Lle am ‘egwyl’. Lle i ‘droi cefn’ ar y byd. A lle i brofi ‘dwys dangnefedd’. Tri o ddisgrifiadau’r bardd T. Gwynn Jones am Ynys Enlli ganrif a mwy yn ôl.

Mae’r byd yn brysurach, yn gyflymach, yn llawnach lle erbyn hyn. Ond dydy Enlli wedi newid fawr ddim. Sy’n gwneud i’r disgrifiadau yma deimlo’n fwy gwir nag erioed.

Wrth gwrs, mae ’na fwy iddi na hynny. Dyma ynys a’i bywyd gwyllt yn benigamp, ei hanes yn hynod, a’i diwylliant yn drwm. Ond yn fwy na dim, ym mhob twll a chornel, mae’r naws ysbrydol ddofn yn siŵr o’ch taro a’ch llonyddu.

Ble a be

‘Pen draw’r byd’ ydy enw’r trigolion lleol ar drwyn eithaf Penrhyn Llŷn, lle mae’r allt o Aberdaron yn arwain am Uwchmynydd a’r môr. Ond mae Ynys Enlli ddwy filltir ymhellach i’r gorllewin yn y lli. Ynys sydd ond tua milltir a hanner o hyd a hanner milltir o led. Ond ynys sydd â phresenoldeb aruthrol o fawr.

Mae ganddi ei mynydd ei hun, sy’n sefyll 167 o fetrau uwchlaw’r môr. Hwn sy’n amddiffyn yr ynys o’r dwyrain, ond hefyd yn cuddio’r rhan fwyaf ohoni o olwg y tir mawr. Wrth grwydro, mae hynny’n gwneud i’r lle ymddangos yn fwy ynysig fyth.

Mae’n fan sy’n gyfan gwbl off-grid; chewch chi ddim trydan na wi-fi yma. O’r ffynnon leol y daw’r dŵr. Ac wrth i chi ddynesu drwy’r cerrynt cry’, mi fyddwch chi’n gadael y byd a’i bethau yn llwyr ar ôl.

Golygfa o Ynys Enlli

Ynys Enlli

Hen, hen hanes

Fel atyniad heddiw, mae Enlli’n denu miloedd o bobl bob blwyddyn. Ond does dim byd yn newydd am hyn. Roedd hi’n sefyll ar groesffordd yn y moroedd, ac mae pobl wedi galw yma erioed. O fynachod i fôr-ladron!

Yn rhedyn y mynydd, mae olion o gytiau o’r Oes Haearn. Mae yma adfeilion abaty o’r drydedd ganrif ar ddeg, er bod abaty hŷn yno mor bell yn ôl â’r chweched ganrif. Ac ar hyd yr oesoedd, mae pobl wedi gwneud bywoliaeth yma drwy drin y tir a physgota’r dyfroedd.

Ond efallai mai fel pen-draw’r daith i bererinon y mae Enlli’n fwyaf enwog. Roedd tair pererindod yma’n gyfystyr ag un i Rufain, a’r llwybr yn arwain yr holl ffordd drwy’r gogledd at y groes bren yng nghanol yr ynys yn y môr.

Yn wir, yn ôl pob sôn, mae ugain mil o saint wedi’u claddu yn Enlli. Gofalwch lle byddwch chi’n camu, felly!

Ond rywsut, dyma fan sy’n rhoi adfywiad ysbrydol i bobl o hyd. Lle sy’n rhoi tawelwch, heddwch a hoe.

Hen dy ar Ynys Enlli
Ynys Enlli

Hen dai Ynys Enlli

Gwefr y bywyd gwyllt

Ugain mil o saint, ie. Ond ugain mil – a mwy – o adar drycin Manaw sy’n galw’r ynys yn gartre heddiw. Y rheini, ynghyd â phob math o adar eraill dan haul. Yn wir, mae 332 o rywogaethau gwahanol wedi’u gweld yma. A hynny gan fod yr ynys yn sefyll ar lwybr mudo pwysig i’r adar yn y gwanwyn a’r hydref. Ewch am dro a rhyfeddwch at y sioe yn yr awyr uwch eich pen.

