Hanes a diwylliant hynod

Ymhlith y pethau i'w gwneud yn y Rhondda y mae distyllfa enwocaf Cymru, parc antur llawn adrenalin ac amgueddfeydd hynod ddiddorol sy'n cynnig cipolwg yn ôl i'r gorffennol.

Taith Pyllau Glo Cymru

Beth am gael blas ar sut brofiad oedd gweithio mewn amodau tywyll a pheryglus yn ddwfn o dan y ddaear yn Taith Pyllau Glo Cymru, gyda thywysydd a oedd yn gweithio yn y pwll glo? Gallwch wisgo het galed ac archwilio twnnel pwll tywyll, y tai injan a'r ystafell lampau wreiddiol. Gafaelwch yn dynn yn eich sedd ar y daith rithiol ar y tryc glo! Galwch heibio'r caffi ar y safle am ginio neu goffi.

Cyn-löwr yn gwenu ar y camera gyda phwll glo twr y tu ôl iddo.
Rhesi o lusernau glowyr lliwgar yn cael eu harddangos mewn caffi.

Taith Pyllau Glo Cymru, Parc Treftadaeth Cwm Rhondda

Amgueddfa Crochendy Nantgarw

Crochendy Nantgarw yw lle y lluniodd William Billingsley gyfuniad cyfrinachol o fwynau a arweiniodd at greu porslen gorau'r byd - llestri hynod wyn a gwydn y gellid eu haddurno mewn myrdd o ffyrdd lliwgar. Ynghyd ag amgueddfa hynod ddiddorol yn llawn cwpanau, soseri cywrain a mwy, mae gweithdai cerameg ac arddangosfeydd celf. Galwch draw i'r ystafell de glyd am baned a chacen hefyd.

Profiad Wisgi Penderyn

Y cynhyrchydd mwyaf a mwyaf cyfarwydd o wisgi brag sengl yng Nghymru, mae Penderyn yn cael ei fwynhau mewn dros 40 o wledydd. Mae'r ddistyllfa wedi'i lleoli'n agos at y dyfroedd pur a geir ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog - cynhwysyn allweddol i'r gwirodydd hudolus sy’n cael eu cynhyrchu yma. Mae Profiad Wisgi Penderyn sy'n awr o hyd yn cynnwys ymweliad â'r ddistyllfa ac i'r rhai sy'n ddigon hen, mae sesiwn samplu ar y diwedd.

Darllen mwy: Teithiau gwinllan yng Nghymru.

Grŵp o bobl yn mynd ar daith o amgylch ddistyllfa, yn sefyll drws nesaf i ddwy gerwyn aur.

Grŵp o bobl yn archwilio'r distyllfa ym mhrofiad Wisgi Penderyn

Neuadd y Dref, Llantrisant

Wedi'i leoli mewn adeilad rhestredig Gradd II sydd wedi'i adnewyddu'n addurniadol, mae Neuadd y Dref Llantrisant yn llawn o bethau diddorol am y dref hanesyddol hon ar ben y bryn. Ymhlith y trysorau prin mae byrllysg arian o'r 17eg ganrif, sy'n dyddio’n ôl cyn Rhyfel Cartref Lloegr. Bydd plant wrth eu bodd â'r arddangosfeydd rhyngweithiol, gwisgoedd o’r cyfnod i’w gwisgo a chystadlaethau. Gallant hyd yn oed roi cynnig ar saethyddiaeth.

Amgueddfa Pontypridd

Wedi'i lleoli mewn hen gapel sy'n dyddio'n ôl i 1861, mae Amgueddfa Tref Pontypridd yn wledd o ddarganfyddiadau hynod sy'n dangos hanes cyfoethog y dref. Yn eu plith mae eiddo personol Evan a James James - y tad a'r mab a gyfansoddodd anthem genedlaethol Cymru - a phaentiadau yn darlunio'r dref yn y dyddiau a fu. Mae pib-organ nerthol y capel yn dal i lenwi’r lle, gan godi i'r entrychion dros weddill yr amgueddfa.

Llun o organ-bib yn yr amgueddfa

Yr organ bib nerthol yn Amgueddfa Pontypridd

Profiad y Bathdy Brenhinol

Profiad y Bathdy Brenhinol yw lle mae darnau arian y DU yn cael eu gwneud - ynghyd â rhai lleoedd mor bell â Jamaica, Tansanïa a Gwlad Thai. Gallwch ddilyn taith y darn arian yn y Profiad Ffatri. Byddwch hefyd yn gweld darnau arian prin ar hyd yr oesoedd ac enghreifftiau o'r medalau a fwriwyd ar gyfer Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2021.

Cist o arian yn Y Bathdy Brenhinol
Mini wedi'i orchuddio â darnau arian yn y Profiad y Bathdy Brenhinol.
Medalau efydd, arian ac aur o gemau Paralympaidd Llundain 2012

Darnau arian punt sgleiniog, mini wedi'i addurno ag arian a medalau paralympaidd yn cael eu harddangos yn Profiad y Bathdy Brenhinol

Amgueddfa Cwm Cynon

Mae Amgueddfa Cwm Cynon yn amgueddfa ac oriel hanes lleol rhad ac am ddim sy'n cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr, sy'n swatio yn Aberdâr. Gallwch ddysgu hanes hynod y bobl oedd yn byw ac yn gweithio yma yng Nghwm Cynon yn yr oes a fu. Mae dwy oriel yn cynnwys gweithiau gan beintwyr a chrewyr lleol. Mae yna siop yn yr amgueddfa ac mae'r caffi, Marty's, yn gwerthu cacennau blasus a choffi ffres.

