Prydau gwerth chweil o’ch cartref
Mae bwytai a busnesau ledled Cymru yn cynnig gwahanol syniadau, profiadau bwyta, prydau bwyd safonol a danteithion arbennig y gellir eu mwynhau o gartref. Dyma ychydig o enghreifftiau, gyda llawer o rai eraill ar gael sy’n cynnig profiadau unigryw i bobl leol ledled y wlad.
Cynhwysion o Dylan’s, Porthaethwy, Ynys Môn
Mae gan Dylan's siop ym Mhorthaethwy sy’n gwerthu cynnyrch lleol ffres, hanfodion dyddiol, cacennau, llysiau ffres a chigoedd – ac mae nhw hefyd yn gwerthu cinio poeth, blasus a’u pitsas hynod boblogaidd ar gyfer eu pobi o gartref. Gallwch archebu eich cynhwysion ymlaen llaw, sy’n amrywio o gregyn gleision neu gimwch o’r Fenai, cranc o Ben Llŷn, pitsas ffres a pheli toes, cig Edwards o Gonwy a llawer mwy ar-lein, a threfnu eu casglu yn ddiogel o’r siop. Mae Dylan’s hefyd yn cynnig prydau i'w coginio gartref fel gellir creu pryd tri-chwrs rhamantus yn hawdd.
Bwyd i fynd o'r Salt Marsh Kitchen, Tywyn
Mae'r bwyty poblogaidd, Salt March Kitchen yn Nhywyn sydd wedi ennill nifer o wobrau wedi addasu dros y cyfnod diweddar i gynnig gwasanaeth tecawê, ac yn darparu ystod eang o brydau, sy’n defnyddio cynnyrch lleol o ansawdd uchel. Mae’r opsiynau ar y fwydlen yn amrywio o gyri i bysgod a sglodion a phitsas ffres.
Pryd pitsa o'r bitseria symudol, Caernarfon
Traddodiadau a thechnegau Napoli sy'n cael eu defnyddio gan griw Jones' Pizza yng Nghaernarfon - gan gyfuno'r gorau o gynnyrch lleol Cymreig. Mae cynnig Santes Dwynwen arbennig ganddynt sy'n cynnwys pitsas a phwdin i ddau.
Bocsys blasus
Mae nifer o fusnesau yn cynnig bocsys o ddanteithion wedi eu creu yn arbennig ar gyfer Santes Dwynwen, y gellir eu postio i unrhyw le. Dyma rai enghreifftiau:
Mae Calon Lân Cakes yng Nghaerdydd yn creu bocsys llawn caceni cri siap calon - gyda llwy garu a cherdyn ynddynt.
Mae bisgedi siâp calon neu lwyau caru siocled Sweet Snowdonia o Gonwy yn anrheg perffaith i gyd-fynd gyda chwpanaid o goffi neu wydriad o bybli, ac yn gallu cael eu dosbarthu yn lleol yn ardal Conwy neu eu hanfon trwy’r post i unrhyw le.