Mae Llanddwyn a’i dwyni tywod trawiadol yn cael ei gydnabod fel un o'r traethau gorau ym Mhrydain. Gyda gwarchodfa natur, coedwig a bryniau glaswelltog Niwbwrch gerllaw a golygfeydd godidog o Barc Cenedlaethol Eryri, Pen Llŷn a Chaernarfon, mae’n gymysgedd perffaith o elfennau gorau Cymru i gyd mewn un man!

Wrth gwrs, mae’n safle o ddiddordeb chwedlonol hefyd, gyda’i gysylltiad agos â Dwynwen - tywysoges Gymreig o’r 4edd ganrif. Mae stori Dwynwen yn un drist; ni chafodd llawer o lwc â chariadon ac felly fe benderfynodd fod yn lleian a sefydlu lleiandy ar Ynys Llanddwyn.

Mae olion adfeiliedig Eglwys Santes Dwynwen dal i’w gweld hyd heddiw ac yn denu ymwelwyr o ledled y byd. Dyma ddeg o luniau arbennig o Landdwyn ar Instagram i ysbrydoli ymweliadau ag un o’r mannau harddaf yng Nghymru.

Straeon cysylltiedig