Mae Lefelau Gwent yn barth rhwng y morfa heli, tywod a gwastadeddau lleidiog, a ddatgelir pan mae'r llanw yn isel ar hyd arfordir gogleddol Aber Hafren. Oherwydd y gorwel isel, y dirwedd wastad a’r awyr eang (gyda gwawr a machlud dramatig yn aml) mae gan y Lefelau ymdeimlad arallfydol unigryw.

Dechreuodd y dirwedd hon, a grëwyd gan ddyn, ffurfio yn ystod cyfnod y Rhufeiniaid, a lluniwyd y rhan fwyaf o’r ardal yn y Canol Oesoedd gan fynachod oedd yn byw gerllaw ym Mhriordy Allteuryn ac Abaty Tyndyrn. Mae'r rhwydwaith o gaeau ffrwythlon a dyfrffyrdd hanesyddol, a elwir yn lleol yn ‘reens’, yn darparu cynefinoedd amrywiol ar gyfer rhywogaethau prin o blanhigion ac anifeiliaid sydd o ddiddordeb gwyddonol arbennig cenedlaethol.

Goleudy wedi’i beintio’n wyn.
Cornchwiglod yn hedfan mewn haid.
Drudwy ar weirenni trydan adeg y machlud.

Goleudy Gorllewin Wysg, cornchwiglod ar yr adain a drudwy’n clwydo – rhai o’r golygfeydd hyfryd ar Lefelau Gwent

Parc Tredelerch

Dyma safle pysgota poblogaidd gyda llawer o bysgod, a gallwch fynd yn ôl i’r cyfnod Mesolithig pan fyddai pobl yn hela a physgota yma filoedd o flynyddoedd yn ôl. O lwyfan gwylio’r llyn pysgota mawr hwn, gallwch weld elyrch, cwtieir, hwyaid copog ac ieir dŵr. Mae parcio am ddim ac ardaloedd picnic ym Mharc Tredelerch (Lamby Lake) hefyd.

Glanfa Fawr Tredelerch

Wrth grwydro ar hyd copa mur y môr yng Nglanfa Fawr Tredelerch, chwiliwch am rywogaethau prin o adar fel pibydd y mawn, tylluan glustiog, telor Ceti a’r goch-dan-adain.

Yn y gaeaf, bydd heidiau mawr o adar dŵr yn casglu yma ar lanw uchel – gwyliwch nhw’n bwydo ymysg olion anheddau oes yr haearn ar y dirwedd gynhanesyddol. Dyma olygfa ragorol. Cofiwch ddod â’ch sbienddrych!

Ymhellach ar hyd llwybr yr arfordir, neu o yrru ychydig ymhellach ar hyd hen heol yr arfordir ar lefelau Gwynllŵg, byddwch chi’n dod i Lan-y-brid. Ar ôl pasio olion goleudy Gorllewin Wysg, dyma gyrraedd y Lighthouse Inn, porth i fur môr lefelau Gwynllŵg. 

Tŷ a Pharc Tredegar

Tŷ Tredegar a’i Barc yw un o’r llecynnau gorau ar gyfer diwrnod allan gwerth chweil, gan ymweld â’r tŷ a’r gerddi. Bydd plant wrth eu boddau yn y maes chwarae mawr, gall pobl sy’n caru natur weld ieir bach yr haf a gwenyn yn y dolydd, tra bydd pysgotwyr yn gallu mwynhau pysgota’n hamddenol o gwmpas y llyn – mae yma rywbeth i bawb!

Mae yma gaffi, neu gallwch ddod â’ch picnic eich hun i’r parc. Mae llwybrau gyda mynediad hawdd, maes parcio mawr (sy’n rhad ac am ddim i aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol), siopau a thai bach. Mae’r safle hefyd yn cysylltu â Llwybr Arfordir Cymru a Llwybr Beicio Cenedlaethol 4.

Plasty brics coch o’r blaen.

