Traethau trawiadol

Mae Rest Bay wedi sefydlu ei hun fel un o'r traethau syrffio gorau i ddechreuwyr yng Nghymru. Os nad oes tonnau, gallwch barhau i fwynhau padlfyrddio (SUP) neu gaiacio. Mae Canolfan Chwaraeon Dŵr Rest Bay o’r radd flaenaf ac yn caniatáu i ymwelwyr rentu offer syrffio ac archebu gwersi gyda hyfforddwyr arbenigol. Gallwch ddewis amrywiaeth eang o feiciau i'w llogi, gan gynnwys cadeiriau olwyn traeth, e-feiciau a beiciau ‘California Cruisers’, er mwyn crwydro promenâd Porthcawl a Llwybr ehangach Arfordir Cymru.

Person yn cerdded ar y traeth tuag at y môr gyda bwrdd syrffio ar draeth Porthcawl

Porthcawl, Sir Pen-y-bont ar Ogwr

Tawelach yw traeth Pink Bay a enwyd ar ôl arlliw pinc anarferol y cerrig a'r cerrig mân. Opsiwn arall yw Traeth Sker, y mwyaf gorllewinol o draethau Sir Pen-y-bont ar Ogwr a dim ond drwy gerdded yn hamddenol gan fwynhau yr olygfa y gellir cael mynediad ato drwy Warchodfa Natur Genedlaethol Cynffig.

Person yn cerdded lawr llwybr wedi'i amgylchynu gan laswellt hir.

Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig, Pen-y-bont ar Ogwr

Promenâd Porthcawl

O hwyl a sbri Parc Pleser Traeth Coney i Bafiliwn y Grand adeilad eiconig o’r 1930’au, adeiladwyd promenâd Porthcawl yn 1887 i goffáu Jiwbilî Aur y Frenhines Fictoria ac mae wedi bod yn rhan o wyliau glan môr niferus ers cenedlaethau. Heddiw mae'r difyrrwch traddodiadol, y caffis a'r parlyrau hufen iâ ochr yn ochr â bwytai o'r radd flaenaf a bariau prysur - lle mae syrffwyr, beicwyr ac anturiaethwyr yn cymdeithasu gyda theuluoedd sydd ar wyliau a phobl leol.

Ar un pen mae Adeilad Jennings a adnewyddwyd yn ddiweddar ac sy’n gartref i fwytai poblogaidd Harbour Bar & Kitchen a Double Zero Pizza, ill dau yn edrych dros yr harbwr. Ar y pen arall mae Gwesty’r Seabank, un o adeiladau amlycaf Porthcawl, a'r llwybr tuag at draeth Rest Bay.

Bywyd gwyllt bendigedig Cymru

Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig diolch i'w amrywiaeth eang o fywyd gwyllt a phryfed, heb sôn am degeirian y fign galchog (Fen Orchid) - un o’r planhigion prinnaf ym Mhrydain. Hafan arall i fywyd gwyllt arfordirol yw Gwarchodfa Natur Genedlaethol Merthyr Mawr lle gallwch sefyll ar ben (cyn llithro i lawr) y 'Big Dipper' rhyfeddol, twyn tywod uchaf Ewrop.

Ymhellach i gefnwlad ceir Gwarchodfa Natur Parc Slip sy’n cynnig 300 erw hardd o laswelltir, coetiroedd a gwlyptiroedd - i gyd wedi'u hadfer o'r hyn a oedd unwaith yn bwll glo brig. Mae hefyd yn gartref i ddarn 2.5 milltir (4km) o Lwybr Beicio Cenedlaethol Sustrans 4 a thros 6 milltir (10km) o lwybrau cerdded a gynhelir yn dda. Bydd plant wrth eu bodd yn crwydro 100+ erw Parc Gwledig Bryngarw i chwilio am 'Geidwaid' Bryngarw eiconig a rhyngweithiol.

