Dewis y ffyrdd cefn neu ddilyn eich trwyn… dyma sut i ddarganfod y mannau cudd sy’n llechu oddi ar y priffyrdd.

Gogledd Llŷn

Cyn troi’n ôl o Abersoch, gallech dreulio awr neu ddwy (neu ddiwrnod neu ddau) yn gyrru o gwmpas trwyn eithaf Pen Llŷn i archwilio ochr wylltach y penrhyn. Ewch heibio i draeth 4 milltir (7km) o hyd Porth Neigwl i Aberdaron, ac yna ymlaen i fyny’r arfordir. Byddwch yn pasio tywod cerddorol, sy’n chwibanu wrth i chi gerdded arno, cwrs golff heb ei ail ym Morfa Nefyn (fel chwarae ar ddec llong ryfel enfawr), tafarn wych ar lan y dŵr ym Mhorthdinllaen, a chofiwch grwydro i lawr i Nant Gwrtheyrn, Canolfan Iaith Gymraeg - a llawer mwy na hynny hefyd. 

Golygfa o'r morlin gyda chychod yn y môr

Cwrs golff Nefyn, Pen Llŷn 

Dolen Machynlleth

Yn hytrach na dilyn Aber Mawddach i’r môr, anelwch i gyfeiriad Dolgellau, ewch tua’r de ar yr A470, ac yna trowch ar yr A487 tua Minffordd. Mae’r ffordd yn mynd â chi i lawr un o’r bylchau mynyddig mwyaf dramatig yng Nghymru, gyda Chader Idris yn pwyso drosoch i’r dde, a Llyn Mwyngil yn pefrio ar lawr y dyffryn. Mae’r fan hon yn denu pobl sydd â diddordeb mewn awyrennau rhyfel: dyma Ddolen Mach, ble bydd peilotiaid jetiau’r RAF (a sawl llu awyr arall) yn profi’u sgiliau hedfan isel, gan ddisgyn cyn ised â 250 troedfedd (75m) weithiau. I fynd yn ôl i’r arfordir, dilynwch yr arwyddion am Dywyn.

Golygfa o gopa Cadairr Idris yn edrych tuag at yr arfordir.

Cadair Idris

Gwlad y Gwyll

O gwmpas Aberystwyth y bydd y gwaith o ffilmio’r gyfres dditectif dywyll Y Gwyll yn digwydd, ac mae’n manteisio i’r eithaf ar y dyffrynnoedd diarffordd a gwag sydd ond ychydig filltiroedd i mewn o’r arfordir – y math o le na fyddech chi’n dod ar ei draws heb ychydig o gyfarwyddyd lleol. Defnyddiwyd Pontarfynach ar gyfer lleoliad trosedd y bennod gyntaf (er bod y lle’n hyfryd iawn mewn gwirionedd, a gallwch fynd yno ar drên stêm o Aber). Dyma ardal ragorol ar gyfer cerdded, seiclo a gwylio’r barcud coch yng ngwarchodfa goedwig Bwlch Nant yr Arian hefyd.

Golygfa o Bontarfynach ymysg coetir
Barcud coch yn hedfan dros lyn, yn cael ei lun wedi tynnu gan grŵp o bobl.

Pontarfynach a Bwlch Nant yr Arian

Cwm Gwaun

Bydd trigolion Cwm Gwaun yn dal i ddathlu’r Flwyddyn Newydd ar Ionawr 13 – gwrthododd yr ardal dderbyn y calendr Gregoraidd newydd yn 1752, gan lynu at yr Hen Galan. Dathlwch gyda pheint o gwrw Bass o biser Bessie yn y Dyffryn Arms: bu’r dafarnwraig o fri yn gweini’n syth o’r gasgen am dros 60 mlynedd. Mae Mynyddoedd Preseli ar bob ochr i Gwm Gwaun yn frith o henebion fel Pentre Ifan a bryngaer Carningli. O’r bryniau hyn y torrwyd cerrig gleision Côr y Cewri, ond bydd angen sawl peint o gwrw lleol Bluestone arnoch i ddatrys pos symud y cerrig i Swydd Wiltshire.

Y De Del

Daw Ffordd yr Arfordir i ben yn Nhyddewi, ond mae hi’n werth croesi’r Landsker sy’n rhannu Gogledd Penfro Gymraeg oddi wrth ardal a ystyrir yn draddodiadol yn fwy Seisnig a Saesneg - bro y ‘down-belows’ yn y De. Welwch chi mo’r ffin, ond mae’n ddigon hawdd ei chlywed: mae’r acen leol yn newid yn drawiadol wrth i chi fynd tua’r de ar hyd Bae San Ffraid. Dyma arfordir rhagorol, felly allwn ni ddim â dewis ein hoff ran. Druidston, Marloes, Ynys Sgomer, Barafundle, Maenorbŷr … ac mae hynny oll cyn i ni ddod i gyrion tref harbwr berffaith Dinbych-y-pysgod. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n chwilio am eich ffefryn chi. 

Caiacs lliwgar ger Ynys Dewi, Sir Benfro.

Chwilio am donnau ger Ynys Dewi, Sir Benfro

Straeon cysylltiedig