I’r rhan fwyaf o bobl, mae’n debyg mai’r peth enwocaf am fwrdeistref sirol Torfaen yw’r ffaith ei bod yn gartref i dirwedd ddiwydiannol Safle Treftadaeth y Byd UNESCO ym Mlaenafon. Ond mae yna lawer mwy i’w ddarganfod yn yr ardal. Fel un o drigolion Sir Fynwy, sy’n ffinio â Thorfaen, dyma fy nghanllaw i'r ardal. 

Amgueddfa Torfaen

Lle gwych i gychwyn eich antur yw Amgueddfa Torfaen ym Mhont-y-pŵl. Lleolir yr amgueddfa hon mewn bloc stablau Sioraidd sydd â chwrt canolog hardd, ac mae’n storfa anhygoel ar gyfer hanes y sir. Gallwch weld llu o arteffactau sy’n taflu goleuni ar dreftadaeth ddiwydiannol a chymdeithasol Torfaen, yn cynnwys casgliad trawiadol o eitemau Japaneaidd eu harddull (sef eitemau cywrain a wnaed ym Mhont-y-pŵl yng nghanol y ddeunawfed ganrif). Hefyd, mae yno orielau lle dangosir rhaglen gyfnewidiol o arddangosfeydd celfyddydol a hanesyddol.

 

Today was the end of an era at the museum! Sue has been working at the museum for well over 30 years - since the 1980s...

Posted by Amgueddfa Torfaen Museum on Friday, August 28, 2020

Y Groto Cregyn

Comisiynwyd y bensaernïaeth anghonfensiynol hon gan John Hanbury, haearnfeistr cyfoethog a phwerus o’r ardal, yn ystod ail ran y ddeunawfed ganrif. Mae’r Groto Cregyn wedi’i leoli ym Mharc Pont-y-pŵl (a oedd yn eiddo i’r teulu Hanbury ers talwm), a dyma’r enghraifft orau sydd ar ôl yng Nghymru o’r math neilltuol hwn o adeilad. Cafodd ei adeiladu o dywodfaen lleol, ac oddi allan nid yw’r to pigfain yn drawiadol iawn yr olwg. Ond mae tu mewn i’r adeilad, sydd wedi’i addurno gyda phatrymau trawiadol a wnaed trwy ddefnyddio cregyn lliwgar ac esgyrn anifeiliaid, yn fater arall.

 

Visit the Shell Grotto Pontypool Park Friends will open the Shell Grotto to visitors tomorrow (Friday 29 May) between...

Posted by Torfaen on Thursday, May 28, 2015

Bragdy Rhymni

Cafodd Bragdy Rhymni ei sefydlu’n 1839 er mwyn cynnig lluniaeth i lowyr a gweithwyr dur cymoedd y De, a daeth yn un o gwrw enwocaf Cymru. Mae’r bragdy a welir heddiw wedi adfywio dulliau bragu traddodiadol (yn ogystal ag ail-leoli’r safle yn union gyferbyn â Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru) er mwyn creu gwahanol fathau o gwrw sydd nid yn unig yn hynod flasus ond sydd hefyd yn adlewyrchu hanes cyfoethog yr ardal. Gallwch weld sut y caiff y cwrw ei wneud (a blasu rhai ohonyn nhw) yng nghanolfan ymwelwyr y bragdy, sydd newydd gael ei hailwampio.

Fferm Gymunedol Greenmeadow

Mae Fferm Gymunedol Greenmeadow, sydd wedi’i lleoli ar safle 150 acer ger Cwmbrân, yn lle gwych i blant a phobl ifanc sy’n dwli ar amaethyddiaeth. Gyda chasgliad mawr o anifeiliaid, cyfle i fynd am dro mewn tractor, a llwybr Stickman (sy’n seiliedig ar lyfr poblogaidd Julia Donaldson), mae yno ddigonedd o bethau i gadw pawb yn ddiddig. Ac os byddwch angen hoe fach, beth am ymlacio yng Nghaffi Cwtch, lle gallwch fwynhau byrbrydau a danteithion wedi’u gwneud o gynhwysion ffres lleol.

 

Llyn Llandegfedd

Mae Llyn Llandegfedd, ar y ffin ddwyreiniol rhwng Torfaen a Sir Fynwy, yn le gwych ar gyfer gweithgareddau dŵr. Gall yr anturiaethwyr dewr yn eich plith roi cynnig ar wahanol fathau o chwaraeon dŵr, yn cynnwys hwylio, nofio, padlfyrddio, caiacio, bordhwylio a gyrru cychod modur, a gallwch logi offer yn y Ganolfan Chwaraeon Dŵr. (Mae’r padlfyrddau newydd sy’n caniatáu ichi sefyll arnyn nhw, ac sy’n llythrennol yn eich galluogi i gerdded ar y dŵr, yn arbennig o hwyl.) Neu os yw’n well gennych gadw eich traed yn sych, mae’r llyn yn lle gwych i wneud rhywfaint o bysgota – mae brithyllod seithliw a brithyllod cyffredin, yn ogystal â rhywogaethau pysgota bras fel merfogiaid, rhufelliaid a phenhwyaid, yn byw yn y dyfnderoedd. Hefyd, ceir amrywiaeth o lwybrau cerdded, gyda’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n cychwyn wrth Ganolfan Ymwelwyr Llandegfedd ar lan dde-ddwyreiniol y llyn.

Adeilad wrth ymyl llyn gyda chychod ar y dŵr.
Dau o fechgyn yn padlfyrddio ar y llyn.

Padlfyrddio ar Lyn Llandegfedd a golygfa o’r ganolfan ymwelwyr

Canolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange

Dewch i weld gwaith celf cyfoes o Gymru a thu hwnt yng Nghanolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange yng Nghwmbrân. Yno, gallwch weld casgliad parhaol o weithiau gan artistiaid fel Arlie Panting, Jessie Bayes a Michael Crowther ochr yn ochr â detholiad cyfnewidiol o arddangosfeydd sy’n cynnwys darluniau, cerameg, cerfluniau a thecstilau. Os cewch eich ysbrydoli gan yr hyn a welwch, gallwch brynu eitemau unigryw gan wneuthurwyr Cymreig yn y siop grefftau, neu beth am gymryd rhan yn un o weithdai’r ganolfan er mwyn datblygu eich sgiliau artistig eich hun.

Nghanolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange

Straeon cysylltiedig