Cipio'r castell

Comisiynwyd gorthwr Tŵr Mawr Cas-gwent gan Gwilym Goncwerwr prin flwyddyn ar ôl Brwydr Hastings, gan olygu mai Castell Cas-gwent yw’r castell cerrig ôl-Rufeinig hynaf sydd wedi goroesi ym Mhrydain. Yna daeth tri chyfnod adeiladu pwysig. Uwchben Afon Gwy, roedd ei safle’n strategol dros ben. Mae croeso i chi alw draw i ochr Lloegr o’r afon, a’r golygfeydd oddi yno’n wefreiddiol.

 golygfa o'r tu mewn i gwrt y castell i'w weld o'r uchder.
Golygfa o Gas-gwent yn dangos castell a thai’r dref.

Castell Cas-gwent

Troedio’r stryd fawr

Ystyr enw Saesneg Cas-gwent, sef Chepstow, yw marchnadfa mewn Hen Saesneg, ac mae’n dal i fod yn lle gwych i siopa. Mae yno ddigonedd o fwtîcs annibynnol i’ch temtio ymhlith yr adeiladau Sioraidd a Fictoraidd golygus yng nghanol y dref. Cafodd y dref hefyd ailddatblygiad sydd wedi ennill gwobrau, gan ychwanegu ardaloedd da i gerddwyr yn unig, wedi’u haddurno â cherfluniau a waliau cerrig a ysbrydolwyd gan chwedlau lleol.

Cerdded y muriau

Yn rhan o Fur Porthladd Cas-gwent, a adeiladwyd yn y 13eg ganrif, arferai fod prif glwyd a phorthcwlis, lle byddai casglwyr tollau yn mynnu trethi gan unrhyw un a ddeuai â nwyddau i’r dref. Mae’r glwyd sydd yno heddiw’n gymharol ifanc – dim ond 500 mlwydd oed – ac erbyn hyn gallwch gerdded trwodd am ddim, beth bynnag fyddwch chi’n ei gario.

 Gweddillion wal dref ganoloesol garreg.

Wal Borthladd Cas-gwent, Cas-gwent, Sir Fynwy

Archwilio’r gorffennol

Ar Stryd y Bont, ger y castell, mae Amgueddfa Cas-gwent. Mae’r tŷ tref Sioraidd sylweddol hwn yn llawn arddangosiadau sy’n datgelu hanes Cas-gwent ac Afon Gwy. Fe welwch ffotograffau ac arteffactau mewn perthynas â physgota, y fasnach win ac adeiladu llongau, a phaentiadau gan artistiaid a fu’n teithio  trwy lecynnau mwyaf rhamantus Dyffryn Gwy yn y 18fed a’r 19eg ganrif.

Croesi’r bont

Mae’r bont ffordd Rhaglywiaeth drawiadol hon yn cario traffig o Gas-gwent i Swydd Gaerloyw ers 1816. A chanddi bileri anferth a phum bwa o haearn bwrw crwm prydferth ar eu pennau, mae’n croesi un o’r darnau mwyaf llanwol o afon yn y byd. Rhwng penllanw a distyll, gall Afon Gwy ostwng bron 15 metr.

Llun tirwedd o blanhigion yn y tu blaen a phont dros afon yn y cefndir
Adeilad gwyn ar lan yr afon, gyda bryniau yn y cefndir

Yr Afon Gwy, Cas-gwent

Mynd i’r eglwys

Eglwys Priordy’r Santes Fair yw’r esiampl gynharaf o bensaernïaeth Romanésg yng Nghymru. Wedi’i sefydlu yn yr 11eg ganrif yn rhan o briordy Benedictaidd, mae’n debyg o ran oedran i orthwr Normanaidd Castell Cas-gwent. Fe’i newidiwyd dros y canrifoedd, ond mae’r bwa tywodfaen wedi’i addurno’n gywrain sydd dros ddrws y gorllewin yn ddigamsyniol Normanaidd.

Cerdded Dyffryn Gwy

O faes parcio Castell Cas-gwent, mae Taith Dyffryn Gwy yn daith 17 milltir gyda chyfeirbwyntiau sy'n crwydro’r holl ffordd i Drefynwy drwy Afon Gwy Isaf. Byddwch yn teithio trwy dirwedd o geunentydd coediog a glannau glas sydd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Buan y gwelwch pam yn union y mae’r ardal hon yn denu ymwelwyr ers canrifoedd.

Pont Bigsweir dros yr Afon Gwy

Pont Bigsweir, Dyffryn Gwy

Mynd i’r rasys

Ydych chi’n teimlo’n lwcus? Yng nghartref enwog Grand National Cymru, a gynhelir bob mis Rhagfyr, mae Cae Rasio Cas-gwent yn cynnal diwrnodau rasio cyffrous drwy gydol y flwyddyn. Dyma le poblogaidd hefyd am adloniant a cherddoriaeth fyw.

Cae Rasio Cas-gwent
Golygfa cwrs rasio o'r seddi ger y rhwystr.

Cae Rasio Cas-gwent

Cael eich ysbrydoli yn Abaty Tyndyrn

Mae adfeilion rhamantus Abaty Tyndyrn llai na chwe milltir o ganol Cas-gwent ar gefn beic, mewn bws neu gar. A hwythau’n enwog am ysbrydoli’r bardd William Wordsworth, mae adfeilion yr Abaty Sistersaidd hwn yn lle hudolus o hyd. Am y gorau o’r golygfeydd, ewch i Lwybr Clawdd Offa a dringo i ' Bulpud y Diafol'. Yn ôl y chwedl, defnyddiodd Satan ei hun y brigiad creigiog hwn uwchben yr Abaty wrth geisio temtio’r mynachod yn y cwm islaw i droi cefn ar eu dyletswyddau sanctaidd.

Golygfa o Abaty Tyndyrn yn yr hydref wrth iddi wawrio
Tu mewn i Abaty Tyndyrn, golygfeydd o fwâu ffenestri'r abaty

Abaty Tyndyrn 

Straeon cysylltiedig