Pan ofynnon ni i’n dilynwyr ar Facebook enwi llefydd picnic gwych yng Nghymru, fe gawson ni ymatebion dirifedi. Dyma’r llefydd ddaeth i’r brig. Llenwch eich hamper ac i ffwrdd â chi!
Ynys Llanddwyn, Ynys Môn
Lle rhamantus ac anghysbell yw Ynys Llanddwyn, sydd wedi’i henwi ar ôl Dwynwen, y dywysoges o’r bumed ganrif a nawddsant cariadon Cymru. Ynys lanw yw hon, sy’n cysylltu â de-orllewin Ynys Môn drwy rimyn bach o dywod. Bydd hwnnw’n diflannu o dan y tonnau pan fydd y llanw’n uchel. Ynghyd â Choedwig Niwbwrch gerllaw, mae Llanddwyn yn Warchodfa Natur Genedlaethol oherwydd ei thwyni a’i chreigiau hynafol.


Llyn Padarn, Llanberis
I gyfuno hwyl picnic hen ffasiwn â rhamant taith ar drên bach, gyda golygfeydd godidog o Eryri i gyd-fynd, Rheilffordd Llyn Padarn amdani. Bydd y locomotifau stêm yn pwffian heibio i Gastell Dolbadarn ac ar hyd glannau Llyn Padarn, cyn stopio yng Nghei Llydan, lle mae traethau braf ar y lan laswelltog.


Moel Famau, Bryniau Clwyd
Mae gan Fryniau Clwyd yn y gogledd-ddwyrain hanes rhyfeddol, ac mae yno lethrau, coedwigoedd a rhostiroedd braf sy’n berffaith ar gyfer cerdded, beicio a marchogaeth.
Mae Coed Moel Famau yn fan cychwyn da i sawl llwybr cerdded o wahanol hyd, gyda rhai’n fwy anodd na’i gilydd. Moel Famau yw’r uchaf o Fryniau Clwyd, felly ar ôl cyrraedd y copa, fe gewch chi fwynhau golygfeydd gwych o’r gogledd a phicnic cwbl haeddiannol!
Mae llwybr cylchol Tŵr y Jiwbilî yn cychwyn o’r maes parcio ac yn dringo’n weddol serth drwy’r goedwig i gopa Moel Famau ac adfeilion Tŵr y Jiwbilî. Mae’r llwybr yn dychwelyd wedyn drwy gefn gwlad agored ar hyd Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa.
Castell Llansteffan, Sir Gâr
Dewch i fwynhau’r golygfeydd braf wrth gael picnic yng Nghastell Llansteffan, a godwyd tua 1280. Yn gefnlen, mae tywod Moryd Tywi, Bae Caerfyrddin, a thir ffermio gwyrdd. Mae croeso i gŵn ar dennyn ar y lefel isaf.

Bryn y Castell, Dinbych-y-pysgod
O’r holl lefydd yng Nghymru i chwarae brenin y castell (neu’r frenhines), dyma un da dros ben. Does dim llawer ar ôl o’r gaer o’r drydedd ganrif ar ddeg yn Ninbych-y-pysgod, ond am olygfa! Gorffwyswch ar y penrhyn glaswelltog, teimlwch yr awel ar eich wyneb, a mwynhewch synau glan môr yn codi o’r harbwr tua’r gorllewin ac o’r traeth tua’r de.

Traeth Llandudno
Efallai y bydd hi’n dywydd hufen iâ, ac yn ddiwrnod chwilboeth o haf, neu’n brynhawn clir, oer ganol gaeaf. Mae Llandudno, y naill ffordd neu’r llall, wastad yn lle poblogaidd ymhlith y rheini sy’n hoffi mynd am dro, codi cestyll tywod, a bwyta yn yr awyr agored. Ac mae digonedd o gadeiriau plygu i ymlacio ynddyn nhw hefyd.

Anfon Llugwy, Betws-y-Coed
O faes parcio Pont y Pair ar ochr orllewinol Betws-y-Coed, mae’n waith ychydig funudau o gerdded i ardal bicnic hyfryd yng nghysgod y coed, lle mae’r afon yn llifo’n braf. I fynd ychydig ymhellach, dilynwch y llwybr ar hyd glannau afon Llugwy. Mae rhodfa bren yno, felly bydd defnyddwyr cadair olwyn a theuluoedd sydd â phramiau’n gallu mwynhau’r llecyn tawel hwn.

Traeth Porthdinllaen, Pen Llŷn
A hwnnw’n lle tlws i’w ryfeddu, mae traeth Porthdinllaen yn unigryw. Ble arall y gallwch chi ymlacio yn y fath fodd? Anelwch am y Tŷ Coch, hen dafarn y pysgotwyr, cyn rhoi’ch traed yn y tywod gyda pheint braf o gwrw yn eich llaw – a hwnnw wedi’i enwi ar ôl un o frenhinoedd Ynys Enlli. Ar ôl cinio, beth am rywfaint o snorclo, neu wylio gwenoliaid y glennydd yn gwibio oddi fry ac yn plymio i’r ddaear. Chewch chi ddim mynd â cheir yno, ond mae cyrraedd ar droed yn brofiad gwerth chweil.


Bae Rhosili, Gŵyr
Felly, dyma chi wedi cyrraedd Bae Rhosili. Dewis da – mae pobl wedi cael eu denu i’r traeth trawiadol hwn yng Ngŵyr ers Oes y Cerrig, sy’n golygu bod yr ardal yn frith o safleoedd archaeolegol. Y cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud yw dewis eich llecyn picnic. Mae tair milltir o draeth o’ch blaen. Beth am gystadleuaeth olwyn drol wrth i chi benderfynu?

Llyn Efyrnwy, Powys
Os mai lle cysgodol, braf a dyfroedd eang, tawel sy’n mynd â’ch bryd, fe fyddwch chi wrth eich bodd yn Llyn Efyrnwy, cronfa a gafodd ei chreu ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg i gyflenwi dŵr i ddinas Lerpwl. Gyda choedwigoedd, dolydd a rhostiroedd o’i amgylch, mae’r lle’n orlawn o fywyd gwyllt, ac yn gartref i wybedogion brith, tingochion, hebogiaid tramor, bwncathod ac ystlumod.
