Yn dilyn darllediad llwyddiannus y gyfres Autumnwatch yn Nhachwedd 2020, mae’r BBC wedi cadarnhau y byddant yn dychwelyd i CDA ar gyfer fersiwn aeafol y gyfres.
Mae canolfan addysg amgylcheddol CDA wedi ei dewis unwaith eto yn un o’r safleoedd ar gyfer rhaglenni gaeaf y gyfres fyw sy’n canolbwyntio ar wyddoniaeth a natur, gan fwrw golwg ar gynefinoedd rhai o rywogaethau trawiadol y DU i gynulleidfaoedd ledled y wlad.
Mae gofalu am a pharchu ein hamgylchedd yn parhau i ddringo’r agenda byd-eang, ac mae CDA a Biosffer UNESCO Dyfi yn ymgorfforiad o dwristiaeth amgylcheddol a chynaliadwy.
Mae’r manteision amgylcheddol a ddaeth o gyfyngiadau symud ledled y byd yn 2020 wedi cael sylw mawr, o lai o draffig a thagfeydd i lai o sbwriel mewn mannau gwledig. Mae pobl hefyd wedi ymddiddori mwy yn eu cyffiniau a bywyd gwyllt wrth iddynt archwilio eu hardaloedd lleol. Daeth hyn â thwristiaeth gynaliadwy a chyfrifoldeb amgylcheddol yn fwy amlwg i feddyliau pobl.
Daeth bod yn sensitif i’n heffaith ar y lleoliadau y byddwn yn ymweld â hwy yn flaenoriaeth i lawer. Rydym yn deall ein lles meddyliol a chorfforol yn well, a’r manteision o gael cysylltiad cryf â byd natur.
Ar gyfer ymwelwyr y dyfodol, mae gan ganolbarth Cymru lawer iawn o brofiadau a gweithgareddau i goleddu’r cysylltiadau hyn gyda’r amgylchedd naturiol. Pan fydd modd mwynhau ymweld â chymunedau gwledig unwaith eto, ewch i ymweld â rhai o’r safleoedd twristiaeth cynaliadwy hyn:
Canolfan y Dechnoleg Amgen
Pan fydd hi’n ddiogel i deithio eto, rhaid dechrau wrth gwrs gydag ymweliad â safle prif ffocws Winterwatch, Canolfan y Dechnoleg Amgen (CDA).
Wedi ei lleoli ar droed mynyddoedd de Eryri, yn rhan ogleddol Biosffer Dyfi, mae CDA yn ganolfan ecolegol fyd-enwog sy’n cynnig atebion ymarferol ar gyfer dyfodol cynaliadwy.
Gynt yn chwarel lechi ddiffrwyth, mae tîm CDA wedi rheoli adfywiad y safle, ac wedi datblygu gerddi a choetir i ddarparu cynefinoedd i fywyd gwyllt, sy’n ffynnu yno.
Yn 2021 bydd CDA yn lansio profiadau diwrnod gwahanol y gellir eu harchebu ymlaen llaw, yn seiliedig ar amrywiaeth o themâu bywyd gwyllt. Gallwch roi cynnig ar arddio neu gael diwrnod ‘gwyllt’ ar daith deuluol fel Ditectif Natur.


Barcutiaid coch ar Fferm Gigrin, Rhaeadr Gwy
Un o lwyddiannau mawr cadwraeth yng Nghymru oedd ailgyflwyno’r barcud coch. Bron â diflannu’n llwyr o bobman ym Mhrydain, gwnaethant oroesi, o drwch blewyn, mewn llecynnau diarffordd yng nghanolbarth Cymru. Y dyddiau hyn, maent yn olygfa gyffredin – ond byth yn ddinod – ledled canolbarth a gorllewin Cymru. I’w gweld ar eu gorau, mae’r bwydo beunyddiol ar Fferm Gigrin, sy’n digwydd bob prynhawn heblaw am Ddydd Nadolig (pan nad oes cyfyngiadau Covid-19 mewn grym), yn denu hyd at 600 o’r adar syfrdanol hyn yn ogystal â chriw o fwncathod a chigfrain.


Gwarchodfa Natur Pwll Fferm Hafren
Gwarchodfa Natur drefol yw Pwll Fferm Hafren ble y gall planhigion ac anifeiliaid fyw’n ddiogel, er gwaetha’r ystâd ddiwydiannol brysur sydd o’u cwmpas. Cafodd llawer o rywogaethau amrywiol eu denu at y cartref newydd yma. Mae llwybrau pren troellog yn mynd ag ymwelwyr ar daith anhygoel o gwmpas y warchodfa; yn sefyll uwchben pyllau a thiroedd gwlyb, corsiog llawn o fursennod, gweision y neidr, brogaod, madfallod dŵr a llyffantod duon.
Tua diwedd y gwanwyn a dechrau’r haf daw adar magu megis Cwtieir, Ieir Dŵr, Hwyaid Gwyllt, Gwyachod Bach a Breision y Cyrs i ymgartrefu o amgylch y pwll, y corsydd a’r gwelyau cors a grëwyd yn arbennig yn y warchodfa.
Gwarchodfa natur RSPB Ynys-hir
Mae milltiroedd o lwybrau a saith cuddfan gwylio i’w mwynhau yn Ynys-hir, safle sydd wedi ennill gwobr Ramsar, Natura 2000 a statws Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae’n noddfa ar gyfer gwylio adar, a gellir gweld amrywiaeth o rywogaethau o wahanol orsafoedd bwydo. Mae’r amrywiaeth o gynefinoedd yn sicrhau bod gwahanol adar i’w gweld ym mhob ardal, a gellir mwynhau teithiau cerdded pleserus ar hyd y llwybrau dirifedi drwy gydol y flwyddyn.

