Gogledd Cymru

Beddgelert a Charreg Fedd Gelert

Yn dechrau ac yn gorffen ym mhentref tlws Beddgelert ym Mharc Cenedlaethol Eryri, mae’r daith gerdded fer, gylchol hon yn dilyn llwybr fflat ger y dŵr ac mae’n gwbl addas i olwynion. Ar hyd Taith Bedd Gelert byddwch yn dilyn glan Afon Glaslyn ac mae’n bosib y gwelwch chi drenau stêm Rheilffordd Ucheldir Cymru yn ymlwybro heibio. Fe welwch chi hefyd fedd Gelert, cofeb i gi arwrol Llywelyn Fawr, tywysog Cymru yn y 13eg ganrif. Yn ôl ym Meddgelert, fe gewch chi ddigon o ddewis o dafarndai, caffis a siopau – yn ogystal â thoiledau cyhoeddus hygyrch.

Pellter: 1.6 milltir (2.6km)

Arwyneb: Fflat ac â phafin gan fwyaf

Caniatewch: 1 awr

Llwybr gro mân yn arwain at goeden wrth garreg goffa
Cerflun o Gelert y ci ym Meddgelert.

Beddgelert, Eryri

Llangefni a Llyn Cefni

Mae’r daith hon yn dechrau yn Llangefni yn Ynys Môn ac mae’r llwybr yno-ac-yn-ôl yn cyfuno taith ar hyd llwybrau pren Gwarchodfa Natur Nant y Pandy (The Dingle) a llwybr beicio tarmac Lon Las Cefni. Wrth i chi deithio drwy’r coetir o amgylch Afon Cefni, cadwch lygad allan am wiwerod coch prin yn y coed uwchben ac am flanced o flodau gwyllt lliwgar yn y gwanwyn a’r haf. Pan ddewch chi allan o’r goedwig fe welwch chi ddŵr y llyn yn disgleirio o’ch blaen, yn gartref i nifer o adar hirgoes a bywyd gwyllt dyfrol. Mae digon o lefydd i brynu bwyd a diod yn Llangefni ynghyd â thoiledau cyhoeddus hygyrch.

Pellter: 3.5 milltir (5.6km)

Arwyneb: Tarmac a llwybrau pren â rheiliau

Caniatewch: 1-2 awr

Canolbarth Cymru

Coed Cnwch

Yn dechrau o Ganolfan Ymwelwyr Cwm Elan tu allan i Rhaeadr Gwy, mae’r daith gerdded fer drwy Goed Cnwch yn gyflwyniad gwych i ryfeddodau Cwm Elan, rhai yn naturiol ac eraill wedi’u creu gan ddyn. Mae’r llwybr cylchol yn mynd heibio waliau tal a mawreddog argae Caban Coch sy’n troi’n rhaeadr nerthol pan fo lefelau’r dŵr yn uchel, cyn arwain drwy goedwig gysgodol sy’n canu â sŵn adar ac anifeiliaid.

Mae’r ganolfan ymwelwyr yn llawn gwybodaeth am y gamp beirianyddol anhygoel a drawsnewidiodd y cwm llonydd hwn yn un o’r ardaloedd dŵr croyw mwyaf yn y wlad. Mae hefyd yno gaffi, siop a thoiledau – yn ogystal ag ardal chwarae tu allan i ymwelwyr iau.

Pellter: 0.87 milltir (1km)

Arwyneb: Llwybrau tarmac

Caniatewch: 1 awr

Llun o’r awyr yn edrych ar y coed gwyrddion, y gronfa a’r argae.

Caban Coch, Cwm Elan

Rhaeadrau Coedwig Hafren

Ewch draw at darddle’r dŵr yng Nghoedwig Hafren yn ardal y Mynyddoedd Cambrian lle gallwch grwydro glannau’r Afon Hafren cyn iddi dyfu’n un o afonydd mwyaf Cymru. Mae’r afon yn tarddu o gorsydd mawn uwch y goedwig ar lethrau mynydd Pumlumon ac yn magu cyflymder a nerth wrth iddi lithro i lawr dros gyfres o raeadrau.

