Fy Nghymru - Esyllt Sears

Mae Aberystwyth, neu 'Aber' i bawb yn lleol, yn eistedd ar arfordir gorllewinol gogledd Ceredigion. Mae'r dref yn gartref i'r pier hynaf yng Nghymru, ac ar ben gogleddol y promenâd fe welwch chi Graig-glas. Ar ddiwrnod heulog a chlir, mae'n werth dringo'r 430 troedfedd i fwynhau'r olygfa odidog o ben y bryn. Fodd bynnag, nid dim ond tirnodau enwog Aberystwyth sy'n gwneud y dref arfordirol glan môr yma mor arbennig.

Ces i fy ngeni a fy magu ym Mhenrhyncoch a Bow Street, sydd jyst tu fas i Aberystwyth. A dweud y gwir, mae fy rhieni'n dal i fyw yn y tŷ lle ces i fy magu. O edrych yn ôl, yn enwedig gan fy mod i'n byw lawr yn y de tu fas i Gaerdydd erbyn hyn, dw i'n teimlo'n lwcus iawn fy mod wedi tyfu lan yn yr ardal yna. Chi'n cael y gorau o ddau fyd, yr arfordir prydferth ar un ochr, a chefn gwlad Ceredigion o'ch cwmpas chi. Pan o'n i'n blentyn, oedd e'n teimlo fel maes chwarae enfawr – traethau, lle i nofio, pyllau glan môr, rheilffordd ar glogwyn, coetiroedd, y castell. O'n i wrth fy modd. Ac mae fy mhlant wrth eu boddau pan fyddwn ni'n mynd yn ôl i weld y teulu.

'Sdim rhyfedd bod yr ardal yn boblogaidd gyda thwristiaid. Mae teimlad tref glan môr hynafol iddi, sy'n apelgar i lawer o bobl dw i'n meddwl.

Dw i'n teithio tipyn ar hyd Prydain gyda fy nghomedi stand-yp. Weithiau, dw i'n teimlo fel fy mod i'n byw ar y ffordd. Fodd bynnag, mae gyrru'n ôl adre ar gyfer gwyliau'r Nadolig yn rhywbeth dw i'n ei drysori, nid yn unig achos fy mod i'n cael gweld teulu a ffrindiau, ond hefyd achos fy mod yn cael ailymweld â'r llefydd o'n i'n eu mwynhau fel plentyn, ac yn dal i'w mwynhau heddiw.

Fy mhrif ddiddordeb yw marchogaeth. Mae e fel math o feddwlgarwch i fi, felly mae'n hanfodol ymweld â Chanolfan Farchogaeth Rheidol. Dechreuais i farchogaeth dros 20 mlynedd yn ôl ac mae gen i atgofion melys o'r lle.

Mae marchogaeth yn arbennig o therapiwtig i fi. Mae rhywbeth arbennig am fynd allan ar gefn ceffyl i'r bryniau sy'n amgylchynu'r dref. Mae pob man mor dawel. Dw i'n teimlo fel y galla i anghofio am bopeth a chael lle i enaid gael llonydd gyda'r ceffyl a'r amgylchedd.

Mae'n sicr yn helpu bod cefn gwlad mor ogoneddus i'w gael o gwmpas Canolfan Farchogaeth Rheidol. Yn enwedig yr adeg yma o'r flwyddyn, pan mae'r gaeaf yn ei anterth, ac rydych chi'n gallu gweld eich anadl wrth i chi farchogaeth o dan y coed moel. Dyna un o fy hoff bethau.

 

Steam train making its way along the Rheidol Railway
Esyllt Sears and Sarah Breese on horseback in a field

Trên stem yn gwau ei ffordd ar hyd Rheilffordd Rheidol ac Esyllt Sears a Sarah Breese ar gefn cyffylau yng Nghanolfan Farchogaeth Rheidol.

Ar ôl taith hir, byddwn i wedyn yn mynd i Ynyslas, sef traeth a gwarchodfa natur i'r gogledd o Aberystwyth, gyda fy nghi er mwyn ymestyn fy nghoesau i a'i goesau e. Heb os, dyma yw fy hoff draeth yn y byd i gyd. Gallwch yrru yr holl ffordd at y tywod, a phan dw i yna, dw i bob amser yn cael fy llethu'n llwyr gan harddwch Ynyslas a'r dirwedd o'i hamgylch – mae'n rhywbeth wna i byth flino arno, er fy mod i wedi bod yn dod yma ers pan o'n i'n blentyn.

