Dwi’n ffotograffydd sy’n gweithio nawdeg pump y cant o'r amser yn y Gymraeg

A beth sy’n rhoi’r wefr fwyaf i fi yw bod fy ngwaith i’n gallu teithio’n rhyngwladol – er fy mod i’n gweithio bron yn gyfan gwbl mewn iaith leiafrifol. Dwi’n wreiddiol o Bontsiân ger Llandysul, ac erbyn hyn yn byw ym Mhontarddulais. Dwi wedi bod yn ffotograffydd llawrydd ers bron i 20 mlynedd. Pan mae pobl yn gofyn, ‘Be’ wyt ti’n tynnu lluniau ohonyn nhw, Betsan?’ dwi wastad yn ateb: pobl, a’r ffordd Gymreig o fyw.

Roedd hi mor gyffrous cael y cynnig i fynd i’r Euros yn 2025 

Bues i yn Lucerne a St Gallen yn tynnu lluniau o’r cefnogwyr a’r digwyddiadau a’r gigs cerddoriaeth rhwng y gemau mawr. Roedd yr egni yn yr Euros yn rhywbeth hollol wahanol – ar lefel dwi erioed wedi’i gweld o’r blaen. Un peth wnaeth fy nharo i oedd bod pobl mor hapus i weld ei gilydd, ac yn gwerthfawrogi diwylliant ein gilydd. Yn ardal y cefnogwyr roedd llwyth o adloniant ym mynd mlân. Roedd y cefnogwyr yn cerdded o’r ardal yma i’r stadiwm ar gyfer y gêmau – y wal goch ar daith.

Parth Cefnogwyr Ewros 2025

Cefnogwr Cymreig yn mwynhau ym Mharth Cefnogwyr Euros 2025.
 

Wrth i ni gerdded, roedd band pres yn chwarae 

A merched yn gwneud pob math o driciau gyda phêl droed. Un foment sy’n aros gyda fi yw gweld menyw yn pwyso mas o ffenest fflat yn Lucerne, yn chwifio baner Cymru. Aeth pawb yn wyllt. I fi, fel rhywun oedd heb brofi fan walk (y term Saesneg am y daith i’r stadiwm) o’r blaen, roedd hi’n teimlo fel parêd Dydd Gŵyl Dewi – ond dramor.

A beth oedd yn arbennig iawn oedd y teimlad bod pawb mor werthfawrogol o fod ’na. Pawb mor hapus, pawb yn fodlon gyda beth bynnag fyddai’n digwydd – gan wybod bod Cymru mewn grŵp anodd yn y twrnamaint. Ond doedd dim ots. Y peth pwysig oedd ein bod ni i gyd ’na gyda’n gilydd, yn cefnogi’r tîm ac yn dathlu’r foment hanesyddol.

Cefnogwr Cymreig yn mwynhau
Y Wal Goch yn llenwi strydoedd Lucerne.

Y Wal Goch yn llenwi strydoedd Lucerne cyn gêm Cymru yn UEFA Women's EURO 2025.

Ar ôl y gêm gyntaf, roedd gig gydag Adwaith ac Aleighcia Scott  

Roedd y perfformiadau’n llawn cariad ac egni – menywod Cymreig yn dod â diwylliant Cymru i lwyfan Ewropeaidd. Ces i hefyd y cyfle i dynnu lluniau o berfformiadau arbennig gan Cerys Matthews, Mared Williams, Sarah McCreadie, Mali Haf, Buddug, Molly Palmer a Merched Gwerin. Dyna oedd calon yr Euros i fi – dathliad o Gymru gyfan. Roedd e’n fwy na thwrnamaint pêl-droed. Roedd e’n foment lle roedd merched Cymru – ar y cae, ar y llwyfan, tu ôl i’r camera, ac yn y dorf o gefnogwyr – yn dangos eu lle yn y byd.

Dwy ferch yn dawnsio ar lwyfan

Berfformiadau gan Cerys Matthews, Mared Williams, Sarah McCreadie, Mali Haf, Buddug, Molly Palmer a Merched Gwerin.

Pan o’n i’n ifanc, o’n i wastad yn chwarae pêl-droed

Ma' brawd da fi sy’n saith mlynedd yn hŷn, ac roedd e’n chwarae yn y gôl. Felly roedd angen iddo fe ymarfer – ac hynny’n golygu fi’n cicio’r bêl ato fe drwy’r amser! Yn yr ysgol gynradd, o’n i wastad yn chwarae gyda’r bechgyn. Roedd e’n teimlo’n hollol naturiol. Ond wrth gwrs, doedd dim cyfleoedd iawn i ferched chwarae tan o’n i tua deunaw oed – ac erbyn hynny, roeddwn i eisoes wedi mynd lawr llwybr gyrfa greadigol.

Ffrind gyda’r un cariad at bêl-droed a ffotograffiaeth

Roedd hen ffrind coleg i fi, Betsan Wyn Morris, yn rhannu’r un diddordeb mewn pêl-droed – ac fel fi, heb gael y cyfle i chwarae pan oedd hi’n ifanc. Ond aeth hi’n ôl i chwarae yng Nghaerdydd fel oedolyn. Roedd ei merch hi, Casi, hefyd yn mwynhau pêl-droed, ac fe dynnes i lun ohonyn nhw yn eu citiau ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2022.

Llun o Betsan a Casi

Llun o Betsan a Casi cefn i gefn.

Yn drist iawn, fe gollon ni Betsan cwpl o flynyddoedd yn ôl. Pan ges i’r cyfle i fynd i’r Euros, bues i’n meddwl lot fawr am Betsan. Dros y blynyddoedd, roedden ni'n aml yn chwerthin am y ffaith ein bod ni nid yn unig yn rhannu'r un enw, ond yr un diddordebau hefyd – pêl-droed a ffotograffiaeth. Oherwydd y cysylltiadau i gyd, dwi’n siŵr y bydde hi wedi bod reit yng nghanol pethau gyda ni. Y llun wnes i gymryd – roedd e fel petai’n rhoi pŵer i fi mas yn y Swistir. Nath y cyfeillgarwch rhwng Betsan a fi wneud fi’n fwy penderfynol nag erioed o ddangos yn fy lluniau bod hi bellach yn normal i ferched chwarae a chefnogi pêl‑droed.

Y peth dwi mwyaf balch ohono yw mod i wedi dal hanes 

Dal y tro cyntaf erioed i gefnogwyr Cymru deithio i’r Euros i gefnogi tîm menywod Cymru. Dal yr awyrgylch. Dal pobl yn joio, yn canu. Dal yr emosiwn. A rhannu’r profiad gyda merched eraill o bob cefndir ag oedran, yn dathlu gyda’n gilydd ein bod ni wedi cyrraedd yr Euros.

A’r peth gorau yw hyn: mewn blynyddoedd i ddod, bydd pobl yn gallu edrych yn ôl ar y lluniau hyn a theimlo’r egni eto – mynd yn ôl i’r foment honno. Dyna’r peth pwysicaf i fi fel ffotograffydd.

A oedd yr erthygl yma yn ddefnyddiol i ti?
Diolch yn fawr iawn am dy adborth.