Clogwyni Ynys Lawd, Ynys Môn

Ym mhen draw Ynys Gybi, Ynys Lawd yw un o’r mannau gorau i weld miloedd ar filoedd o adar môr yn galw: yn y gwanwyn, mae’r clogwyni’n drwch o wylogod, llursod a phalod. Mae’r 44 o risiau’n golygu na ellir mynd â choets i’r goleudy, ond ceir llwybr da iawn o’r maes parcio isaf i’r rhostir, ac i fyny i olygfan o flaen Tŵr Elin. Cadwch lygad am gampau’r brain coesgoch, yr aelodau mwyaf siriol o deulu’r brain o bell ffordd.

Parc Bute, Caerdydd

Yng nghanol ein prifddinas, mae 56 hectar Parc Bute yn lle delfrydol i blant bach (a rhieni) redeg yn wyllt, ac yno filltiroedd o lwybrau tarmac, llwybr chwarae’r coetir, canolfan addysg a dau gaffi da iawn. Ond mae hefyd yn rhyfeddol o dda am fywyd gwyllt, o ystyried mor drefol yw’r ardal o’i gwmpas. Mae glas y dorlan, trochwyr a dyfrgwn yn hela yn Afon Taf, a hebogau tramor yn patrolio’r awyr – mae un pâr yn nythu yn nhŵr cloc Neuadd y Ddinas gerllaw. Byddwch yn clywed drymio’r cnocellau brith mwyaf, a chri’r cnocellau gwyrdd. Ceir hefyd 3,000 o goed, a llwybr cod QR a fydd yn apelio at bobl ifanc technolegol eu meddwl.

Group of people walking in Bute Park, Cardiff
Parc Biwt

Pyllau Lili Bosherston, Sir Benfro

Crëwyd rhwydwaith o lynnoedd gan uchelwyr Sioraidd er mwyn cael rhywbeth hardd i edrych arno o’u plasty ysblennydd, Cwrt Ystangbwll. Dymchwelwyd hwnnw amser maith yn ôl, a meddiannwyd y llynnoedd gan ddyfrgwn, gweision y neidr ac adar. Daw’r llwybr milltir (1.6km) gwastad hwn heibio i’r pyllau lili hardd, a dyma’r ffordd rwyddaf o gyrraedd traeth hyfryd Aberllydan. Ni all cadeiriau gwthio fynd yn rhwydd dros yr hanner milltir o dro draw i fae Barafundle, ond bydd plant hŷn wrth eu bodd yn stryffaglio dros y clogwyni.

Bwlch Nant yr Arian, Ceredigion

Mae’r cyfuniad hwn o fynydd/coedwig/llyn ym mhen pellaf cwm anghysbell gyda golygfeydd gwych o Fae Ceredigion a Mynyddoedd Cambria. Bwlch Nant yr Arian yw’r man cychwyn i bob math o anturiaethau heicio/beicio/marchogaeth, a hefyd un o’r mannau gorau i weld barcutiaid coch yn cael eu bwydo’n ddyddiol. Mae'r Llwybr Barcud, sy’n addas i goetsys, o gwmpas ymyl y llyn lle mae’r cyffro’n digwydd: ar amserau brig, daw tua 150 o farcutiaid coch am eu cinio dyddiol (2yh yn y gaeaf; 3yh yn yr haf).

Red Kites flying over lake with people in image feeding them
Barcutiaid Coch ym Mwlch Nant yr Arian

Gwarchodfa Natur Pwll y Wrach, Bannau Brycheiniog

Pwll y Wrach’ – dyna enw sy’n siŵr o danio brwdfrydedd y plant bach! Cafodd y pwll ei gerfio gan raeadr lle mae Afon Enig yn plymio i lawr ceunant coediog ger Talgarth. Ceir llwybr mynediad hawdd o’r maes parcio i ganol y warchodfa, lle dylai traed bach ymdopi’n rhwydd â’r rhwydwaith o lwybrau baw. Mae’n hyfryd dros ben yma yn y gwanwyn, pan fydd blodau’r gwynt yn gwthio fel sêr gwynion drwy garped melyn o lygaid Ebrill. Yn ddiweddarach, bydd clychau'r gog yn britho llawr y coetir â gwawr las, a phersawr meddwol garlleg gwyllt yn llenwi’r aer.

