Mae gan Gymru nifer o gronfeydd dŵr hyfryd wedi eu hamgylchynu gan wyrddni. Ymysg y rhain mae pum atyniad ymwelwyr sy’n berchen i gwmni dŵr nid-er-elw Dŵr Cymru. Yn y lleoliadau tawel hyn sydd wedi eu gwasgaru ar draws y wlad, gall ymwelwyr fwynhau amryw o weithgareddau dŵr, o nofio dŵr agored i hwylio. Mae hefyd digon i’w wneud i’r rheiny fyddai’n well ganddynt drochi yn yr awyrgylch yn hytrach na gwlychu go iawn, gyda llwybrau cerdded a beicio, cyfleoedd i wylio bywyd gwyllt, a chaffis croesawgar ger y dŵr.

Llyn Brenig, Gogledd Cymru

Yn lle gwych ar gyfer y rheiny sy’n chwilio am le heddychlon i nofio, mae Llyn Brenig wedi ei gerfio i dirwedd gwledig Gogledd Cymru a dyma’r pedwerydd llyn mwyaf yng Nghymru. Hyd yn oed ar adegau prysuraf y flwyddyn mae’n ddigon hawdd cilio oddi wrth y torfeydd ar y dŵr mewn sesiwn gaiacio neu badlfyrddio (SUP), ac mae modd llogi’r offer ar gyfer y ddwy weithgaredd yn ystod tymor yr haf. Mae modd llogi cychod bach ar y llyn hefyd, a hynny drwy gydol y flwyddyn.

pobl yn padlfyrddio.

Llyn Brenig, Gogledd Cymru

 

Ar wahân i’r cyfle i hwylio o amgylch dyfroedd tawel y gronfa, atyniad arall y safle yw’r cyfle i sbecian ar y ddau walch y pysgod cynenid sy’n trigo yma. A hwythau yn un o’r pum neu chwe phâr sy’n bridio yng Nghymru, mae nhw bellach yn enwog ymhlith y gymuned o adaryddion Cymreig. Mae’r adar ysglyfaethus anhygoel hyn yn dychwelyd i’r gronfa ddŵr o Affrica yn ystod y tymor bridio (o tua mis Ebrill i fis Awst), ac mae modd eu gwylio o loches penodol y safle.

Ar ben hynny, mae’r gronfa hefyd yn lle poblogaidd ar gyfer pysgota. Caiff Llyn Brenig ei ystyried yn un o’r pysgodfeydd brithyll gorau yn y Deyrnas Unedig ac mae cystadlaethau rhyngwladol pysgota â phlu wedi cael eu cynnal yma. Mae’r llwybrau cerdded a beicio hefyd yn rhai poblogaidd, ac mae modd llogi beiciau o’r ganolfan ymwelwyr sydd hefyd yn gaffi, siop anrhegion, siop bysgota ac yn arddangosfa am adar ysglyfaethus hoffus y llyn.

teulu yn cerdded ar hyd llwybr ger llyn.
teulu ar gwch ar lyn.

Llyn Brenig, Gogledd Cymru

 

Gwybodaeth hygyrchedd

Mae’r ganolfan ymwelwyr a’r caffi ar y safle yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn ac mae yno doiledau hygyrch. Mae’r lloches i wylio’r gweilch hefyd yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn ac mae cychod olwynion hygyrch ar gyfer pysgota hefyd ar gael i’w llogi. Mae llefydd parcio anabl penodol i’w cael tu allan i’r ganolfan ymwelwyr.

Llynnoedd Cwm Elan, Canolbarth Cymru

Yn cuddio yng nghesail bryniau cadarn y canolbarth, Mynyddoedd Cambria, caiff yr ardal hon ei galw yn un o’r ardaloedd o ddiffeithwch olaf sydd ar ôl yn ne Prydain. Er bod hon yn un o safleoedd Dŵr Cymru lle na chaniateir nofio ac lle nad oes cyfleusterau chwaraeon dŵr, mae Cwm Elan â’i llynnoedd a’i chronfeydd yn gyrchfan ddelfrydol i unrhyw un sydd angen anghofio am y byd digidol am ennyd.

golygfa o’r awyr o argae.

