Mae Bro Morgannwg i mi yn teimlo’n eang. Cefais fy magu ym Mhenarth, tref fach bert sydd bron mor agos at Gaerdydd ei bod hi’n rhan o Gaerdydd… bron! Ond rhan o Fro Morgannwg ydi Penarth, sy’n golygu ges i blentyndod yn llawn opsiynau ar gyfer crwydro, opsiynau sydd erioed di colli eu hapêl - rhai dwi dal iw hailadrodd, a rhai o’n i’n awchu amdanynt yn ystod y cyfnod clo. Picnics ar draethau Ogwr a Southerndown, fforio ar lonydd Meisgyn a niferoedd lu o deithiau cerdded yn gorffen mewn tafarn.

Penarth

Mae Penarth yn dref lan y môr, sydd o fewn cerdded i Gaerdydd, ac yn ffefryn â’r rheini sy’n hoff o fwyd. Mae o’n llawn adeiladau, arcêd a thai Fictoraidd i syllu’n geg agored arnynt. Tref sy’n llawn siopau annibynnol - gan gynnwys y siop ffrwythau a lysiau orau i mi weld erioed (Windsor Fruit Stores), siop gaws penigamp (La Fauvette), a chigydd gwych Thompsons.

Siopau arced ym Mhenarth gyda theganau a ffrwythau

Arcêd siopa, Penarth 

Os ymlwybrwch lawr o’r siopau tuag at y traeth, fe ewch drwy Barc Alexandra - heibio’r gerddi rhosod, y band stand, y garlleg gwyllt diddiwedd, lawr yr allt tuag at y pier, a dyna le welwch chi’r Pafiliwn. Pan ro’n i’n tyfu fyny, roedd y pafiliwn mewn adfeilion braidd, ac yn gartref i ryw wersi gymnasteg na fyswn i erioed di bod isio mynychu, a dim byd arall. Erbyn hyn, fodd bynnag, mae wedi’i adfer, ac yn adeilad prydferth Art Deco sy’n gartref i gaffi braf, neuadd arddangos, a sinema unigryw. Sinema fach fach, gyda rhyw 40 o seddi, ond mae’r rhaglen o ffilmiau sy’n cael ei chynnig wastad o safon uchel. Os ewch chi ganol dydd, mae’n bosib gewch chi gynnig paned o de (mewn mwg go iawn!) a bisged am ddim i fynd mewn efo chi, sy’n ffordd wych o ddechrau unrhyw ffilm er falle’n eich gwneud chi’n ymwybodol iawn mai falle nid chi ydi’r demograffig oedran roedden nhw’n ei ddisgwyl! Tase Penarth yn berson, bydde hi mewn peryg o fod yn berson reit smyg!

 

Tase Penarth yn berson, bydde hi mewn peryg o fod yn berson reit smyg!"

Golygfa o'r awyr o bier a thraeth Penarth
Machlud haul Pier Penarth

Pier Penarth 

Y Bontfaen

Yn y cyfamser, mae’r Bontfaen yn bentref marchnad hanesyddol, a llawn cystal i foodie’ a Phenarth. Mae’n le bach trawiadol - un o’r unig drefi caerog canoloesol yng Nghymru. O fewn ei muriau, mae waliau eraill, ac o fewn rheini mae un o fy hoff lefydd – Gardd Berlysiau’r Bontfaen, sydd yn dyddio yn ôl i’r 18fed ganrif. Iard hudol sy’n llawn dop o blanhigion a pherlysiau, sydd hefyd, digwydd bod, yn anhygoel o brydferth. Yn draddiodiadol byddai defnydd i bob un o’r planhigion - naill ai i’w fwyta, ei ddefnyddio fel meddyginiaethau, neu ei ddefnyddio i liwio dillad, ac i mi, does dim gardd well yn y byd na gardd llawn pethau defnyddiol! Dwi erioed wedi gweld gardd debyg, a dwi wrth fy modd yn troedio'r llwybrau, yn darllen am briodweddau unigryw bob planhigyn gan ddysgu rhywbeth newydd bob tro (cyn i mi fynd ati wedyn i anghofio, bob tro!), ac yna cysgodi ar un o’r meinciau efo fy nghoffi.

Rownd y gornel, mae becws newydd The Hare & Hounds Bakery gan yr un bobl sy’n rhedeg fy hoff fwyty. Taswn in chi, byddwn i’n mynd i nôl coffi a chanelé, neu croissant, neu frechdan, ac yn mynd yn syth i ddihangfa’r gerddi i’w mwynhau

 

Southerndown

Southerndown ydi’r lle i fynd os ydych chi am gael diwrnod go iawn ar y traeth. Mae wedi ei amgylchynu gan gefn gwlad agored, ac yn rhan hyfryd iawn o lwybr yr arfordir. Os gerddwch chi mewn un cyfeiriad, fe gewch chi gastell, bryngaer, a choedwig, ac yn y cyfeiriad arall mae clogwyni a golygfeydd o’r Môr Hafren. Traeth tywod ydi Southerndown, lle gwych i nofio, syrffio, ac - yn ôl pob sôn - lle gwych i hel ffosiliau, ond fedra i ddim deud bod gen i brofiad o hynny! Ffosiliau neu ddim -  mae’r machlud yn werth ei weld. Ac os amserwch eich ymweliad yn iawn, mae siawns bydd cogyddion The Two Anchors yna’n paratoi pysgod ffres wedi’u coginio dros y tân i chi fwynhau gyda’r hwyrnos!

Annes Elwy ar glogwyn yn edrych ar draeth
Traeth a chlogwyn

Annes Elwy ar draeth Larnog, a golygfa o draeth Southerndown 

Y Barri  

Yn Y Barri es i i’r ysgol, felly nes i dreulio niferoedd lu o nosweithiau f’arddegau ar draeth Y Cnap, neu ym mharc Porthceri ar y penwythnosau. Mae gan Y Barri bersonoliaeth wahanol iawn i weddill Y Fro - un ifancach - mwy o fywyd, mwy o sŵn, mwy o ‘buzz’. Mae’r gymuned hefyd yn un drawiadol o gyfeillgar. Unwaith eto, yn lwcus iawn, mae hi’n le sydd wedi llwyddo i ddal gafael ar y siopau annibynnol, a’r datblygiad diweddaraf ydi’r casgliad o fusnesau bach sydd o dan un to fel petai yn sefydliad The Goodsheds. Mae yna siop grochenwaith hyfryd Matthew Jones, siop flodau ‘Wild Meadows’, a siop gofal croen cynaliadwy Cymreig, ’Goodwash’ - a dwi di bod yn gwsmer hapus ym mhob un! Yn yr adran fwyd mae nifer fawr o gwmnïau sydd wedi gweithio eu ffordd fyny o’r marchnadoedd ‘bwyd stryd’ yng Nghaerdydd yn gweini bwyd blasus.

Mae gan Y Barri bersonoliaeth wahanol iawn i weddill Y Fro - un ifancach - mwy o fywyd, mwy o sŵn, mwy o ‘buzz’."

Dilynwch gwmni bwyd a diod Annes, Y Bwrdd ar Instagram.

Straeon cysylltiedig