Zipworld Tower

Yn Zipworld Tower gallwch reidio Phoenix, y wifren sip â sedd gyflymaf yn y byd, o ben mynydd Rhigos, gan weld y golygfeydd anhygoel ar draws tirweddau Rhondda a Chwm Cynon. Bydd eich pen yn troi ar y Tower Coaster wrth iddo wibio i lawr ac mae antur sip fach ar gyfer anturiaethwyr iau hefyd. Mae'r caffi ar y safle yn cynnig mwy o olygfeydd anhygoel yn ogystal â bwyd a diod gwych.

Dau berson ar ben wifren sip ‘antur ar sedd’ yn barod i'w lansio.
Pedwar person yn teithio lawr wifren sip uwchben llyn.

Reidio'r wifren sip Phoenix, Zipworld Tower

Ewch allan i’r awyr iach

Mae gan Rhondda Cynon Taf lawer o fannau gwyrdd - p'un a ydych eisiau ymlacio yn yr haul, cerdded ar draws fryniau neu feicio drwy goedwigoedd.

Ar eich beic

I feicwyr, mae Llwybr Cynon yn dilyn afon Cynon o Hirwaun i Abercynon - cyfuniad braf o bentrefi cyfeillgar a llwybrau wedi’u hamgylchu â choed o tua 11 milltir (19km).

Golygfa bell o'r beiciwr o'r tu ôl ar lwybr coetir

Beicio ar linell mwynau, rhan o Lwybr Cynon

Mae llwybr hir Llwybr Taf yn rhedeg drwy RhCT gan ddechrau yn Ffynnon Taf, trwy Drefforest a Phontypridd ac ymlaen i Abercynon. Fe allech chi feicio'r holl ffordd i Fae Caerdydd! Os ydych chi eisiau rhywbeth byrrach i goesau bach, rhowch gynnig ar lwybr Cymunedol Pentre'r Eglwys trwy goetiroedd a dolydd heddychlon.

 

Parciau prydferth

Mae llu o barciau trefol tawel i ddewis ohonynt, gan gynnwys mannau agored enfawr fel Parc Coffa Ynysangharad sy'n gartref i Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Pontypridd, cyrtiau tenis, llwybrau cerdded a chaffi a Pharc Bronwydd sy’n llawn coed, blodau a bywyd gwyllt.

Menyw yn cerdded ar hyd llwybr tarmac rhwng hen goed yn yr hydref, ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd.
mainc parc ar lwybr wedi'i amgylchynu gan lawntiau gwyrdd a choed
Llwybr cerdded o gwmpas cae gyda tharren werdd y tu cefn.

Hydref a Haf ym Mharc Coffa Rhyfel Ynysangharad a Pharc Gwledig Cwm Dâr

Neu ewch allan o'r dref ychydig i Gwm Clydach â’i lynnoedd a'i raeadrau, Barry Sidings gyda'i faes chwarae antur a'i lwybrau i'r mynyddoedd cyfagos. Ymhellach i ffwrdd mae Parc Gwledig Cwm Dâr gyda dros 200 erw o lwybrau, maes chwarae antur a llynnoedd lle gallwch logi canŵod a chaiacau. Os ydych chi'n ffansi aros dros nos, mae ystafelloedd en-suite clyd a maes carafanau a gwersylla.

Darllen mwy: Antur awyr agored ym Mharc Rhanbarthol y Cymoedd

Ewch am dro

Gallwch ddewis o dro byr i'r teulu cyfan i heiciau hir. Am daith gerdded dda rhowch gynnig ar daith fynyddig 7 milltir (9km) ar fynydd ysblennydd Pen Pych gyda rhaeadrau, cylchoedd cerrig o Oes yr Haearn a golygfeydd godidog. I gael cipolwg diddorol ar hanes lleol yr ardal rhowch gynnig ar un o bum llwybr sain am ddim, sy'n ddelfrydol ar gyfer plant chwilfrydig.

Cerflun o Sant gyda llethrau tonnog a thref y tu ôl
Ar ochr y mynydd gwyrdd gyda thai wedi'u cuddio oddi tano

Cerflun o Benrhys ar Lwybr Pererindod Pen-rhys a mynydd Penpych

Eisiau rhywbeth mwy heriol? Mae taith gylchol Pontypridd sy’n 12 milltir o hyd yn llawn golygfeydd ysblennydd. Neu cerddwch yn ôl traed yr hen seintiau ar Ffordd Pererindod Penrhys. Mae'r llwybr cyfan o Gaerdydd i Benrhys yn y Rhondda yn 21 milltir, ond mae wedi'i rannu'n chwe rhan hawdd sy'n cymryd ychydig oriau.

 

Darganfod mwy

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan dwristiaeth Rhondda Cynon Taf.

Neu dilynwch ar gyfryngau cymdeithasol:

Straeon cysylltiedig