Canolfan Natur Cymru, Sir Benfro

Mae digonedd o lwybrau pren a llwybrau gwastad o amgylch gwarchodfa natur Corsydd Teifi, lle gallwch weld amrywiaeth helaeth o adar ac anifeiliaid brodorol. Nid brodorion mo'r ych yr afon sy’n byw yma, ond maen nhw’n gwneud gwaith gwych yn pori’r corsydd ar ran anifeiliaid eraill. Yn y ganolfan groeso, mae adran dysgu drwy chwarae lle mae gweithgareddau lliwio, tynnu llun a chwisiau ar thema bywyd gwyllt. A pheth arall, mae’r cacennau cartref yn andros o dda.

View of the outside of the visitors centre at the Welsh Wildlife Centre in Cilgerran
Marshes and reeds in Teifi Marshes
Canolfan Natur Cymru, Cilgerran

Gwarchodfa Natur Cors Caron, Ceredigion

Unwaith, buom yn holi’r naturiaethwr teledu, Chris Packham, am ei hoff lecynnau yng Nghymru, a dyma fe’n cyffroi’n lân am gors helaeth Cors Caron. Pam? Oherwydd, er nad yw cyrs mor ddramatig â mynyddoedd o ran mynnu ein sylw, maen nhw’n denu amrywiaeth anhygoel o fywyd gwyllt. Ond, wrth gwrs, maen nhw’n gallu bod braidd yn gorslyd, felly mae’r 1.5km o lwybr pren yn ffordd synhwyrol o archwilio’r baradwys natur wlyptir hon pan fyddwch yn gwthio bygi. Hawdd yw cerdded y 6km o lwybr caled ar hyd ymyl y warchodfa hefyd. Mae’r ardal yn dda dros ben am adar ysglyfaethus prinnach, a bodaod tinwyn, cudyllod bach, hebogiaid yr ehedydd a gweilch Marthin yn byw yma. Gwelwyd eryr euraid yma hefyd (wedi dianc, yn ôl pob tebyg) – cewch bwyntiau bonws triphlyg os gwelwch chi un o’r rheini.

Penrhyn Marloes, Sir Benfro

Anaddas braidd yw ynysoedd gwarchodfa bywyd gwyllt Sir Benfro i gadeiriau gwthio, ond gallwch eu mwynhau o’r tir mawr ar dro hyfryd iawn ar hyd y clogwyn ar Benrhyn Marloes sy’n dilyn llwybrau glaswelltog hawdd. Gallwch weld dolffiniaid, llamidyddion a digonedd o forloi yn y dyfroedd islaw, a mwynhau golygfeydd gwych o ynysoedd Sgomer a Sgogwm. Nodyn natur i’r rhai bach: mae Ynys Gwales yn y pellter yn ddisglair o wyn, ond nid eira sydd yno. Miloedd ar filoedd o dunelli o ‘gwano’ sydd yno, sef ein gair ni’r arbenigwyr am faw adar.

Parc Dinefwr, Sir Gaerfyrddin

Mae Parc Dinefwr yn gartref i blasty, castell o’r 12fed ganrif, parc ceirw a llwybrau natur – rydym wedi gwneud y cyfan gyda choets (mae’n dipyn o ymdrech wrth ddringo’r rhiw olaf i Gastell Dinefwr, cofiwch). Ond i fynd am dro ysgafnach, byddem yn dewis y llwybr pren gwastad hir i’r pwll melin, neu daith mewn tractor a threlar o gwmpas yr ystâd. Beth bynnag, fyddwch chi ddim yn colli’r golygfeydd gwych o’r dyffryn a’r coed anferthol sydd dros 700 mlwydd oed – a hwythau eisoes yn fawr felly pan oedd Owain Glyndŵr yn brysur yn gosod gwarchae ar y castell ym 1403.

Llwybr Arfordir y Mileniwm, Sir Gaerfyrddin

Llwybr Arfordir y Mileniwm yw brenin yr holl lwybrau cadair wthio: 13 milltir (21km) o darmac llyfn, di-draffig yr holl ffordd o Lanelli i Ben-bre. Mae Moryd Llwchwr yn cynnig digon o gyfle i weld bywyd gwyllt ar ei hyd, ond i gael gweld yn agosach ewch i Ganolfan Wlyptir Llanelli. Yno, gwnaethpwyd ymdrech fawr i apelio at blant, gyda llawer o ardaloedd chwarae, llwybrau gweithgaredd, digwyddiadau a chyfleoedd i fwydo’r adar gwyllt â llaw.