Yr un mor doreithiog ydy’r bywyd ar y glannau ac yn y tonnau. Mae dros ddau gant o forloi llwyd yn byw yng nghilfachau creigiog yr ynys, lle gwelwch chi hefyd anemonau, crancod a physgod bach o bob math dan haul.

Allan ar y môr, yn gwmni i’r cimychiaid, efallai y cewch chi gip ar ddolffiniaid a llamhidyddion, tra bo’r coedwigoedd o wymon o dan y lli yn fydoedd ynddyn nhw’u hunain.

Ar yr ynys, bydd Mynydd Enlli yn ei dro’n garped o glustog Fair pinc, grug porffor, a chen euraidd prin mewn rhai mannau. A lle bynnag ewch chi, rydych chi’n sicr o weld pob math o blanhigion a blodau prin eraill rif y gwlith.

Cadwch olwg hefyd am yr arwyddion byw o ffermio, sy’n cynnal hen draddodiad ar yr ynys. O gopa’r mynydd, mae ffiniau’r hen gaeau i’w gweld yn glir, tra bo gwartheg yn ôl yn pori yma ers bron i ugain mlynedd.

Ymhlith y llysiau a’r ffrwythau sy’n cael eu tyfu yma i wneud y lle’n gynaliadwy mae afal enwog Enlli – math cwbl unigryw o afal, a gafodd o bosib ei feithrin yn gyntaf gan fynachod fil o flynyddoedd yn ôl.

Edmygwch hefyd gadernid yr adeiladau, sydd wedi goroesi cant a hanner o aeafau garw a gwyntoedd y môr. 

Bywyd Gwyllt ar Ynys Enlli

Bywyd gwyllt Ynys Enlli
 

Artistiaid ac awyr dywyll

Yn ogystal â denu addolwyr ac adar, mae artistiaid o bob math wedi tyrru i Enlli dros y degawdau. I drafod, i ysgrifennu, i ddarlunio, i ganu, i gnoi cil... Mae’r dreftadaeth ddiwylliannol yma’n gyfoethog tu hwnt.

A bob blwyddyn, bydd ymddiriedolaeth yr ynys yn trefnu rhaglen breswyl lle bydd yr artistiaid hyn yn treulio cyfnod yma’n creu. Ewch draw i Lofft Nant i gael cip.

Ond mae’n rhaid cael mwy na chip ar yr awyr wedi iddi fachlud. Os byddwch chi’n ddigon ffodus i gael aros y nos, prin ydy’r llefydd yn y pedwar ban sy’n rhoi cystal golygfa i chi o’r sêr.

Yn wir, yn 2023, Ynys Enlli oedd y safle cyntaf yn Ewrop benbaladr i gael statws Noddfa Awyr Dywyll Ryngwladol (un o ddim ond 16 safle o’r fath drwy’r byd).

Mae Mynydd Enlli’n cuddio llewyrch o’r tir mawr, tra bo’r goleuadau prysur agosaf 70 milltir i ffwrdd yn Nulyn. Mae hynny’n golygu na chewch chi bron unman sy’n dywyllach nag Enlli gyda’r nos. Ac oherwydd hynny, chewch chi unman lle bydd y sêr mor wefreiddiol o ddisglair.

Camu ar y cwch

Mae cwmni Mordaith Llŷn yn cynnig teithiau dydd i’r ynys, a hynny o Borth Meudwy, rownd y trwyn o Aberdaron.

Gyda’r capten Colin Evans wrth y llyw, bydd y daith dros y Swnt yn cymryd tuag ugain munud, ac fe gewch chi ryw bedair awr wedyn i grwydro Enlli’n hamddenol braf.

Digon o amser i ymdawelu, rhyfeddu at y golygfeydd a’r bywyd gwyllt, ac efallai fwynhau paned neu damaid bach i’w fwyta yng nghaffi Tŷ Pellaf. 

Ac wrth ddychwelyd i’r tir mawr, mae’n bur saff dweud y byddwch chithau, fel T. Gwynn Jones, yn teimlo ychydig yn well ar ôl cael ‘troi cefn’ ar y byd am sbel.

A oedd yr erthygl yma yn ddefnyddiol i ti?
Diolch yn fawr iawn am dy adborth.