Mae Llwybr y Rhaeadrau yn arwain yn syth o’r maes parcio, yn dilyn glan yr afon ar hyd llwybr pren i olygfan uwch. Â mainc bicnic hygyrch a golygfeydd hardd o’r rhaeadrau, dyma’r lle perffaith i oedi am damaid bach i’w fwyta. Mae’r rhan o’r llwybr am yn ôl yn mynd drwy’r coed ar hyd llwybr gwastad yn ôl i’r maes parcio, sy’n cynnig llefydd parcio Bathodyn Glas a thoiledau hygyrch.

Pellter: 0.5 milltir (0.9km)

Arwyneb: Llwybr pren a llwybrau gwastad

Caniatewch: 30 munud i awr

Llwybr pren ar lan afon â choed tal bob ochr.

Coedwig Hafren, yn y Mynyddoedd Cambrian

De Cymru

Gerddi Dyffryn

Wedi eu lleoli ar gyrion Caerdydd, mae gerddi tlws Edwardaidd Dyffryn yn berffaith ar gyfer crwydro hygyrch. Gyda llwybrau hawdd i’w dilyn yn igam-ogamu ar draws y safle, gallwch chi ddilyn eich trwyn drwy’r gerddi i weld casgliad o gilfachau wedi eu crefftio’n gywrain, gerddi rhosod yn gorlifo â lliw a phersawr a lawntiau ffurfiol yn ymestyn dros ehangder y safle.

Mae yno hefyd ardd cegin furiog a thŷ gwydr trofannol â’i lond o flodau egsotig o bob cwr o’r byd. Yn ogystal â bod â thoiledau hygyrch a chaffi, gall ymwelwyr hefyd ddefnyddio cadeiriau olwyn y safle, sgwteri symudedd a bygi sy’n cael ei redeg gan wirfoddolwyr (ond bydd rhaid i chi wirio ymlaen llaw a yw’r adnodd hwnnw ar gael).

Pellter: Mae yno 55 acer o dir i’w grwydro, felly fe gewch chi benderfynu ar hyd y daith.

Arwyneb: Tarmac a llwybrau gro mân compact.

Caniatewch: 1-5 awr

Canolfan Ymwelwyr Garwnant

Yn nythu mewn coetir ar gyrion Merthyr Tudful, mae Garwnant yn cynnig anturiaethau hygyrch ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Y ganolfan ymwelwyr yw’r man cychwyn ar gyfer nifer o’r llwybrau cerdded, lle mae caffi, llefydd parcio Bathodyn Glas, toiled Changing Places a thoiledau hygyrch i’w cael yno. Ymhlith y llwybrau hyn mae llwybr hygyrch Taith Helyg sy’n troelli drwy’r goedwig a thros nentydd ar gyfres o bontydd cyn arwain drwy dwnnel helyg wedi ei blethu ar y ffordd yn ôl i’r man cychwyn.

Cadwch lygad ar y ffordd gan fod cyfle yma i weld nifer o adar a phlanhigion gwyllt gan gynnwys y gnocell werdd, y pila melyn a ffwng amanita’r gwybed â’i gap coch trawiadol.

Pellter: 0.5 milltir (0.8km)

Arwyneb: Llwybrau pren a llwybrau gro mân caled

Caniatewch: 30 munud i awr

Llwybr pren yn arwain at olygfan mewn coedwig.
Menyw yn cerdded dros bont bren ar draws nant mewn coedwig.

Garwnant, Cwm Taf, Merthyr Tudful

Gorllewin Cymru

Ystâd Ystagbwll

Rhag-archebwch sgwter symudedd addas ar gyfer pob arwyneb neu gadair olwyn glan môr am ddim er mwyn profi tirlun amrywiol a rhyfeddol Ystâd Ystagbwll ar arfordir Sir Benfro. Caiff ei gwarchod gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac mae’n cyfuno traethau tywodlyd, llynnoedd disglair, coedwigoedd tawel a dolau gwelltog.

