Dywedir bod tir ffrwythlon Môn, “Mam Cymru”, wedi helpu i fwydo’r genedl ar un cyfnod, ac ar yr ynys ceir lawer o’r bwyd môr, caws a chig gorau yng Nghymru hyd heddiw. 


Os oes gennych awydd mudo o’r tir mawr am wyliau rhamantus gyda’ch partner, mynd am dro gyda’ch ci, neu gerdded Llwybr Arfordirol Môn, gwnewch yn siŵr eich bod yn ymweld â rhai o’r bwytai gwych yma ar eich taith. 

Tavern on the Bay, Traeth Coch

Mae’r Tavern on the Bay, Traeth Coch, yn cynnig profiad bwyta o ansawdd uchel ynghyd â golygfeydd gwych. Gan ddefnyddio cynhwysion o ffynonellau lleol, mae’r fwydlen dymhorol yn cynnwys cig eidion a chig oen Cymreig, pysgod a dewisiadau llysieuol a fegan, ynghyd â bwydlen i blant. Eisteddwch yn ôl, ymlaciwch a mwynhewch y golygfeydd bendigedig dros arfordir hardd Ynys Môn a’r Gogarth. Mae adloniant rheolaidd hefyd, gan gynnwys píanydd preswyl. Mae croeso gŵn ar y teras awyr agored.

Dylan’s, Porthaethwy

Mae gan Dylan’s dri bwyty yng ngogledd Cymru bellach, ond mae’r gwreiddiol ar lannau’r Fenai ym Mhorthaethwy. Maent yn arbenigo mewn bwyd môr a pizza ffres ac yn cefnogi cyflenwyr lleol gan gynnwys Halen Môn, Môn ar Lwy a Menai Oysters. Maent hefyd yn rhedeg siop yn y dref sy’n gwerthu bara ffres a phrydau wedi'u paratoi ymlaen llaw.

Grŵp o fenywod yn yfed rownd bwrdd y tu allan gyda ci wrth eu traed.
Prawn a salad

Dylan’s, Porthaethwy, Gogledd Cymru

The Harbourfront Bistro 

Ymlaciwch a mwynhewch bryd wrth ymyl y môr yn The Harbourfront Bistro. Mae’r bwyty teuluol hwn yng Nghaergybi yn cynnig bwydlen helaeth sy’n cynnwys platiau bach, tacos a phrif brydau, ynghyd â bwydlen i blant.

 

The Oyster Catcher, Rhosneigr

Ger twyni tywod Rhosneigr, ychydig funudau o Draeth Llydan, mae bwyty The Oyster Catcher. Gall ymwelwyr fwynhau coctel ar y teras, neu bryd o fwyd yn un o'r cytiau traeth wedi'u gwresogi. Mae Pat’s Shack yn gweini pizza, cŵn poeth a thacos ar benwythnosau, a  Will’s Bar yn torri syched gyda’i ddewis eang o gwrw a gwirodydd lleol.

Sosban and the Old Butchers, Porthaethwy

Mae ymweliad â’r Sosban and the Old Butchers ym Mhorthaethwy yn brofiad a hanner. Mae’r bwyty seren Michelin yn gweini cyfres o brydau unigryw sy’n mynd â chiniawyr ar daith. Gweinir swper ar nosweithiau Iau, Gwener a Sadwrn am £175 y pen. Meddai yr awdur bwyd Lowri Haf Cooke: “Mae'r cogydd yn amlwg yn ei elfen wrth ddyrchafu blasau Ynys Môn”, wedi ei hymweliad â’r Sosban yn ddiweddar, ynghyd â bwytai sêr Michelin eraill Cymru.

Plât gyda physgodyn mewn briwsion bara.
Cogydd yn paratoi bwyd mewn cegin y tu mewn i fwyty.
Pelen o sorbet ar ben llysiau.

Sosban and the Old Butchers, Porthaethwy

Harry’s Bistro, Biwmares

Yn Neuadd Henllys mae Harry’s Bistro - plasty a godwyd yn y 1880au ar safle hen fynachlog, sy’n dyddio o'r 13eg ganrif. Mae golygfa braf o’r Fenai a Biwmares o’r safle. Yma, mae Simon a Nia (sy’n gogyddion adnabyddus ym Môn) yn gweini steil unigryw o fwyd tymhorol gan gynnwys ffagots cig oen a phwdin posset lemwn wedi’i weini gyda riwbob a mafon Hooton’s.

Catch 22, Y Fali

Mae’r brasserie teuluol yn y Fali yn cynnig yr un profiad cartrefol i ginïawyr tri chwrs, ac ymwelwyr sy’n galw heibio am baned, fel ei gilydd. Mae’r brif fwydlen yn cynnig amrywiaeth o brydau pysgod, cyri a byrgyrs o safon ac mae opsiynau tecawê ar gael hefyd yn Catch 22.

The White Eagle, Rhoscolyn 

Mae’r White Eagle yn Rhoscolyn yn boblogaidd gyda thrigolion lleol ac ymwelwyr â’r ynys. Mae’r fwydlen dymhorol yn dangos perthynas glos y dafarn gyda ffermwyr a chynhyrchwyr lleol, o gigyddion teuluol lleol sydd wedi ennill gwobrau, i wystrys ffres o’r Fenai.

Sea Shanty, Bae Trearddur

Dyma’r ail Sea Shanty ym Mae Trearddur, ar ôl i’r gwreiddiol gau yn 2002 wedi 60 mlynedd o wasanaeth. Mae’r Sea Shanty yma’n fwy, gyda digonedd o le i deuluoedd fwynhau cinio a hufen iâ cyn i’r bwyty weini swper a choctels gyda’r nos. Mae’r caffi lan môr poblogaidd yn cyflogi dros 80 yn ystod misoedd prysur yr haf.

The Stores, Trearddur

Mae The Stores yn Nhrearddur yn cynnig detholiad o bizzas cartref blasus a phlatiau i’w rhannu. Gan ddefnyddio cynhwysion o ffynonellau lleol, mae yna opsiynau fegan a di-glwten hefyd. Mwynhewch gyda chocktail cartref, gwydraid o win neu ddiod heb cwrw.

 

The Freckled Angel, Porthaethwy

Mae The Freckled Angel ym Mhorthaethwy yn cynnig awyrgylch hamddenol gyda bwyd gyda bwyd o ansawdd uchel. Gyda blasau blasus sy’n cyfuno Cymru â gweddill y byd ar blatiau bach, cofiwch adael lle ar gyfer pwdin.

A oedd yr erthygl yma yn ddefnyddiol i ti?
Diolch yn fawr iawn am dy adborth.

Straeon cysylltiedig