Bwlch Nant yr Arian
Saif Canolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian ym mhen dyffryn dramatig Melindwr gyda golygfeydd syfrdanol o Fae Ceredigion a Mynyddoedd Cambria. Mae’n safle bwydo’r Barcud Coch gyda llwybrau awyr agored niferus sy’n addas i bawb.
Caiff y barcutiaid coch eu bwydo bob dydd ger y llyn ym Mwlch Nant yr Arian. Mae’r Llwybr Barcud (llwybr hwylus o gwmpas y llyn) a’r caffi yn cynnig golygfeydd anhygoel o’r wledd hon i’r llygaid. Hefyd mae cwt cudd ger y safle i wylio’r adar yn cael eu bwydo.
Gall ymwelwyr ddisgwyl gweld cymaint â 150 barcud yn dod i gael eu bwydo – ac yn aml gwelir mwy yn ystod misoedd y gaeaf. Adar lleol ydynt ar y cyfan sy’n dod i gael eu bwydo o fewn pellter o 10 milltir.

Profiad Hebogyddiaeth Cymru, Powys
Pan fydd yn ddiogel gwneud hynny, bydd ymweliad â’r profiad hebogyddiaeth, sydd wedi ennill gwobrau, i ddysgu am adar ysglyfaethus yng nghanolbarth Cymru yn brofiad werth ei gael. Mae gan Iolo Williams gysylltiadau cryf gyda’r sefydliad ac mae’n cynnal dyddiau profiad i westeion pan fo hynny’n bosibl. Mae’r sefydliad yn gartref i amrywiaeth o adar yn cynnwys rhywogaethau o Walch y Môr, Hebog Tramor, Bwncath, Gwalch Glas, Gwalch Marthin, Boda Tinwyn, Cudyll Bach a Barcud Coch.
Mae Profiad Hebogyddiaeth Cymru bron yn ei 19fed blwyddyn ac mae’n falch o allu darparu gweithgareddau awyr agored un i un i bob oedran a hynny yn swatio o fewn 120 erw o Ddyffryn Dyfi hyfryd gyda golygfeydd rhyfeddol o Fynyddoedd Cambria a mynyddoedd Eryri.
Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coed Rheidol
Mae Coed Rheidol tua 12 milltir i’r dwyrain o Aberystwyth. Mae ar ddwy lan i fyny’r Afon Rheidol, a’r lan i lawr yr afon ym Mhontarfynach. Mae hwn yn goetir ysblennydd o dderw di-goes hynafol, sy’n cael ei amddiffyn yn bennaf oherwydd ei fod mor anhygyrch, ac sy’n crogi’n simsan ar geunant Afon Rheidol.
Mae’r glawiad uchel, naturiol a’r microhinsawdd lleol wrth droed y ceunant cul yn cyfrannu i’r lleithder uchel, ac o ganlyniad y doreth o blanhigion anflodeuol – mwsog, llys yr afu, cen a rhedyn.
Mae ochrau serth y dyffryn yn golygu fod ymwelwyr yn aml yn cael golwg o frig y coed i mewn i’r goedwig i weld y trigolion nodweddiadol hynny o goedwigoedd derw Cymru, y tingoch, y gwybedog brith a thelor y coed, ynghyd â’r titw tomos las a’r titw mawr.


Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
Mae Ymddiriedolaeth Natur Abercorris yn un o 36 yng ngogledd Cymru, ac mae ei haelodau a’i gwirfoddolwyr yn cysylltu safleoedd bywyd gwyllt ledled Cymru ac yn ysbrydoli cymunedau lleol a phobl ifanc i ofalu am fywyd gwyllt yn eu hardal.
Ei neges yw dod â gwerth bywyd gwyllt i gymunedau lleol, gan ddangos fod tirwedd sy’n gysylltiedig yn naturiol er lles i fywyd gwyllt a chymdeithas. Drwy gyfrwng digwyddiadau addysgiadol, teithiau cerdded a sgyrsiau gan arbenigwyr lleol, mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn addysgu ei hymwelwyr am amddiffyn a meithrin y bywyd gwyllt sydd o’u cwmpas.
Prosiect Gweilch Dyfi
Mae Prosiect Gweilch Dyfi yn un o brosiectau blaengar Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn sydd wedi’i leoli yng ngwarchodfa Cors Dyfi ger Machynlleth ar arfordir gorllewinol canolbarth Cymru.
Yn 2007 codwyd llwyfan ar gyfer y gweilch yng ngwarchodfa Cors Dyfi mewn ymateb i’r niferoedd cynyddol o weilch a welwyd bob gwanwyn a hydref ac mae tîm Gweilch Dyfi wedi bod yn gweithio i’w hamddiffyn ac i ofalu amdanynt ers hynny.
Mae Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn yn ymgymryd â phrosiectau cadwraeth, yn cynnwys prosiectau “arwynebedd mawr” megis Prosiect Pumlumon, i greu ac i adfer cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt, er mwyn sicrhau y bydd gan greaduriaid gwyllt y sir fannau diogel i fwydo, cysgodi a bridio.
Ar hyn o bryd, oherwydd cyfyngiadau Covid-19, mae llawer o’r gweithgareddau hyn wedi’u gohirio – felly edrychwch ar y cyfyngiadau diweddaraf cyn teithio, ac os nad oes modd ymweld ar hyn o bryd dewch nôl pan fydd yn ddiogel – mae’n sicr yn werth aros.