Croeso i’r gorffennol

Mae yna lond trol o hanes Cymru i’w ddarganfod yng Nghastell Caerdydd – hanes sy’n cwmpasu oddeutu 2000 o flynyddoedd i gyd.

Mae gwreiddiau’r castell i’w holrhain i’r oes Rufeinig, ond yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg cafodd y castell ei weddnewid yn yr arddull Gothig. Os nad ydych yn bwriadu mynd ar daith dywys, beth am logi arweiniad sain cludadwy ar ôl ichi gyrraedd y castell. Mae’r arweiniadau hyn i’w cael mewn deg o ieithoedd gwahanol, a hefyd ceir fersiwn i blant, ac fe fyddan nhw’n eich helpu i wneud yn fawr o’ch ymweliad. Fel arall, gallwch lawrlwytho Ap Castell Caerdydd ar eich ffôn (a defnyddio'r gwasanaeth wi-fi rhad ac am ddim).

Llun o 'r tu fewn i waliau Castell Caerdydd

Y gorthwr Normanaidd a’r Castell

Cyfrinachau tanddaearol

Rhwydwaith Caerdydd o dwneli tanddaearol yw un o’r amryfal gyfrinachau rhyfeddol a gaiff eu datgelu yn ystod eich ymweliad â Chastell Caerdydd. Mae’r llwybrau hyn, yr arferid eu defnyddio fel llochesau rhag bomio yn ystod yr Ail Ryfel Byd, yn gorwedd rhwng lefel y llawr gwaelod a lefel y bylchfur, a cheir ystafell ar gyfer oddeutu 2,000 o bobl o ganol y ddinas.

Uwchben y ddaear, mae’r Castell a welwch heddiw yn deillio o weddnewidiad anhygoel yr aeth y pensaer ecsentrig William Burges i’r afael ag ef yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Llwyddodd i greu rhai o’r cynlluniau mewnol mwyaf ysblennydd a welir ym Mhrydain, ar ôl dod dan ddylanwad arddull Gothig, arddull gwledydd Môr y Canoldir ac arddull Arabaidd. Rhaid ichi eu gweld â’ch llygaid eich hun. Oherwydd yr holl hanes a’r holl fanylder, byddai’n werth mynd ar daith dywys trwy’r Tŷ. Mae gan y tywyswyr arbenigol wybodaeth fanwl am bob twll a chornel, a chewch gyfle i ymweld â deg o ystafelloedd ysblennydd.

Llun o nenfwd hardd
Llun o ymwelwyr tu fewn i un o ystafelloedd Castell Caerdydd

Ystafelloedd ysblennydd Tŷ’r Castell

Taith dipyn yn wahanol

Yn ystod Teithiau Tŵr y Cloc, a gynhelir drwy gydol yr haf, bydd ymwelwyr yn cael cyfle i ddringo i fyny grisiau troellog hir at Dŵr y Cloc ac Ystafell Ysmygu’r Haf. Mae’r tŵr a’r ystafell yn enghreifftiau anhygoel o ddychymyg byw Burges o ran creu cynlluniau mewnol cywrain a lliwgar. Ar ôl cyrraedd pen y tŵr, oedwch am ennyd i fwynhau’r golygfeydd godidog ar draws y ddinas.

Os bydd y gwychder (a’r 101 o risiau) wedi eich llethu, pam nad ewch am baned i gegin a bar Teras y Gorthwr. Yno, cewch olygfeydd o’r Gorthwr Normanaidd a’r Castell ar draws teras awyr agored, felly cewch wylio eraill yn crwydro rhyfeddodau’r castell.

Llun agos o'r cloc ar dŵr cloc Castell Caerdydd

Tŵr y Cloc, Castell Caerdydd

The Firing Line

The Firing Line yw Amgueddfa’r Milwr Cymreig yng Nghastell Caerdydd. Mae’n adrodd hanesion ac yn arddangos eitemau cofiadwy sy’n cwmpasu 300 mlynedd o wasanaeth gan ddwy gatrawd Gymreig, sef Gwarchodlu Marchfilwyr y Frenhines a’r Gwarchodlu Cymreig. Bydd y tocyn a brynwch i ymweld â’r castell yn caniatáu ichi gael mynediad i amgueddfa’r Firing Line.

Wedyn, beth am bicio i’r siop i brynu cofrodd a mynd am dro o amgylch Parc Bute. Caiff y parc hwn ei gydnabod fel tirlun cynlluniedig hanesyddol Gradd 1. Mae’n cynnwys bron i 150 acer o fannau gwyrdd sy’n amgylchynu’r castell, a cheir yno goed o bedwar ban byd.

Gwleddoedd a marchogion ar gefn ceffylau

Mae Castell Caerdydd yn ferw o weithgarwch drwy gydol y flwyddyn, a chaiff digwyddiadau o bob math eu cynnal yno. Caiff llu o wleddoedd eu cynnal yno bob blwyddyn, lle gall ymwelwyr fwynhau noson o fwyd ac adloniant Cymreig. Cadwch olwg am ddiwrnodau agored arbennig lle caiff brwydrau canoloesol eu hail-greu, lle caiff straeon eu hadrodd, a lle ceir clerwyr ac ymrysonau twrnamaint. Hefyd, ceir nosweithiau sinema awyr agored a chyngherddau byw lle bydd enwogion y byd cerddorol yn perfformio.

Mae Tafwyl, a gynhelir ar ddechrau’r haf bob blwyddyn, yn dathlu’r iaith Gymraeg, ac mae’n croesawu siaradwyr Cymraeg a phobl ddi-Gymraeg. Bydd y prif ddigwyddiad – sef penwythnos lle arddangosir celfyddyd, diwylliant, chwaraeon a bwyd stryd Cymru – yn cael ei gynnal ar diroedd y castell.

Llun o lwyfan mewn pabell thŵr Castell Caerdydd yn y cefndir
Torf yn gwylio gig, gyda thŵr Castell Caerdydd yn y cefndir

Gŵyl Tafwyl, Castell Caerdydd

Straeon cysylltiedig