Barod am reid eich bywyd? Mae RibRide, y cwmni teithiau cychod o Ogledd Cymru, yn gobeithio y bydd ei eFoil newydd yn cynhyrfu’r dyfroedd yn y diwydiant twristiaeth Prydeinig, ac yn trawsnewid ardal Afon Menai’n gyrchfan antur rhyngwladol. Fe wnaethon ni holi Tom Ashwell, cyfarwyddwr yn FoilRide, i gael gwybod mwy am yr hyn sydd gan eFfoilio o gwmpas llonyddwch Afon Menai i’w gynnig.

I bobl sydd erioed wedi clywed am eFoil, sut fyddech chi’n ei ddisgrifio?

Bwrdd syrffio gyda motor trydan yw eFoil, sy’n hedfan uwchlaw adain hydroffoil. Mae’r motor bron yn ddi-sŵn a gellir ei wefru gan ynni o ffynhonnell adnewyddadwy. Mae’n ffordd ragorol o ymwneud â harddwch ein hamgylchedd, heb darfu arno.

Dau berson yn defnyddio byrddau syrffio eFoil ar afon

Defnyddio bwrdd syrffio eFoil ar Afon Dwyryd.

Sut mae’r eFoil yn gweithio?

Mae’r eFoil yn gymysgedd o’r holl chwaraeon gorau: syrffio, hwylio barcud, hedfan ac eirafyrddio eira powdr dwfn. Gosodir motor trydan nerthol ar adain islaw bwrdd syrffio perfformiad uchel. Mae’r ffoil a’r adenydd yn cyfuno i alluogi reidwyr o bob gallu i hedfan uwchlaw unrhyw arwynebedd mawr o ddŵr.

Sut wnaethoch chi ddarganfod yr eFoil?

Rydyn ni’n farcud-fyrddwyr brwd yn ein hamser hamdden, ac rydyn ni wedi bod yn cadw llygad ar y datblygiadau technolegol newydd sydd wedi bod ar y gweill o ran gosod ffoil o dan fwrdd gyda motor trydan. Oherwydd datblygiadau newydd mewn technoleg batris sy’n gallu cael eu hailwefru, mae prototeipiau wedi dod ar gael yn fasnachol. Fe ddaethon ni o hyd i gyflenwr oedd yn creu cynnyrch ardderchog, felly roedden ni eisiau dod yn ysgol hyfforddi.

Dau berson yn defnyddio byrddau syrffio eFoil ar yr afon o flaen Portmeirion.

Defnyddio eFoil ger Portmeirion.

Ydy hi’n anodd defnyddio’r eFoil?

Dyma’r gyfrinach fawr: mae modd bod yn arwr ar ôl un wers! Gellir dysgu reidio’r eFoil mewn ychydig oriau gan unrhyw un sy’n meddu ar y gronyn lleiaf o gydbwysedd a chydsymud, ar yr amod eu bod nhw’n 16 oed neu’n hŷn, ac yn gallu nofio. Yn gyntaf, mae rhywun yn gorwedd yn wastad ac yn codi i safle ar ei bengliniau. O benlinio, mae rhywun yn codi’n llyfn i safiad y ‘syrffiwr’ – dyna ble mae’r cyfleoedd i reidio ac anturio’n ymagor go iawn. Ar hyd y ffordd, fe allet ti ddisgyn i ffwrdd neu wlychu o ddifri, ond mae hynny’n iawn: rydyn ni’n rhoi cymorth arnofio a siwt wlyb addas i ti cyn i ti ddechrau.

Cyn bo hir, byddi di’n hedfan dros y dŵr, sy’n brofiad anhygoel!”

Edrych i lawr ar ddau berson yn defnyddio byrddau syrffio eFoil o dan Bont Abermaw

Defnyddio eFoil o dan Bont Abermaw ar hyd Afon Mawddach.

Ble all pobl fynd i reidio’r eFoil, a beth allen nhw weld?

