Mae gan ‘Anturiaethau Alys yng Ngwlad Hud’ gysylltiad hynod â Chymru erioed, perthynas sy'n dod yn fwyfwy amlwg diolch i ap Alys yng Gwlad Hud a dwy ffilm enwog.

Ym mis Mai 2016, rhyddhawyd ffilm Disney Alice Through the Looking Glass, sef dilyniant i ffilm lwyddianus 2010 Alice in Wonderland. Roedd Johnny Depp, Helena Bonham Carter ac Anne Hathaway yn rhan o’r cast byd-enwog, gyda seren Port Talbot, Michael Sheen yn dychwelyd fel y White Rabbit, ochr yn ochr â’r digrifwr Paul Whitehouse (a anwyd yn y Rhondda) fel y March Hare.

Alice Liddell, yr Alys go iawn

Mae cysylltiadau Llandudno â Gwlad Hud yn dyddio'n ôl i 1861 pan ddaeth Alice Pleasance Liddell (yr Alys go iawn) yn ferch fach 8 oed ar ei gwyliau cyntaf i'r ‘Frenhines y Cyrchfannau Cymreig’. Safai ei thŷ haf 'Penmorfa' yn Llandudno, lle bu ei theulu'n dod ar eu gwyliau am flynyddoedd lawer. Roedd y Liddells yn ffrindiau agos gyda Charles Dodgson, a ysgrifennodd y llyfrau o dan ei ffug enw mwy adnabyddus, Lewis Carroll.

Mae llawer o son bod Carroll wedi ymweld â’r Liddells yn eu cartref gwyliau yma, ac fe’i ysbrydolwyd gan Alice a’i hanturiaethau yn Llandudno.

Mae'r cofnod hanesyddol braidd yn gymylog, ond ni wnaeth hyn rwystro'r cyn Brif Weinidog David Lloyd George rhag datgelu cerflun eiconig o'r White Rabbit yn 1933. Mae Llandudno wedi gwneud y mwyaf o'r cysylltiad gydag Alys byth ers hynny, gyda chyfres o deithiau cerdded a llu o gerfluniau a ffigurau o amgylch y dref.

Mae'n daith llawn dychymyg mewn i fyd o realiti estynedig, sy'n cyd-fynd yn berffaith ag ysbryd nofelau ffantasi gwreiddiol Carroll, sy'n gyrru Alice (a'r darllenydd) i fyd newydd syfrdanol. Ar ben hynny, mae’n ffordd wych o weld y gorau o Llandudno, ein tref Fictoraidd arbennig.

Mae ap Alys yng Gwlad Hud yn gweithio ar iOS ac Android, a gallwch ei lawrlwytho o’r App Store neu Google Play - gweler gwefan Alice Town Trails am fwy o fanylion.

Llun o gymeriad yr Hetiwr Hurt

Yr Hetiwr Hurt

Llwybr Alys…

Yn Ardal Calonnau'r dref byddwch yn cychwyn heibio Neuadd y Dref ac yn mynd ar hyd Stryd Madoc, nid nepell o'r cerflun marmor enwog o'r Gwningen Wen a luniwyd i goffau canmlwyddiant Lewis Carroll.

Wrth anelu tua'r promenâd fe ddewch chi ar draws Oriel Mostyn, lle sydd werth i chi fynd i mewn i'w weld. Heibio'r Oriel fe welwch chi gerflun pren o'r Gwningen Wen, gyda'i wasgod a'i wats boced. Cofiwch ddod â bwced a rhaw i fynd i Ardal y Rhawiau wrth ymyl y promenâd bendigedig ar Draeth y Gogledd, lle arbennig gyda golygfeydd gwych o Ben y Gogarth.

Cerflun o'r Gwningen Wen
Llun agos o ran o do pier Llandudno

Y Gwningen Wen a Phier Llandudno

Perffeithrwydd ar y prom

Ar hyd y llwybr fe ddewch chi ar draws y Pier hiraf yng Nghymru, lle gallwch fwrw golwg ar y rheng fawreddog o westai nad ydynt wedi newid fawr ddim ers Oes Fictoria. Cadwch lygad am Westy St George lle ysgrifennodd Lewis Carroll ran o Anturiaethau Alys yng Ngwlad Hud, yn ôl pob sôn, a Gwesty Sant Tudno lle bu Alice yn aros am y tro cyntaf ym 1861.

Mae'r Fach yn lle gwych i orffwys a synfyfyrio. Yn y parc rhyfeddol hwn fe welwch chi olygfeydd godidog ac amrywiaeth o gerfluniau Alys yng Ngwlad Hud yn ymddangos yma ac acw. Gallwch hyd yn oed chwarae gêm o croquet. I weld y dref ar ei gorau ewch mewn car codi ar y lein hiraf ym Mhrydain, a fydd yn mynd â chi heibio'r Ganolfan Sgïo cyn cyrraedd copa Pen y Gogarth.

Pier hir yn ymestyn allan i'r môr

Pier Llandudno

Bwyta Fi! Yfa Fi!

Pan fydd eisiau bwyd arnoch, mae'n werth galw heibio Ardal Clybiau'r dref, lle gallwch ddewis o blith amrywiaeth o gaffis, bwytai a bariau. Mae awyr y môr yn codi chwant am sglodion, ac fe gewch chi blatiaid penigamp a phaned yn Fish Tram Chips

Ewch ar hyd y llwybr wedyn at Erddi Haulfre i gwrdd â Twidl-di a Twidl-dwm. Cymerwch ennyd i lenwi'ch synhwyrau â synau ac arogleuon hyfryd y gerddi, cyn bwrw ymlaen ar hyd hen lwybr Cust, sy'n rhan o Barc Gwledig y Gogarth.

Llun o Dramffordd y Gogarth yn dringo i fyny'r bryn

Tramffordd y Gogarth

Gwenu fel Cath Caer

Yn Ardal y Diemwntiau fe gewch chi olygfeydd godidog o fynyddoedd Eryri a gweld yr hyn a welodd Alice drwy ffenestr ei hystafell wely. Bydd gwên fel gât ar eich wyneb wrth ichi gwrdd â'r Gath Caer yn eistedd y tu allan i'r Lilly tŷ bwyta â llety lle gallwch fwynhau gwydraid bach neu beint o gwrw Mad Hatter.  

Fe gewch chi daith werth chweil ar hyd Llwybr y Gwningen Wen, ac wrth i'ch meddwl grwydro efallai y byddwch chi'n pendroni, pe byddai Alice heb ddod ar ei gwyliau yn Llandudno a sôn wrth Lewis Carroll am ei hanturiaethau, a fyddai'r llyfrau byd-enwog hyn wedi gweld golau dydd o gwbl? Rhyfeddach a rhyfeddach!

Delwedd o gerfiad ar Lwybr Alice in Wonderland.
Llun o un o arwyddion Llwybrau Alys ar y llawr

Llwybrau Alys yng Ngwlad Hud, Llandudno

Straeon cysylltiedig