Dewch i edmygu adeiladau hanesyddol a gerddi’n llawn blodau

Gyda’i tyrrau lu, simneiau addurnol a ffenestri pigfain Castell Margam yw canolbwynt y parc. Mae’n blasty crand, enfawr o’r 19eg ganrif a adeiladwyd mewn arddull Gothig Tuduraidd, a chymerodd ddeng mlynedd i’w adeiladu. Dinistriwyd llawer o’r tu mewn gan dân ofnadwy yn y 1970au, ac mae’r rhaglen waith i adfer y lle’n parhau hyd heddiw.

Cerflun o rianedd o flaen adeilad orendy addurnol
Adeilad orendy gyda phorticos a ffenestri

Gerddi a cherfluniau o flaen yr Orendy

Gerllaw, fe welwch yr Orendy o’r 18fed ganrif, adfeilion abaty Sistersaidd, y tŷ sitrws a adferwyd, a’r cyfan wedi’u hamgylchynu â gerddi persawrus, llawn blodau’r Orendy, sy’n lle delfrydol i oedi yn yr heulwen. Edrychwch am y goeden ffawydd enfawr sy’n tyfu wrth ochr adfeilion waliau Tŷ Siapter hynafol yr abaty. Mae’n tyfu ers cannoedd o flynyddoedd, a chafodd ei henwi’n Goeden Y Flwyddyn Cymru yn ddiweddar.

 

Gweld y ceirw

Fe welwch bob math o fywyd gwyllt ym Margam ond mae’r ceirw’n ffefryn arbennig gydag ymwelwyr. Maen nhw’n crwydro’n rhydd o gwmpas y parc. Cânt ofal mawr gan barcmyn y parc ac mae’r praidd mwyaf yn cynnwys rhyw 300 o’r bwchadanas. Rai blynyddoedd yn ôl, ailgyflwynwyd chwe charw coch o’r Alban a bellach mae yma dros 60 ohonynt.

Yn fwy diweddar, cyflwynwyd rhywogaeth lawer brinnach o’r enw Pere David. Mae’r rhywogaeth brin hon yn rhan o raglen fagu a gynhelir ar y cyd â Pharc Saffari Whipsnade yn Swydd Bedford. Mae ychydig dros 30 ohonynt yma, felly mae’n llawer mwy anodd eu gweld. Maen nhw’n edrych yn bur wahanol i’r ceirw coch a’r bwchadanas gydag wyneb lletach, ychydig mwy fel ceffyl.

Treulio amser gyda’r plant

Mae Parc Margam yn arbennig o dda ar gyfer teuluoedd. Mae digonedd i ddal sylw’r plant mwyaf prysur drwy gydol y dydd. Bydd plant 10 oed ac iau wrth eu bodd yn y Pentref Tylwyth Teg gyda’r tai bychain Tuduraidd a’r castell antur. A gallan nhw neidio a llithro ar hyd y lle yn y Maes Chwarae Antur, sy’n berffaith ar gyfer plant o 6 i 12 oed. Os yw’r plant yn hoffi anifeiliaid, bydd Llwybr y Fferm yn eu difyrru am oriau gyda merlod, defaid, moch, geifr ac ieir – llawer ohonynt yn rhywogaethau prin. Wedyn ceir y llwybr antur Dirgryniadau’r Coed ar gyfer darganfod y goedwig.

Bachgen 11 oed yn cerdded ar draws astell mewn parc chwarae antur

Cerdded ar yr astell yn y parc chwarae antur

Rhoi un droed o flaen y llall

Mae cannoedd o erwau o barcdir, coedwig a gerddi i’w darganfod. Felly gallwch ddewis rhwng dilyn eich trwyn neu ddilyn un o bedwar llwybr penodedig. Mae’r cyfan yn cynnig tro hawdd o ryw ddwy neu dair milltir (3 i 5km), er bod gan sawl un ddarnau ychydig yn fwy serth. Maen nhw’n ffordd wych o weld olion hanesyddol y parc, fel y fryngaer, adfeilion yr Abaty a’r capel adfeiliedig. Gallwch gadw llygad am fywyd gwyllt a mwynhau’r golygfeydd ysgubol a geir o’r copaon. Am fwy o fanylion lawrlwythwch y pecynnau cerdded neu gellir eu prynu yn y fynedfa a’r siop anrhegion.

I fynd i gerdded go iawn, gwisgwch eich esgidiau cadarn a chrwydrwch ar hyd Ffordd Coed Morgannwg yr holl ffordd i Barc Fforest Afan. Neu beth am roi cynnig ar un o’r llwybrau Cyfeiriannu neu droi eich llaw at Geogelcio?

Os ydych chi’n llai abl i gerdded, neu eisiau mynd am dro fwy hamddenol, gellir llogi bygis trydan. Mae dau lwybr gwastad hygyrch i gadeiriau olwyn yn rhoi mynediad i lawer o olygfeydd y parc, ac maen nhw’n ddelfrydol ar gyfer archwilio gyda bygi. Mae croeso i gŵn, ond am fod ceirw’n crwydro’n rhydd, rhaid eu cadw ar dennyn bob amser yn y parc ceirw hanesyddol, y gerddi ac ar lwybr y fferm.

Mam a’i mab yn cerdded drwy barc deiliog, a’u cefnau at y camera

Mynd am dro drwy’r dail ar hyd un o’r llwybrau

Digwyddiadau gyda’r nos

Yn y cyfnod cyn y Nadolig, mae Margam yn dod yn gartref i Luminate Cymru. Bydd detholiad syfrdanol o arddangosfeydd yn gyforiog o olau’n cael eu gosod yn y parc gyda llwybr i’w ddilyn er mwyn gweld popeth. Mae’n brofiad gwirioneddol hudol, perffaith ar gyfer nosweithiau tywyll y gaeaf a pharatoi at gyffro’r Nadolig!

Child enjoying illuminated trail at Margam Country Park.
Pobl yn cerdded ar hyd y llwybr golau ym Mharc Gwledig Margam adeg y Nadolig

Mwynhau cyffro tymhorol Luminate

Beicio

I weld mwy o’r parc, ewch ar eich beic! Os oes gennych eich beic eich hun, gallwch fynd fel y mynnoch, pryd bynnag y mynnoch. Ond cofiwch wisgo helmed bob amser wrth seiclo os gwelwch yn dda, a chofiwch roi digon o le i gerddwyr hefyd.

Ceir yma bedwar llwybr beiciau wedi’u harwyddbostio sy’n cynnig profiad beicio i bob gallu. Mae’r llwybr teulu Gwyrdd yn darmac a cherrig mân gwastad yn bennaf, perffaith ar gyfer coesau bach, beiciau cydbwysedd a beiciau trelar. Mae’r llwybr Glas ychydig yn fwy heriol gydag un darn trac sengl i lawr y goriwaered. Bydd y llwybrau Coch a Du’n ychwanegu darnau mwy serth, disgynfeydd, darnau creigiog a neidio – perffaith ar gyfer codi curiad eich calon os ydych chi’n brofiadol. Ceir manylion llawn ar y map lwybr beicio y gellir ei lawrlwytho (PDF)

Darllen mwy: Beicio mynydd yng Nghymru

Coeden ffawydd enfawr wrth ochr adfeilion capel

Coeden ffawydd Tŷ’r Siapter enillodd wobr Coeden Gymreig y Flwyddyn yn 2020

Straeon cysylltiedig