Cwm Elan, Canolbarth Cymru

 

Gall ymwelwyr i ganolfan ymwelwyr Cwm Elan fwynhau bywyd gwyllt a threftadaeth yr ardal drwy ddilyn un o’r deuddeg llwybr cerdded sydd yma. Mae modd trefnu teithiau wedi eu teilwra ymlaen llaw gyda cheidwaid y cwm ar gyfer grwpiau mawr. Fel arall, mae cyfle i wyro i ganol y tirwedd gwyllt gyda chwrs cyfeiriannu sy’n profi sgiliau mordwyo cerddwyr gyda map papur fel yn yr hen ddyddiau (yn hytrach na dibynnu ar GPS y ffôn).

Ond nid byd natur yw’r unig atyniad gan fod yma chwe argae Fictoraidd anferth o garreg yn hawlio sylw, â’r llwybrau cerdded a beicio yn croesi’r rhan fwyaf ohonynt. Gall ymwelwyr fentro y tu mewn i Argae Pen y Garreg ar un o’r Diwrnodau Agored.

Gellir llogi beiciau o’r ganolfan ymwelwyr, sydd hefyd yn cynnwys caffi ger y dŵr.

Mae’r rhyfeddodau naturiol yn parhau hyd yn oed wedi i’r haul fachlud gan fod Ystâd Cwm Elan wedi ei restru yn un o Barciau Awyr Dywyll Cymru (IDSP), yn cynnig golygfa glir o’r cosmos disglair.

cwpl hŷn yn cerdded wrth ymyl argae.
teulu yn beicio a chronfa ddŵr yn y cefndir.

Cwm Elan, Canolbarth Cymru

Gwybodaeth hygyrchedd

Mae canolfan ymwelwyr llynnoedd Cwm Elan yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn ac mae llefydd parcio anabl y tu allan. Mae’r staff yma hefyd wedi derbyn hyfforddiant ar sut i ymdrin â phobl â dementia. Mae llwybr Coed Cnwch, sy’n dechrau tu allan i’r ganolfan ymwelwyr, yn addas ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn a rhai â symudedd cyfyngedig.

Llyn Llys-y-frân, Gorllewin Cymru

Yn dilyn prosiect adnewyddu mawr, mae llyn Llys-y-frân wedi cael ei drawsnewid o fod yn gronfa ddŵr mewn coedwig hardd yn Sir Benfro i fod yn glamp o atyniad awyr agored, yn cynnig gweithgareddau i’r teulu cyfan eu mwynhau.

pobl ar wal ddringo
pobl mewn cerbydau cert bychain.
beiciwr yn mynd i lawr allt.

Llyn Llys-y-frân, Sir Benfro

Yma mae cyfleusterau ar gyfer nofio dŵr agored, caiacio, canwio a phadlfyrddio (SUP), yr olaf o’r rhain ar gael mewn maint arferol a mawr (gyda lle i wyth o bobl, nes bod rhywun yn disgyn i’r dŵr wrth gwrs). Mae yma hefyd amryw o gyrsiau hwylio. Law yn llaw â hyn oll, mae nifer o weithgareddau hwyliog i’w cael ar y tir sych hefyd, lle gall ymwelwyr saethu bwa, roi cynnig ar y wal ddringo a – gyda gofal mawr – daflu bwyell at darged.

Mae’r safle hefyd yn lle poblogaidd i feicio â dewis o lwybrau fflat a gwastad a llwybrau mynyddig anwastad i’w harchwilio, yn o gystal â thrac slalom i ymarfer eich sgiliau. Gellir llogi beiciau ac e-feiciau o’r ganolfan ymwelwyr, sydd hefyd yn cynnwys caffi a siop anrhegion. Mae modd pysgota yn y gronfa ddŵr hefyd.

Mae’r maes gwersylla, a agorodd yn 2023, yn cynnig man gwersylla â golygfa o’r dŵr a machlud haul arbennig. Gyda chyfleusterau gwerth chweil, mae croeso i gamperfans, pebyll a charafanau gael eu gosod yn y llecyn awyr agored hwn.

 

dau ddyn yn padlfyrddio.
dau ddyn yn padlfyrddio.

Llyn Llys-y-frân, Sir Benfro

Gwybodaeth hygyrchedd

Mae llefydd parcio anabl penodol ar gael yn y maes parcio sy’n agos at y ganolfan ymwelwyr sy’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn ac sy’n cynnwys toiledau hygyrch. Mae’r llwybr ar hyd glan yr afon a llwybr taith gerdded yr ardd goffa ill dau yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn.

Llyn Llandegfedd, De Cymru

Wedi ei leoli wrth ymyl harddwch Dyffryn Wysg, â bryniau pell Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn gefnlen, mae’n anodd dod o hyd i le prydferthach i drochi na Llyn Llandegfedd.

