Mentrwch ar hyd lwybrau sgwarnog i’r mynyddoedd ac fe ddewch o hyd i lawer o ffyrdd diddorol o archwilio gogledd Cymru oddi ar y priffyrdd. Ewch igam ogam i greu eich taith ffordd unigryw eich hun. 

Ar hyd ffordd arall - yr A5

Mae dilyn yr A5 drwy ogledd Cymru’n creu ffordd arall hyfryd o ddod i’r ardal. Mae’n croesi’r ffin â Lloegr ger Castell y Waun, gan anelu drwy Langollen (dewiswch y ffordd dros Fwlch yr Oernant am olygfeydd ysgubol), ac ymlaen i Eryri. Y darn o’r daith o Gapel Curig i lawr i Ddyffryn Ogwen yw un o ffyrdd mwyaf trawiadol Cymru, gan dorri fel cyllell drwy fynyddoedd y Carneddau a’r Glyderau, sy’n cynnwys crib finiog Tryfan, hoff fynydd y dringwyr gorau i gyd.

Dyffryn Clwyd

Mae pen gogleddol Bryniau Clwyd yn gwlychu’i draed yn y môr ger Prestatyn, ac mae Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Glyndyfrdwy’n ymestyn i’r de at Fynyddoedd y Berwyn. Dyma gadwyn o gopaon grugog â bryngaerau’n eu coroni, ac yma ac acw yn y dyffryn ceir trefi canoloesol hardd fel Rhuddlan, Rhuthun a Dinbych.

Castell Dinas Brân, Bryniau Clwyd
Golygfa o Gastell Dinas Brân, Bryniau Clwyd
Yr olygfa o Gastell Dinas Brân, Bryniau Clwyd

Castell Dinas Brân, Bryniau Clwyd

O gwmpas yr Wyddfa

Gallwch fynd ar daith o gwmpas copaon uchaf Eryri, o Fangor i Gapel Curig, drosodd i Feddgelert, i fyny i Gaernarfon ac yn ôl i Fangor. Dyma sgwâr 50-milltir (80km) a Phas Llanberis yn torri ar ei thraws; yno, maes parcio Pen-y-Pass yw’r lle mwyaf poblogaidd i gychwyn cerdded i gopa’r Wyddfa.

Golygfa o'r llyn o giât gyda mynyddoedd a choed yn adlewyrchu yn y dŵr.

Capel Curig, Eryri

Afon Menai

Mae dwy bont yn croesi o Fôn; gallwch groesi dros gampwaith gwreiddiol Thomas Telford o 1826, neu dros Bont Britannia fwy modern. Mae’r ail yma’n gynt, ac mae’n cynnig gwell golygfeydd o’r bont arall ac o drobyllau Pwll Ceris islaw. Waeth pa bont ddewiswch chi, mae hi’n werth croesi’r Fenai i weld perlau fel Castell Biwmares, Ynys Llanddwyn, a’r pentref bach â’r enw mawr y mae ei adrodd yn brawf o’ch Cymreictod!

Arfordir Ynys Môn

Mae hi’n rhyw 75 milltir (120km) o daith o gwmpas ein hynys fwyaf ar hyd y priffyrdd – dyna daith ddymunol hanner diwrnod o hyd. Os ydych chi’n dymuno cerdded Llwybr yr Arfordir, mae angen rhyw 12 niwrnod i dramwyo’r 130 milltir (200km) yn llawn. Ymysg yr uchafbwyntiau bydd goleudy Ynys Lawd a chlogwyni a bwâu uwch y môr yn Rhoscolyn, twyni yn Aberffraw, Gwarchodfa Natur Bae Cemlyn, a dwsinau o draethau. 

Goleudy ar glogwyn gyda glaswellt

Goleudy Ynys Lawd, Ynys Môn

Straeon cysylltiedig