Pan benderfynais mod i am gerdded taith hirfaith yng Nghymru, roedd Llwybr Arfordir Cymru yn llwybr amlwg i’w chynnwys. Roedd yn cyd-fynd yn berffaith â Llwybr Clawdd Offa i greu cylch o gwmpas y wlad. Llinell rhwng y tir a’r môr.

Roeddwn am gwblhau her codi arian ar ôl cael diagnosis canser yr ofari, a phenderfynais mai cerdded i’r ysbyty fyddai’r ffordd i wneud hynny. Gallwn gerdded i fy apwyntiadau ac yna o gwmpas Cymru fel rhan o hynny. Rydw i’n berson sydd â syniadau anarferol, felly dechreuais ychwanegu llwybrau diddorol a rhannau eraill o Gymru roeddwn am eu gweld. Yn y diwedd roedd gen i daith o 3700 o filltiroedd! Llwybr Arfordir Cymru oedd asgwrn cefn fy nhaith drwy Gymru, a’r ffordd i gysylltu a cherdded rhwng yr holl lwybrau mewndirol diddorol roeddwn am eu cynnwys

Cwch rhwyfo gwyn bach ar draeth cerrig mân gyda môr yn y cefndir
Agoslun o flodau bach porffor llachar gyda'r arfordir y tu ôl

Golygfeydd o Lwybr Arfordir Cymru

Dechreuais yn llawn brwdfrydedd, gan gerdded ychydig gannoedd o filltiroedd heb ddim problemau, o’r Severn Way a Llwybr Clawdd Offa gan gyrraedd rhan ogleddol Llwybr yr Arfordir ym Mhrestatyn, lle'r oedd pileri arian cofeb Clawdd Offa yn fy nghroesawu i’r arfordir.

Roedd cerdded ar hyd arfordir gogledd Cymru’n hawdd, llwybr gwastad gan mwyaf, promenâd mewn trefi glan môr, a’r tyrbinau gwynt allan yn y môr yn creu patrwm grid difyr yn y dŵr. Cerddais o gwmpas Llandudno i Ben y Gogarth, a’r geifr gwyllt yn llamu i fyny’r llethr serth oddi ar y llwybr.

Roedd cerdded yn donig rhyfeddol a newidiodd fy mywyd."

Dechreuodd pethau fynd yn wirioneddol anodd wrth gyrraedd Conwy; roedd poen yn fy nhraed; plantar fasciitis, fel y digwyddodd. Bydd unrhyw un sy’n cerdded pellteroedd yn dweud wrthych fod cyflwr eich traed ar eich meddwl drwy’r amser, mae angen llawer o ofal arnyn nhw ac osgoi pothelli a mannau poenus. Ond roedd hyn lawer yn waeth na’r arfer. Byddwn yn effro yn y nos a’r boed yn saethu drwy fy sodlau. Cefais ddiwrnod gwirioneddol wael yn cerdded ar hyd aber afon Conwy, yn fwy o hercian a dweud y gwir, a oedd yn teimlo fel argyfwng go iawn. Doeddwn i ddim y teimlo y gallwn i fynd ymlaen.

Golygfa o draed y cerddwr mewn sanau gyda sgidiau a brecwast wrth eu hymyl
Edrych i lawr ar draed noeth pothellog yn cael eu golchi yn y môr oer

Dwy o’r troeon niferus pan dynnais fy sgidiau i oeri a gorffwys fy nhraed

Roedd ildio yn rhywbeth na allwn ei wneud; ar adegau teimlwn yn isel iawn wrth feddwl am yr holl filltiroedd o ‘mlaen. Ond penderfynais ddal ati a gwneud yr hyn allwn i, ceisio ymlacio o’r pwysau i gerdded ymhell bob dydd. Roedd yn help cael hoe yn rheolaidd a rhoi fy nhraed mewn dŵr oer, ac roedd hynny’n wych gan mod i wrth y môr!

Roedd cerdded yn hamddenol bob dydd heb wthio’n rhy galed yn golygu y gallwn barhau gyda’r her anferth hon roeddwn wedi ei gosod i fi fy hun. Doedd fy nhraed ddim yn gwella, ond roeddwn yn gallu dygymod â’r boen. Ac ar noswyl Calan yn fy mhabell gallwn glywed y tân gwyllt ym Mangor yn y pellter. Wedyn roeddwn yn wynebu Sir Fôn a Phen Llŷn yng nghanol stormydd gwyllt mis Ionawr, yn chwythu ac yn hyrddio ar glogwyni’r môr sy’n wynebu Iwerddon lawr i foroedd tawel Bae Ceredigion.

Cerddwr yn wynebu'r camera yn y glaw yn dal dau bolyn cerdded
Baner Cymru yn fflachio yn erbyn y machlud gyda'r môr y tu ôl

Yn y gaeaf byddwn yn aml yn dechrau yn y glaw ond yn cael machlud gwych

Er bod angen ichi wisgo dillad addas ar gyfer hyn, peidiwch â gwrthod cerdded yn y gwynt yn y gaeaf; bydd hyrddiadau’r gwynt yn eich llenwi ag egni. Byddwch yn teimlo’ch egni’n codi wrth ymladd eich ffordd ar hyd y creigiau i orffwys a chael eich gwobr, hwyrach sglodion hallt mewn papur newydd yn blasu cymaint yn well am yr ymdrech i gyrraedd yno. Arhosais mewn aml i dafarn a thywod trwchus wrth ei ddrws a’r ffenestri’n anwedd i gyd y tu mewn, mannau rhagorol i gael hoe, coffi rheolaidd a siocled poeth, weithiau gyda joch o rwm am fwy o wres.