Llwybr sy'n arwain drwy goedwig hydrefol
Cerfluniau pren wedi'u hamgylchynu gan goedwig

Gwarchodfa Natur Parc Slip a Ceidwaid Bryngarw, Parc Gwledig Bryngarw

Gwyrddni godidog

Wedi'i gynnwys yn rheolaidd ymhlith y cyrsiau gorau ar y blaned ac yn gartref i bencampwriaethau proffesiynol niferus, mae’r Royal Porthcawl yn cynnig cyfle i golffwyr fwrw golwg dros dywod Rest Bay wrth iddyn nhw chwarae. Naid fer o’r Royal Porthcawl yw Y Pîl a Chynffig (a elwir fel arfer yn 'P&K'), gyda golygfeydd yr un mor ysbrydoledig a’r naw twll olaf yn cynnig her i hyd yn oed y golffiwr mwyaf profiadol.

Pobl yn sefyll ar y cwrs golff yn gwylio golffiwr

Clwb Golff y Royal, Porthcawl

Yn ogystal â chyrsiau arfordirol enwog Sir Pen-y-bont ar Ogwr, mae cyrsiau parcdir fel Coed y Mwstwr a Maesteg yn caniatáu i chi gyfnewid golygfeydd glan môr am gymoedd garw Cymru. Er nad ydyn nhw mor adnabyddus a'u cefndryd arfordirol, mae'r cyrsiau hyn wedi bod o gymorth wrth sefydlu Sir Pen-y-bont ar Ogwr fel cyrchfan golff o'r radd flaenaf.

Antur llawn adrenalin

Yn ogystal â'r syrffio, y padlfyrddio SUP a’r antur syrffio barcud sydd ar gael yn Rest Bay, mae digon yn digwydd ar y tir mawr.

Dylai beicwyr mynydd feicio i Gwm Garw i chwilio am ddau o Lwybrau beicio mynydd Darren Fawr sydd, wedi'u cyfuno, yn cynnig disgyniad gwefreiddiol 6km gyda golygfeydd trawiadol. Os am newid byd yn llwyr, llogwch feic i chi'ch hunan gan herio’ch hun yn erbyn y twyni arfordirol - profiad beicio hollol unigryw!

 

Bwyd a diod heb ei ail

Mae arlwy bwyd Sir Pen-y-bont ar Ogwr wedi mynd o nerth i nerth yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Yn Nhrelales, mae bwytai fel The Black Rabbit a Leicester’s Restaurant sydd wedi derbyn gwobr Gwesty'r Great House wedi helpu'r pentref bach hwn i sefydlu ei hun yn un o brif fannau bwyd yr ardal.

Yng nghanol Tref Pen-y-bont ar Ogwr mae bwytai hen a newydd y byddai unrhyw ddinas fwyd yn falch ohonyn nhw. La Cocina Tapas sy’n enwog am brydau bwyd Sbaenaidd gwreiddiol, tra bod y Cane & Rye yn cynnig bwydlen helaeth o goctels. Mae Morgan’s Bistro & Cocktail Bar yn opsiwn gwych ar gyfer arlwy Ffrengig traddodiadol. Os ydych chi am aros ger yr arfordir, mae prif fwytai Porthcawl yn cynnwys y Cosy Corner Lounge a Dockside Bar & Grill. Os ydych chi'n hoff o arlwy hanesyddol gyda’ch pryd, yna sefydlwyd yr Old House yn Llangynwyd yn yr 1100au, dyma un o'r tafarndai hynaf yng Nghymru, a dywedir bod Richard Burton, Elizabeth Taylor, a David Bowie o blith ymwelwyr y gorffennol.

Gwyliau Cerddorol Gwych

Gŵyl Elvis Porthcawl yw un o hoff ddigwyddiadau thema Elvis y byd, ac un o'r mwyaf. Bob blwyddyn, mae dros 30,000 o ffans Elvis yn ymgasglu ar gyfer sawl diwrnod o gerddoriaeth a gwallgofrwydd ar thema Elvis - gŵyl sydd wir yn cynnig diwrnod i’r Brenin!

Mae Gŵyl Rhwng y Coed yn ailgysylltu pobl ifanc â cherddoriaeth, celf a gwyddoniaeth naturiol, ac mae’n ddewis gwych i deuluoedd. Mae'n cael ei gynnal mewn coetir wrth ymyl Gwarchodfa Natur Genedlaethol Merthyr Mawr.

Am rywbeth hollol sbesial, ewch am ymweliad i'r ardal rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd i brofi traddodiad Cymreig unigryw y Fari Lwyd!

Gwybodaeth bellach

Gallwch gael mwy o wybodaeth ar wefan Croeso i Ben-y-bont ar Ogwr.

 

Straeon cysylltiedig