Tref a dyfodd o amgylch glannau Afon Cleddau Wen yw Hwlffordd, ac mae byd natur yn ganolog yma. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae’r gymuned leol wedi bod wrthi’n rhoi lliw creadigol trawiadol i’r dref, wrth i leoliadau, siopau a chaffis newydd ymddangos. Mae’r adeiladau hanesyddol a’r warysau ar lannau’r dŵr yn cael eu hailwampio a’u hadnewyddu, ac yn tra-arglwyddiaethu ar y cyfan, dyna i chi’r castell canoloesol yn sefyll yn falch.
Dyma awgrymiadau am bethau i’w gwneud yn y dref a’r cyffiniau wrth i chi gynllunio’ch ymweliad â Hwlffordd.
Dewch i’r dref ar ddiwrnod marchnad
I weld y dref ar ei phrysuraf, ac yn ei gwedd orau, dewch yma ar ddiwrnod marchnad. Fore Gwener, bydd marchnad y ffermwyr yn llenwi Sgwâr y Castell a stondinau’n gwerthu cynnyrch a dyfwyd yn lleol, cacennau, cawsiau, bwyd môr a chrefftau.
Ewch i bori yn y siopau annibynnol difyr
Mae dydd Gwener yn ddiwrnod gwych i ddilyn eich trwyn o amgylch y dref a phori yn y siopau niferus. Ar Stryd y Cei, mae gan Quayside Lifestyle ddewis da o anrhegion a chardiau, tra mai Crwst yw lle newyddaf y dref am ddanteithion wedi’u pobi a choffi.
Ewch wedyn a dringo’r Stryd Fawr serth i The Creative Gallery sy’n gwerthu nwyddau i’r cartref, celf, a chrochenwaith. Am hen bethau hynod, trowch am Stryd Santes Fair ac All Things Oddette, cyn camu i Stryd y Farchnad i chwilota drwy’r recordiau yn Core of the Poodle Record Shop and Microbrewery.


Ymgollwch yn yr hanes lleol
O’i tharddiad yn yr oesoedd canol i’w phwysigrwydd fel porthladd a thref farchnad yn oes Elisabeth, mae haenau trwchus o hanes ym mhobman yn Hwlffordd. Ewch draw i amgueddfa canol y dref i gael ychydig o gyd-destun, ac i ddysgu am waith cloddio archaeolegol diweddar, cyn ymweld ag adfeilion y priordy ar lan yr afon a Chastell Hwlffordd.

Difyrrwch y plant yn un o’r atyniadau lleol
Nepell mewn car o’r dref, bydd fferm antur Clerkenhill yn siŵr o gadw’r plant yn ddiddan am oriau gyda chwrs golff gwallgo’, cwrs ffrisbi, ac anifeiliaid fferm cyfeillgar i’w cwrdd.
Mae rhagor o ddifyrrwch gerllaw yn Scolton Manor Park, gan gynnwys trac beicio, llwybr cerfluniau, parc chwarae anturus, ac amgueddfa deganau. Yn ôl yn y dref, mae parc trampolîn Hanger 5 yn lle perffaith ar ddiwrnod glawog i chwythu stêm.
Ymlaciwch o flaen ffilm yn hen sinema’r Palace
Mewn hen adeilad cyfnewidfa ŷd, mae sgrin fawr sinema’r Palace wedi bod yn difyrru pobl ers 1913. Mae’r prisiau’n rhad, gyda digonedd o ffilmiau sy’n addas i’r teulu ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau’r ysgol. Cadwch lygad am eu nosweithiau ffilm clasurol enwog, ac ewch i dyrchu yn y bocs gwisgoedd ffansi.
Dewch i gwrdd y trigolion lleol yn Haverhub
Mae’r ganolfan gymunedol fyrlymus hon i’w chanfod mewn hen swyddfa sortio’r post yn Stryd y Cei. Mae yma gaffi prysur a llefydd i gynnal dosbarthiadau, sgyrsiau, cerddoriaeth fyw a digwyddiadau o bob math. Cymerwch gip ar restr digwyddiadau Haverhub, neu galwch heibio ar nos Wener, pan fydd platiau bach o fwyd ar gael.


