Mae nifer o lefydd y gallet ti ddychmygu fyddai’n gartref naturiol i gonfensiwn mawr ar gyfer Elvis. Efallai Memphis yn Tennessee, lle treuliodd y canwr ran helaeth o’i fywyd, neu Las Vegas yn Nevada, lle bu’n perfformio’n gyson dros gyfnod enwog o saith mlynedd yn y 1970au. Mae’n annhebygol y byddai tref glan môr yng Nghymru ymhlith y dewisiadau cyntaf.

Ond er gwaethaf hynny, mae Gŵyl Elvis ym Mhorthcawl wedi tyfu’n dawel bach i fod yn un o brif wyliau Elvis yn Ewrop. Ers dros ugain mlynedd, yn ystod un penwythnos ym mis Medi, mae Porthcawl yn cael ei drawsnewid gan artistiaid sy’n talu teyrnged i Elvis a phobl sy’n caru cerddoriaeth, wedi’u huno gan eu cariad tuag at Y Brenin.

Gŵyl Elvis, Porthcawl

Ond sut ddaeth y dref glan môr hon yn le i gefnogwyr Elvis Presley? A beth sy’n gwneud i bobl ddychwelyd flwyddyn ar ôl blwyddyn? Dyma Elvis yn y dull Cymreig.

Sticr Elvis ar ffenestr carafan

Gŵyl Elvis, Porthcawl

Ychydig llai o sgwrsio, ychydig mwy o hwyl

Mae actorion yn breuddwydio am Oscar, mae gwyddonwyr yn anelu at Wobr Nobel, ond beth yw llwyddo i artist sy’n efelychu Elvis? Y cwestiwn hwnnw oedd yr ysbrydoliaeth y tu ôl i Ŵyl Elvis gyntaf Porthcawl, a gafodd ei chreu i ddathlu’r gorau o’r gorau ym myd talu teyrnged i’r canwr enwog.

Gyda gwobrau mewn categorïau fel “Elvis Gospel Gorau” ac “Elvis Gorau Vegas”, mae seremoni’r Elvies yn dal yn rhan bwysig o’r ŵyl heddiw. I lawer o ymwelwyr, fodd bynnag, uchafbwynt y penwythnos yw’r gystadleuaeth am deitl “Elvis Gorau’r Ŵyl”, gyda dwy rownd fyw a rownd derfynol lle mae’r cystadleuwyr yn perfformio gyda band byw’r ŵyl.

Er y gallai’r syniad o gystadleuaeth Elvis greu delweddau o gantorion tafarn mewn wigiau gwael yn canu Suspicious Minds allan o diwn, mae cystadleuaeth Porthcawl yn denu rhai o’r artistiaid talu teyrnged i Elvis gorau o bob rhan o Ewrop i Dde Cymru. Mae’r ŵyl hefyd wedi cael enw da am ddarganfod talent newydd cyffrous sy’n camu i’r esgidiau swêd glas enwog hynny.

Emilio Santoro, er enghraifft. Enillodd y Sais wobr uchaf cystadleuaeth 'Ultimate Elvis Tribute Artist Contest' yn Memphis yn 2024. Ond yn ôl yn 2019, pan oedd ond yn 16 oed, roedd Emilio eisoes yn creu argraff ar y beirniaid a’r torfeydd ym Mhorthcawl gyda pherfformiad cofiadwy a awgrymodd fod seren newydd ar y gorwel.

Y Freuddwyd Amhosibl

Siom fawr i un gwesty lleol a arweiniodd, yn annisgwyl iawn, at eni Gŵyl Elvis Porthcawl.

Yn 2004, roedd y Grand Pavilion ar lan y môr, un o adeiladau mwyaf adnabyddus Porthcawl ers y 30au, mewn perygl o gau. Trodd y perchnogion at y trefnydd digwyddiadau Peter Phillips am syniadau newydd i ddenu mwy o ymwelwyr. Peter a gafodd y syniad o greu seremoni wobrau ar gyfer artistiaid talu teyrnged i Elvis. Yn ôl Peter ei hun, roedd bron pawb yn meddwl bod y syniad yn hollol hurt.

Er hynny, aeth yr ŵyl yn ei blaen, gan ddod â thua 500 o gefnogwyr Elvis i’r dref. Fe gafodd y diddordeb cynnar hwn ei hybu gan gefnogaeth pobl leol, gan gynnwys maer y dref ar y pryd, Phil Rixon. Cytunodd ef i adnewyddu ei addunedau priodas ar draeth Porthcawl, gan ail-greu golygfa briodas o’r ffilm Elvis Blue Hawaii er mwyn denu sylw at y digwyddiad. Cafodd y stori gymaint o sylw nes iddi gyrraedd tudalen flaen papur newydd yn America.