Tŷ Tredegar

Casnewydd

Pont Gludo Casnewydd

Efallai mai’r ffordd orau o gael gweld treftadaeth ddiwydiannol Lefelau Gwent yw trwy ymweld â Phont Gludo Casnewydd, un o blith dim ond chwe phont gludo weithredol sydd ar ôl ledled y byd.

Mae’r canol ar gau dros dro wrth i ganolfan ymwelwyr newydd sbon gael ei hadeiladu (a ddylai agor yn 2023) ond mae’r cofadail dur yn parhau i dra-arglwyddiaethu dros Gasnewydd a gall ymwelwyr ei edmygu o hirbell o hyd.

Pont fetel dros afon.
Gondola ar bont dros afon.

Pont Gludo Casnewydd a’r gondola

Amgueddfa Casnewydd

Mae canol tref gyfagos Casnewydd yn gartref i Amgueddfa Casnewydd, sy’n cynnwys arddangosfa gynhanesyddol am y lefelau. Gallwch weld sgerbwd auroch hynafol a gloddiwyd o Aber Hafren, ynghyd â chasgliad syfrdanol o bethau sy’n dangos sut oedd bywyd dynion cynnar ar y lefelau hyd at gyfnod y Rhufeiniaid.

Amgueddfa Llong Ganoloesol Casnewydd

Mae’r amgueddfa’n gartref i long syfrdanol o’r 15fed ganrif a ddarganfuwyd ar lan gorllewinol afon Wysg yn 2002. Mae gan Amgueddfa Llong Ganoloesol Casnewydd doiledau a lluniaeth ysgafn hefyd. Caniateir mynd â chŵn ar y safle (ar dennyn).

Gwarchodfeydd natur

Dilynwch Lwybr Seiclo Cenedlaethol 4 neu cerddwch ar Lwybr Arfordir Cymru i ddarganfod ambell warchodfa natur anhygoel ar y daith hon.

Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent Dolydd Great Traston a Gwarchodfa Natur RSPB Gwlyptiroedd Casnewydd

Mae Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent Dolydd Great Traston a Gwarchodfa Natur RSPB Gwlyptiroedd Casnewydd ill dau’n gartref i’r gardwenynen feinllais (Bombus sylvarum) – y gacynen brinnaf yng Nghymru a Lloegr. Mae’r dolydd yn gyforiog o flodau gwyllt, trychfilod ac adar, gan gynnwys y titw barfog, ac adar y bwn sy’n paru yn y gwlyptiroedd. Gellir cael ymweliadau tywys hefyd. Gellir llogi sgwteri symudedd yn y Gwlyptiroedd.

Gwenynen mewn blodyn pinc.
Adeilad isel ffrâm fetel mewn glaswelltir.
Crafanc y dŵr – planhigion bach â dail gwyn a chanol melyn.

Cardwenynen feinllais, Canolfan Ymwelwyr Gwlyptiroedd Casnewydd a phlanhigion crafanc y dŵr

Lagwnau a mur môr Allteuryn

Dyma le anhygoel ar gyfer gwylio bywyd gwyllt – cadwch lygad am ddyfrgwn, cambig a boda’r gwerni o’r cuddfeydd. Mae’r aber hefyd yn gartref i lawer o adar dŵr. I adfer ar ôl yr holl gyffro, mynnwch baned a byrbryd yn ystafelloedd te’r Sea Wall.

Traeth ar lanw mawr.

Mur y môr, Allteuryn

Morfa Magwyr

Croesewir ymwelwyr i Forfa Magwyr gan Anne Williams, cerflun a wehyddwyd o helyg o ‘Brinker’. Yn yr iaith leol, ‘brinker’ oedd rhywun fyddai’n rheoli llystyfiant y glannau. Mae cynifer o eiriau anarferol sy’n benodol i’r ardal hon nes peri i’r micro-fragdy Anglo-Oregon gael eu hysbrydoli gan eiriau unigryw Lefelau Gwent i greu sawl cwrw blasus. Gallwch eu mwynhau mewn lleoliadau lleol fel y Farmers Arms yn Allteuryn a’r Waterloo Inn yn Nash.