Roedd yna draeth gwych arall bob amser heibio i’r pentir nesaf."

Bob yn dipyn cerddais o gwmpas arfordir Cymru a chael blas ar bromenadau hir, gwastad a chlogwyni creigiog, i aberoedd bychan bach digon o faint i ddau gwch i filltiroedd o draethau tywod llydan. Cerddais y cyfan, ddydd ar ôl dydd ym mhob un o dymhorau’r flwyddyn.

Roedd yr haf wedi dod erbyn i fi gyrraedd Arfordir Sir Benfro - hufen iâ yn toddi a theuluoedd hapus yn chwarae ar y traethau,. Roedd anawsterau ar rannau mwy serth y llwybr yn diflannu o weld lliw gwyrddlas hardd y dŵr a chael gweld morloi yn ymdrochi yn y baeau islaw.

bwa naturiol mewn clogwyn gyda môr glas y tu ôl iddo
Nodwr Llwybr Arfordir Cymru ar wal gerrig wedi'i gorchuddio â chen

Bwa yn y graig yn Sir Fôn ac un o’r llu marcwyr defnyddiol

Daeth pob rhan newydd o’r daith yn antur fach mewn blwyddyn o anturiaethau, ffordd newydd i weld wyneb gwahanol Cymru. Roedd yn anodd peidio ag aros i olchi fy nhraed yn nŵr y môr; roedd traeth godidog arall bob amser heibio i’r pentir nesaf, cyfle arall i ollwng fy sach gefn ar y tywod ac oeri fy nhraed yn y dŵr tawel. Roedd fy nhraed erbyn hyn lawer yn well, ac roeddwn yn llwyddo i gerdded 18 milltir galed bob dydd.

I lawr ar Benrhyn Gŵyr ar y llwybr pigais ychydig samffir gwyllt i’w roi yn fy mrechdanau caws, a chael rhwbio mwng rhai o’r ceffylau hanner gwyllt sy’n crwydro ar hyd ymylon y corsydd.

Ceffyl gwyn yn pigo'i drwyn yn chwilfrydig ar y camera - arfordir yn y cefndir

Ceffyl cyfeillgar y deuthum ar ei draws ar Lwybr Arfordir Cymru

O Eglwys fach wyngalchog y Mwnt, y goleudy ar ynys Lawd, y gwiwerod coch cyfeillgar yng ngwarchodfa natur Niwbwrch, y tonnau ffyrnig ar ymyl Pen Pyrod yn Rhosili, roedd llwybr yr arfordir yn orlawn o olygfeydd rhagorol ac eiliadau bythgofiadwy yn ogystal â digon o luniau ohonof â ngwallt yn wyllt yn y gwynt grymus. Gwelais yr haul yn disgyn i mewn i’r môr mewn cannoedd o wahanol fathau o liwiau, ac o gannoedd o wahanol olygfeydd.

Roedd y daith yn gwneud i fi sylweddoli mor gryf oeddwn i, ac mor bwysig oedd derbyn help. Roedd pobol yn codi llaw arnaf, yn dweud helo, yn aros i roi arian yn fy mlwch rhoddion, a hyd yn oed yn cynnig lle i fi aros.

Roedd y daith yn gwneud i fi sylweddoli mor gryf oeddwn i, ac mor bwysig oedd derbyn help."

Bûm yn cerdded am 18 mis i gyd, dros 3700 o filltiroedd yng Nghymru. Roedd llwybr yr arfordir yn 870 milltir o hynny. Cwrddais â phedwar cerddwr arall yn cerdded y cyfan – yn cerdded y cylch i gyd o 1000 o filltiroedd o gwmpas ffin y wlad, i gyd wedi’u hysgogi i godi arian at wahanol elusennau.

Roedd cerdded yn donig rhyfeddol a wnaeth i fi nid yn unig deimlo’n well ar ôl cael canser, ond hefyd drwy greu profiad a newidiodd fy mywyd.

Selfie gan y gerddwr Ursula Martin yn gwisgo ei sach deithio

Dechrau diwrnod arall o gerdded tuag at ddiwedd fy nhaith drwy Gymru

I’ch ysbrydoli

  • Eiliadau gorau
    Sawl machlud rhyfeddol – y cylch cyfan o liwiau pan fydd yr haul yn machlud.
  • Pethau hanfodol i fynd gyda chi
    Ewch â hanner y dillad rydych yn credu fydd eisiau, ond ychwanegu un pâr arall o sanau.
  • I bwy mae hyn yn ddelfrydol
    Gall unrhyw un sy’n heini ac yn iach gerdded y llwybr yn gyfan, ond mae angen ichi gael yr offer iawn a chael digon o amser. Cofiwch gynllunio ymlaen.
  • Yr adeg orau
    Roeddwn wrth fy modd yn cerdded yn y gaeaf. Ond gwisgwch yn gynnes. Mae’n rhoi rhyw egni rhyfedd ichi!
  • Awgrymiadau gorau
    Cofiwch gael y dillad cywir ar gyfer y tywydd. Gofalwch am eich traed. Mae’n hanfodol ichi eu cadw’n lân ac yn sych. Deliwch ag unrhyw bothelli ar unwaith.

I gael gwybod rhagor

Gallwch ddarllen y stori’n llawn yn llyfr Ursula One Woman Walks Wales.

Straeon cysylltiedig