Mae’r llwybr o Ganolfan Ystagbwll i Aberllydan yn un da i ddangos yr amrywiaeth sydd o fewn yr ystâd. Byddwch yn teithio ar hyd glannau Llynnoedd Bosherston ac yn sylwi ar y newid graddol o goetir i arfordir wrth ichi nesáu at y traeth o dywod euraidd. Mae llefydd parcio Bathodyn Glas am ddim i’w cael ar draws ystâd Ystagbwll ynghyd â thoiledau hygyrch mewn amryw o leoliadau. Cymerwch olwg ar y canllaw Hygyrchedd yn Ystagbwll am ragor o wybodaeth cyn cyrraedd er mwyn i chi gynllunio eich ymweliad.

Pellter: 2 filltir (3.2km)

Arwyneb: Llwybrau yn addas i’w defnyddio â sgwteri symudedd oddi ar y ffordd a chadeiriau olwyn glan môr.

Caniatewch: 2-3 awr

Cwpl a phlentyn mewn pram ar lwybr cerdded wrth ymyl llyn yn llawn blodau lili.

Pyllau lili Bosherston, Ystagbwll, Sir Benfro

Rhosili

Mae golygfeydd cerdyn-post Rhosili ym Mhenrhyn Gŵyr yn ymddangos yn gyson ar restrau o leoliadau arfordirol harddaf y byd. Ac mae’r daith, sy’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn, ar hyd y clogwyn yn golygu bod modd i bawb fwynhau’r golygfeydd godidog o’r glannau. Mae’r llwybr fflat yn arwain at hen olygfan gwylwyr y glannau, ac mae digon o feinciau ar hyd y ffordd lle gallwch oedi i edmygu’r olygfa.

Cadwch olwg am adar môr yn llithro drwy’r awyr uwch eich pennau ac am forloi chwareus yn tasgu yn y dŵr islaw. Cewch hefyd olygfa dda o Ben Pyrod, sef y tir sy’n ymestyn allan i’r môr fel neidr ac sy’n cael ei ynysu gan y llanw.

Pellter: 1.6 milltir (2.5km)

Arwyneb: Llwybr tarmac

Caniatewch: 1-2 awr

Llwybr llydan ag arwyneb caled ar glogwyn yn edrych dros y môr a’r creigiau dramatig.

Rhosili, Gŵyr

Crwydrwch ymhellach

Rhagor o deithiau hyfryd

Dim ond llond llaw o’r teithiau hygyrch lle gallwch chi eu dilyn ar droed neu ar olwynion sydd ar gael yng Nghymru sydd wedi eu rhestru yma. Os ydych chi am deimlo awel y môr a chlywed sŵn y tonnau’n cribo’r glannau, rhowch gynnig ar un o’n teithiau cerdded hygyrch ar Lwybr Arfordir Cymru. Mae yno hefyd ddewis gwych o deithiau cerdded o amgylch Caerdydd a Bro Morgannwg sy’n addas ar gyfer bygis

Toiledau Changing Places

Mae Croeso Cymru yn cydweithio â Changing Places, ymgyrch genedlaethol sy’n gweithio i sicrhau bod toiledau hygyrch a chyfleusterau newid cewynnau ar gael ym mhob man lle mae eu hangen. Fe ddewch chi o hyd i gyfleusterau Changing Places mewn lleoliadau yn cynnwys Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Prosiect Gweilch Dyfi, Canolfan Ymwelwyr Bannau Brycheiniog, a Pharc Gwledig Gwepra yn Sir y Fflint. Mae rhagor yn cael eu hychwanegu o hyd felly edrychwch ar wefan Changing Places am y wybodaeth ddiweddaraf cyn i chi drefnu taith.

Straeon cysylltiedig