Dros y blynyddoedd, tyfodd maint ac enw da’r ŵyl yn raddol nes iddi ddatblygu’n un o ddigwyddiadau mwyaf o’i bath yn y byd. Ac mae’n ymddangos bod hynny wedi synnu pawb, heblaw Peter.

“Roedd gen i deimlad bach fod rhywbeth mor wallgof â Gŵyl Elvis Porthcawl yn gallu gweithio. Ac fe weithiodd,” meddai Peter. “Dyna pam, ugain mlynedd yn ddiweddarach, fy mod i’n dal i siarad amdani!”

Cylchoedd allweddi Elvis wedi’u crosio.

Gŵyl Elvis, Porthcawl 

Y dref dan swyn Elvis  

Er mai yng nghanolfan y Showdome ym Mharc Gwyliau Bae Trecco y cynhelir prif ddigwyddiadau’r ŵyl, gan gynnwys cystadleuaeth Elvis Gorau’r Ŵyl, mae digwyddiadau ledled Porthcawl. Mae dros 100 o sioeau’n digwydd dros y penwythnos mewn 12 lleoliad gwahanol ar draws y dref.  Mae’r digwyddiadau ymylol rhad ac am ddim hyn yn amrywio o berfformiadau byw a nosweithiau carioci i gystadlaethau hwyliog, gan gynnwys gwobr “Hound Dog” ar gyfer y ci sydd wedi gwisgo orau.

Credir bod hyd at 40,000 o bobl yn ymweld â Phorthcawl ar gyfer yr ŵyl bob blwyddyn, mwy na dwywaith poblogaeth y dref. Mae hynny’n creu awyrgylch tebyg i garnifal, sydd, yn ôl Peter, yn gwneud yr ŵyl yn hollol unigryw ymhlith digwyddiadau Elvis ledled y byd.

“Er gwaethaf yr holl ddiddordeb rhyngwladol a’r cystadleuwyr sy’n dod yma o bob cwr o’r byd, mae’n parhau’n ddigwyddiad Cymreig iawn,” meddai. “Mewn llawer o leoedd eraill, rwyt ti’n gadael y lleoliad ac yn syth yn ôl i’r byd go iawn. Ym Mhorthcawl, mae’r ŵyl yn cymryd y dref gyfan drosodd. Mae hi ym mhobman. O’r siop sglodion i’r dafarn, byddi di’n gweld pobl wedi gwisgo fel Elvis, ac mae hynny’n gwneud y profiad yn gwbl arbennig.”

Mae’r ŵyl hefyd yn dal lle arbennig yng nghalonnau’r perfformwyr. Mae gan Sheryl Scharkie, artist talu teyrnged i Elvis o Awstralia sy’n perfformio fel shElvis, atgofion melys iawn o’i hymddangosiad yng Ngŵyl Elvis Porthcawl yn 2024.

“Cyn dod i Gymru, ychydig iawn roeddwn i’n ei wybod amdani heblaw’r hyn roeddwn wedi’i weld mewn ffilmiau a rhaglenni dogfen. Roeddwn i’n gwybod mai yma y cafodd Tom Jones a Shirley Bassey eu geni, a bod y Cymry’n caru canu,” meddai Sheryl. “Roedd y profiad yn wahanol iawn i gystadlaethau eraill rydw i wedi cymryd rhan ynddyn nhw, gan fod y gynulleidfa yn gymaint rhan o’r sioe, yn canu a dathlu ochr yn ochr â’r cystadleuwyr.”

Brenhinoedd Drag

Er y gall y syniad o artist benywaidd yn talu teyrnged i Elvis ymddangos yn anarferol i rai, mae yn mynd o nerth i nerth. Sylwodd Sheryl ar y twf hwn ei hun, gan gael y cyfle i gystadlu yn erbyn pedair artist benywaidd arall ym Mhorthcawl.

O ran yr hyn y mae artist benywaidd yn ei ychwanegu at berfformiad Elvis, mae Sheryl yn credu eu bod yn gallu cynnig rhywbeth gwahanol iawn.

“Dw i’n meddwl fy mod i’n dangos ochr fwy tyner, fwy benywaidd i gerddoriaeth Elvis,” meddai.

Wrth i’r ŵyl fynd heibio ei phen-blwydd yn ugain oed, mae’n amlwg ei bod yn parhau i dyfu mewn poblogrwydd. Caiff ei chynnal fel arfer dros benwythnos olaf mis Medi, mae’n denu cynulleidfa gynyddol o flwyddyn i flwyddyn ac yn ehangu’r profiad i gefnogwyr Elvis o Gymru ac o bob cwr o’r byd.

Mae’n ymddangos bod cefnogwyr a pherfformwyr Elvis, waeth o ba gyfandir maen nhw’n dod, yn methu peidio syrthio mewn cariad â Phorthcawl.

Mwy o wybodaeth

A oedd yr erthygl yma yn ddefnyddiol i ti?
Diolch yn fawr iawn am dy adborth.

Straeon cysylltiedig