Menyw yn sefyll yn y môr gyda phadl fwrdd.

    Sian Sykes a'i phadlfwrdd

    Cofiwch gyngor Sian…

    • Cofiwch wneud ymarfer corff i gynhesu cyn mynd ar eich padlfwrdd
    • Cofiwch pa mor gryf yw’r haul wrth adlewyrchu o’r môr. Gwisgwch sbectol haul polariaidd, hylif haul, ac eli gwefus
    • Byddwch yn barod i newid eich meddwl ac addasu ar fyr rybudd
    • Dangoswch barch tuag at eraill ar y môr

    Padlfyrddio ar hyd y Fenai, gyda Psyched Paddleboarding  

    Padlfyrddio yng Nghymru

    Ymhlith hoff lefydd Sian i badlfyrddio ar y môr mae Ynys Môn a Sir Benfro. Edrychwch ar wefan cwmni Sian, Psyched Paddleboarding, am brofiadau SUP, cyrsiau hyfforddi, ac offer.

    Golygfa o Ynys Llanddwyn gyda chlogwyn a môr a pherson yn cario padlfwrdd
    Llun o draeth Barafundle o uchder.
    Llongddrylliad 'Helvetia' Rhosili a Phen Pyrod o dan fachlud haul ym Mhenrhyn Gŵyr.

    Harddwch Ynys Llanddwyn, Ynys Môn, Bae Barafundle, Sir Benfro a Bae Rhosili a Phen Pyrod, Gŵyr

    Nodyn diogelwch...

    Mae padlfyrddio yn gamp a allai fod yn beryglus a dylech gymryd gofal priodol cyn ymgymryd ag unrhyw un o'r teithiau. Mae'n well mynd allan gydag arweinydd profiadol. 

    Mae mynd ar antur awyr agored yn hwyl, ond darllenwch am y risgiau o flaen llaw a gwnewch yn siŵr eich bod chi'n barod.

     

    Straeon cysylltiedig