Rydyn ni wedi ein lleoli yng Ngogledd Cymru, yng nghanol morlun rhyfeddol, ac mae creaduriaid gwyllt y môr o bob math i’w gweld. Mae ein gwersi’n digwydd yn nyfroedd cysgodol hyfryd Afon Menai, lleoliad perffaith i gael y profiadau eFoil gorau wrth i chi hedfan uwchlaw wyneb y dŵr.

Dau berson yn defnyddio byrddau syrffio eFoil ar afon

Defnyddio eFoil o dan Bont Abermaw.

Pryd fydd pobl yn gallu rhoi cynnig ar yr eFoil a faint fydd e’n gostio?

Byddwn yn dechrau cynnal gwersi yn 2020. Mae Hediad Cyntaf yn gwrs 3 awr o hyd, sy’n cymryd dechreuwyr pur a’u troi’n eFfoilwyr (tri myfyriwr, un eFoil yr un, un hyfforddwr, £200 yr un). Mae Celf Hedfan yn brofiad 3 awr o hyd ar gyfer pobl sy’n bwriadu prynu eFoil (un myfyriwr, un hyfforddwr yn reidio wrth eich ochr, £495 yr un). Gallwch weld mwy o wybodaeth ar wefan RibRide.

Person yn defnyddio eFoil ac yn reidio tuag at y machlud

Defnyddio eFoil.

Archwiliwch draethau Môn drosoch eich hun

Os nad yw eFfoilio’n tanio eich dychymyg, beth am anturio ar hyd yr arfordir dan eich pwysau eich hun ar hyd rhai o draethau gorau Ynys Môn? Gallwch logi SUP, canŵ ac offer chwaraeon dŵr eraill gan B-Active yn Rhoscolyn a FunSport neu Gecko yn Rhosneigr.

Traeth Biwmares

Mae Traeth Biwmares, o boptu i Bier Biwmares, yn adnabyddus fel cyrchfan hwylio, ac oddi yma bydd y cychod yn mynd ar daith i Ynys Seiriol. Mae’n rhan o Lwybr Arfordir Môn (sy’n werth ei archwilio) ac mae’n cynnig golygfeydd ysgubol ar draws Afon Menai i gyfeiriad Bangor, Eryri a Phen y Gogarth ger Llandudno.

Traeth Benllech

Benllech yw un o’r traethau mwyaf poblogaidd ar Ynys Môn. Mae gan y traeth Baner Las hwn filltiroedd o dywod euraidd a dŵr clir glas. Mae pobl wrth eu bodd yn torheulo ar y traeth gwastad cyn mynd i drochi’u traed neu roi cynnig ar SUP yn y môr. Mae modd i bobl mewn cadair olwyn neu goetsh fynd ar y traeth, ac mae’n ddelfrydol ar gyfer teuluoedd.

Teulu yn archwilio traeth creigiog a thywod yn y pen pellaf

Traeth Benllech, Ynys Môn

Traeth Porth Swtan

Am lecyn mwy gwledig, ewch i Borth Swtan, traeth tywod a cherrig sydd ddim wedi’i ddatblygu. Rhaid dringo i lawr llwybr troed serth o bentref Porth Swtan, ac mae’r traeth yn swatio o olwg y torfeydd. Ewch am sgawt trwy byllau’r creigiau, ewch i nofio, pysgota neu syrffio, i elwa o’r harddwch naturiol.

Porth Dafarch

Os ydych chi’n chwilio am draeth eang sy’n cynnig digonedd o gyfle i wneud pethau, rhowch gynnig ar Borth Dafarch, cildraeth tywodlyd rhwng Bae Trearddur a Chaergybi. Mae’n draeth sy’n hygyrch i feicwyr, gyda ramp cychod ac mae’n boblogaidd gyda chanŵwyr, SUP-eriaid a phlymwyr, yn ogystal â theuluoedd.

Dau berson yn caiacio i mewn i'r tonnau

Caiacio ym Mhorth Dafarch, Ynys Môn

Straeon cysylltiedig