Mae nofio ar frig agenda’r rhan fwyaf o ymwelwyr. Mae’r gronfa wedi bod yn lleoliad ardystiedig ar gyfer nofio dŵr agored ers 2021, ag amrywiaeth o bellteroedd byr a hir ar gyfer nofwyr cystadleuol sy’n ceisio datblygu eu stamina a nofwyr mwy hamddenol sy’n trochi er lles eu iechyd meddwl. Mae hefyd modd llogi canŵs, caiacs a phadlfyrddau (SUP), ac mae dosbarthiadau syrffio gwynt a hwylio i ddechreuwyr ar gael.

padlfyddwyr ar lyn.

Llyn Llandegfedd, De Cymru

 

Yn nythu rhwng y ganolfan ymwelwyr a’r ganolfan weithgareddau mae’r Arena Gweithgareddau lle gallwch chi daflu bwa saeth, taflu bwyell a saethu clai laser. Perffaith ar gyfer diwrnod allan gyda’r teulu neu ddod ynghyd â ffrindiau.

I’r rheiny sy’n well ganddyn nhw weithgareddau mwy hamddenol, mae amryw o lwybrau cerdded yn igam-ogamu allan i’r goedwig sy’n amgylchynu’r gronfa o’r ganolfan ymwelwyr. Mae gan y caffi ar y safle falconi arbennig â golygfeydd o’r llyn ac mae hefyd yn cynnig picnic, yn darparu pecynnau bwyd y gallwch chi fynd â nhw gyda chi i gerdded. Mae hefyd modd pysgota yn y gronfa.

Gwybodaeth hygyrchedd

Mae’r ganolfan ymwelwyr yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn ac mae yno doiledau hygyrch. Mae llefydd parcio anabl penodol yn union tu allan i’r ganolfan ymwelwyr. Mae modd llogi offer hygyrch ar gyfer hwylio a katakanu.

Cronfeydd dŵr Llys-faen a Llanisien, De Cymru

Cafodd cronfeydd Llys-faen a Llanisien, ar gyrion Caerdydd, eu creu yn wreiddiol yn y 1860au, ac mae mynediad wedi cael ei gyfyngu dros y degawdau diwethaf. Mae ailagor y safle i’r cyhoedd yn ystod haf 2023 wedi rhoi lle perffaith i drigolion y ddinas ac ymwelwyr fel ei gilydd i gaiacio, canwio a phadlfyrddio (SUP), a hynny ar stepen drws y brifddinas.

padlfyrddau ar lyn a chanolfan ymwelwyr yn y cefndir.
tair dynes mewn cwch.

Cronfeydd dŵr Llys-faen a Llanisien, De Cymru

Gall rhai sy’n caru natur ond sydd ddim mor hoff o wisgo siwt nofio fwynhau wrth fynd am dro o amgylch llwybrau glan y llyn. Mae’r rhain yn frith o lochesi gwylio adar lle gall ymwelwyr ddarganfod amrywiaeth o adar gwahanol drwy gydol y flwyddyn, o’r crëyr glas a’r cudyll i’r chwiwell a’r siglen.

Mae cronfa ddŵr Llys-faen wedi ei dynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) am adar sy’n gaeafu a ffyngau cap cŵyr, ac oddeutu saith ar hugain o rywogaethau wedi eu canfod ar lannau’r ddwy gronfa. Mae llawer o’r glaswelltir a’r coetir o amgylch y gronfa y tu hwnt i’r SoDdGA wedi eu dynodi’n Safleoedd o Bwysigrwydd er Cadwraeth Natur (SoBeCN).

Mae’r ganolfan ymwelwyr dau lawr yn cynnig golygfeydd anhygoel dros y cronfeydd dŵr o ffenestri mawrion y bwyty ar y llawr cyntaf, sy’n agor i’r balconi fel bod modd ichi fwynhau pryd tu allan tra’n gwylio’r chwaraeon dŵr islaw ar y llyn.

Gwybodaeth hygyrchedd

Mae’r ganolfan ymwelwyr yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn ac mae toiledau hygyrch yno. Mae lloches hygyrch i wylio adar hefyd ar gael ar y safle. Mae llefydd parcio anabl penodol i’w cael yn union tu allan i’r ganolfan ymwelwyr.

canolfan ymwelwyr ger llyn.
bwyty mewn canolfan ymwelwyr.

Canolfan ymwelwyr, cronfeydd dŵr Llys-faen a Llanisien, De Cymru

Straeon cysylltiedig