Dw i'n hoffi sefyll ar y traeth ac edrych allan ar draws yr aber tuag at bentref glan môr Aberdyfi. Cofiwch edrych i'r dde hefyd ac fe welwch chi'r mynyddoedd yn y cefndir yn diflannu i lawr y dyffryn. Hyd yn oed ar ddiwrnod diflas yn y gaeaf, mae godidowgrwydd Ynyslas yn dal i wenu arnoch chi.

Yn ddi-ffael bron, mae'r traeth a'r warchodfa natur yn wag yn ystod misoedd y gaeaf. Dw i'n meddwl mai'r adeg yma o'r flwyddyn yw fy hoff amser i fod yma, pan nad oes neb yma, mae mor heddychlon a thawel. Ond wedi dweud hynny, hyd yn oed yn anterth gwyliau'r ysgol a phan fydd cymeriad Aberystwyth yn newid yn llwyr dros yr haf, dyw Ynyslas byth yn teimlo'n rhy llawn. Mae'n lle arbennig.

Ynyslas Nature Reserve, the Afon Leri and the mountainous scenery
Ynyslas Beach with Aberdyfi in the background

Gwarchodfa Natur Ynyslas, Afon Leri a'r golygfeydd mynyddig a thraeth Ynyslas gydag Aberdyfi yn y cefndir.

Dros y deng mlynedd diwethaf, mae'r sîn fwyd yn Aberystwyth wedi ffrwydro – erbyn hyn, mae 'na gymaint o ddewis i'w gael. Mae gyda chi bopeth o fyrgyrs lleol Rattray Ceredigion ym mwyty Byrgyr i bizza, pasta a gril gyda blas Cymreig yn Baravin. Felly, ar ôl diwrnod o farchogaeth, neu gerdded ar hyd yr arfordir garw, mae digon o lefydd blasus i gynhesu yn Aberystwyth – un o fy hoff lefydd heb os ydy siop a bwyty Medina. Mae'r bwyty wedi'i guddio i lawr un o'r strydoedd oddi wrth y môr, ac mae'r bwyd heb ei ail. Dw i bob amser yn teimlo fel fy mod i wedi bwyta'n dda iawn pan fydda i'n mynd yna – maen nhw'n gweini amrywiaeth anhygoel o brydau cartref organig ffres, yn ogystal â'r detholiad mwyaf blasus o gacennau a danteithion melys. Pan fyddwch chi'n ymweld â'r lle, mae'n rhaid i chi flasu'r cyw iâr shawarma a'r sglodion courgette. Dyna fydda i'n ei ddewis fel arfer.

Dw i'n hoffi siopa a bwyta'n lleol pan fydda i'n gallu, felly mae'r ffaith bod Medina'n cael ei redeg yn annibynnol gan fenyw leol, o'r un enw, yn rheswm arall pam mai fan hyn yw un o fy hoff fwytai yn yr ardal. Yn ogystal â bod yn fwyty, mae Medina hefyd yn siop sy'n gwerthu cynnyrch Cymreig sy'n dod o'r ardal - popeth o jin a llysiau ffres gan gynhyrchwyr lleol, i fêl a gwin.

Seating area in the Medina restaurant
Plate of aubergine, feta, pomegranate, pine nuts, parsley and za'atar

Bwyty Medina, Aberystwyth a phlanhigyn wy wedi'i grilio, caws ffeta, pomegranad, cnau pîn, persli a za'atar.

Os ydych chi am roi cynnig ar flasu gwin Cymreig lleol, dw i wedi clywed bod gwin pefriog Gwinllan Llaethliw , sydd tua hanner awr i ffwrdd o fan hyn, yn dda iawn, ond mae llawer o rai eraill i ddewis ohonyn nhw hefyd.

Dw i hefyd yn hoff iawn o'r Tŷ Coed, sy'n siop a chaffi organig sy'n defnyddio ac yn gwerthu cynnyrch lleol a thymhorol yn unig. Dyna'r lle hefyd i fynd i gael bocsys o lysiau wedi'u dosbarthu i'ch drws (neu gallwch eu casglu o'r siop) – sy'n ei gwneud hi'n haws fyth i gefnogi tyfwyr a ffermydd lleol.

Mae'n siŵr fy mod i'n unllygeidiog, ond mae 'na rywbeth arbennig am Aberystwyth. Efallai nad ydw i'n byw yma rhagor, ond yn Aberystwyth mae 'nghalon i'n dal i fod, a phan fydda i'n mynd adre, mae'n gwneud y profiad yn fwy arbennig fyth.

View of Aberystwyth sea front at sunset

Lan y môr Aberystwyth wrth i'r haul fachludo.

Straeon cysylltiedig