Digwyddiadau Cadw ledled Cymru

01 - 30 Medi 2025. Mae digwyddiadau agored Cadw yn cael eu gynnal bob blwyddyn trwy gydol Medi. Mae'r digwyddiadau'n cynnig cyfle i bobl edrych ar rai o adeiladau a safleoedd hanesyddol Cymru. Mae profiadau unigryw yn rhai llefydd nad ydynt fel arfer ar agor i'r cyhoedd. Mae hefyd amrywiaeth o ddigwyddiadau ar safleoedd Cadw trwy gydol mis Medi.

Ffair Hydref Canolbarth Cymru

I'w gadarnhau. Diwrnod allan hydrefol i’r teulu, gyda dros 40 o gynhyrchwyr bwyd a diod o bob rhan o Gymru. Cynhelir Ffair Hydref Canolbarth Cymru ar Faes Sioe Frenhinol Cymru.

Darllen mwy: Darganfod hanes Llanfair-ym-Muallt

Llais, Caerdydd

6 - 12 Hydref 2025. Gŵyl ryngwladol flynyddol Caerdydd gyda chymysgedd o ddigwyddiadau am ddim a rhai sydd angen tocyn. Heb ei gyfyngu i genre neu ffurf gelf benodol, mae Llais yn dathlu artistiaid rhyngwladol yn ogystal â chreadigrwydd ein cynefin, gan drawsnewid Canolfan Mileniwm Cymru’n safle gŵyl unigryw am gyfnod. 

Darllen mwy: Pethau i’w gweld a’u gwneud ym Mae Caerdydd

Gŵyl Sŵn, Caerdydd

16 - 18 Hydref 2025. Gŵyl gerddoriaeth gyfoes aml-leoliad yng nghanol Caerdydd yw Gŵyl Sŵn. Ers 2007 mae'r ŵyl yn canolbwyntio ar gerddoriaeth newydd, artistiaid sy'n datblygu a bandiau lleol. 

Darllen mwy: Pethau i’w gwneud ar wyliau byr neu benwythnos hir yng Nghaerdydd

Lleisiau Eraill, Aberteifi

30 Hydref - 1 Tachwedd 2025. Bydd Lleisiau Eraill yn cyflwyno penwythnos o berfformiadau o safon fyd-eang unwaith eto yn Aberteifi gan gynnwys digwyddiadau yn Eglwys y Santes Fair, setiau byw ar draws Y Llwybr Cerdd a chyfres o sgyrsiau a syniadau yn y sesiynau Clebran. 

Trên Stêm Calan Gaeaf, Rheilffordd Talyllyn 

31 Hydref 2025. Ewch ar daith arswydus ar Drên Calan Gaeaf Talyllyn, os ydych chi'n ddigon dewr i deithio gyda'r ysbrydion.

Darllen mwy: Digwyddiadau Calan Gaeaf a hwyl hanner tymor yr hydref

Straeon cysylltiedig