Mwynhewch gelf a llenyddiaeth yn llyfrgell glan yr afon
Mae’r llyfrgell fodern hon yn sefyll mewn llecyn amlwg ar lan yr afon. Y tu mewn, mae oriel fechan yn cynnal arddangosfeydd amrywiol, mewn partneriaeth â Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ewch am dro, cyn mwynhau llymaid ar y dec uwchben yr afon, neu ewch draw i Lolfa Waldo gerllaw – bar a bwyty braf ar lan y dŵr.
Mae Gŵyl Lenyddol Llangwm yn digwydd bob Awst ger Aber Cleddau. Gyda llawer o drafodaethau, gweithdai a digwyddiadau sy'n addas i deuluoedd ar gael, mae'n benwythnos rhyfeddol.

Ewch am dro ar hyd y Fortune’s Frolic
Mae sawl llwybr coediog ar lan yr afon yn Hwlffordd, ac mae Fortune’s Frolic ymhlith y brafiaf. Mae’r llwybr yn eich arwain ar draws parc, ar hyd yr afon, a thrwy’r coed i eglwys brydferth Ismael Sant yn Uzmaston.
Ar ddwy olwyn i Farina Neyland
Mae Llwybr Beicio Cenedlaethol 4 (NCR4) yn pasio drwy Hwlffordd fel rhan o’r llwybr o Lundain i Abergwaun. I fwynhau’r llwybr beicio hwn, sydd oddi ar y ffordd yn bennaf, dilynwch y daith o Merlin's Bridge ac anelu ar hyd hen drac rheilffordd y Great Western i Farina Neyland (tua 18 milltir yno ac yn ôl).


O’r ti i’r twll yn y clwb golff
Dyma gyfle i fwynhau rownd gan edmygu ar yr un pryd y golygfeydd o fynyddoedd y Preseli yng nghlwb golff hanesyddol Hwlffordd, sydd ar gyrion y dref. Cofiwch wisgo’n drwsiadus cyn mynd i flasu awyrgylch y bwyty braf.
Trefnwch ginio Sul a thro ar hyd yr afon
Tua saith milltir o Hwlffordd, mewn drysfa o heolydd gwledig (y Rhos yw’r enw lleol), mae ystad wledig Parc Slebech yn lle gwych am ginio rhost ym mwyty The Peg. Ac mae yma ddigon o lefydd i fynd am dro braf wedyn. A hwnnw’n sefyll uwch ystum yn afon Cleddau Ddu, mae gan Barc Slebech ardd gegin wych ynghyd â thiroedd helaeth i’w crwydro.
Gardd o fri yng Nghastell Picton
Yng Nghastell Picton, sydd hefyd yn y Rhos, mae gerddi hynod i’w hedmygu, caer ganoloesol gydag ystafelloedd Sioraidd, a chaffi yn yr iard sy’n gweini cinio a chacennau gyda mymryn o flas Sbaenaidd i’r cyfan.

Ymlaciwch ar y traethau lleol gwych
Mae dewis da o draethau tywodlyd yma, i gyd o fewn deng milltir i Hwlffordd. Mae traethau gogledd Aberllydan a Niwgwl yn llefydd poblogaidd i syrffio a gwneud chwaraeon dŵr o bob math. Mae’r bae bychan, cysgodol yn Nolton Haven yn lle delfrydol i nofio neu i gerdded ar hyd y clogwyn pan fydd hi’n machlud.
Ewch yn eich blaen ychydig i Farloes cyn dilyn y llwybr ar hyd y clogwyn i draeth Martin’s Haven, cyn dod yn ôl i’r Runwayskiln Café am ginio.
Hwyliwch y don
Mae’n hanner awr mewn car o Hwlffordd i Martin’s Haven, ac yno fe allwch chi ddal cwch i Ynys Sgomer. Yn y gwanwyn a ddechrau’r haf, bydd cannoedd o barau o adar y pâl yn nythu ar glogwyni a glaswelltiroedd yr ynys, ynghyd â gwylogod, pedrynnod drycin, a gweilch y penwaig.
Fymryn yn nes at y dref, mae academi hwylio a chychod pŵer Sir Benfro yn cynnig teithiau o Farina Neyland ar hyd afon Cleddau, a’r rheini’n llawn golygfeydd gwych.