Morfa Magwyr yw’r ffendir olaf sy’n weddill ar Lefelau Gwent. Dyma glytwaith o gynefinoedd, sy’n cefnogi amrywiaeth gyfoethog o fywyd gwyllt drwy gydol y flwyddyn. Wrth ddilyn y rhodfa bren o gwmpas y warchodfa, gallwch weld glas y dorlan, y crëyr copog lleiaf a chrëyr glas yn y lagŵn.

Mae Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent hefyd yn darparu teithiau tywys, cyrsiau mewn hanes naturiol a chrefftau lleol.

Crëyr bach copog ger llyn.
Pwll wedi’i amgylchynu â hesg.

Crëyr bach copog a Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Morfa Magwyr

Cestyll

Gan mai tirwedd ganoloesol ydyw, mae Lefelau Gwent hefyd yn gartref i ddau gastell ysblennydd, Castell Cil-y-coed a Chastell Cas-gwent.

Castell Cil-y-coed

Mae Castell Cil-y-coed wedi sefyll yma i warchod yr ardal am dros 800 mlynedd. Mae’n ddiwrnod braf i’r teulu cyfan ei fwynhau, wrth grwydro tir y castell a’r parc gwledig a mwynhau’r dewis o leoedd i fwyta. Darperir cyfleusterau parcio a thŷ bach hefyd. Cynhelir digwyddiadau yma gydol y flwyddyn.

Castell Cas-gwent

Mae castell hardd Cas-gwent, sy’n ymestyn ar hyd craig garreg galch, mewn cyflwr rhagorol, ac yn wir werth ymweld ag ef. Ar ôl edmygu’r tyrau a mwynhau’r hanes, ewch ar grwydr i ganol tref Cas-gwent i gael danteithion yn un o’r llu bwytai a chaffis.

 golygfa o'r tu mewn i gwrt y castell i'w weld o'r uchder.

Castell Cas-gwent

Parc Gwledig Twnnel Hafren a Rogiet

Trawsnewidiwyd Lefelau Gwent yn ystod y chwyldro diwydiannol, a gellir gweld y dreftadaeth hon o hyd ar draws y dirwedd. Ym Mharc Gwledig Twnnel Hafren a Rogiet, a fu unwaith yn iard reilffordd brysur, gallwch weld sut yr aeth natur ati i ailfeddiannu’r gorffennol, gan ei droi’n ôl yn dir gwyllt a dolydd blodau gwyllt. Mae gan y safle barcio am ddim a chysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus da.

Craig Ddu

Mae’r Graig Ddu’n cynnig golygfeydd ysgubol o Aber Hafren a dwy Bont Hafren. Mae’r safle hefyd yn gartref i ddau gerflun ‘Pobl y Dirwedd’. Mae’r Pysgotwr Rhwyd Lâf a gerfiwyd o dderw yn talu teyrnged i bysgodfeydd traddodiadol y lefelau. Gallwch weld y cerflun yn yr ardal bicnic ger y bysgodfa a’r clwt blodau gwyllt i beillwyr. Wedyn, ewch i edmygu’r Peiriannydd o ddur, sy’n dathlu cyfraniad pawb a ymlafniodd i ffurfio a choncro’r lefelau. Mae’r ffigwr trawiadol yn bwrw’i drem dros yr aber o ben mur y môr.

Dysgu mwy

Gallwch lawrlwytho gweithgareddau map trysor y cof Lefelau Byw, sy’n cynnwys gwybodaeth am y pethau i gadw llygad amdanynt a gweithgareddau i’ch helpu i ddysgu mwy am bob lleoliad yn y lefelau.

Cymryd rhan

Ers 2018, mae partneriaeth Tirwedd y Lefelau Byw wedi bod yn gweithio ar draws Lefelau Gwent i adfer, gwella a dathlu’r lefelau. Gallwch gymryd rhan drwy wirfoddoli gyda’r Lefelau Byw neu fynd i ddigwyddiad Lefelau Byw.

Golygfa o’r awyr dros gefn gwlad gwyrdd ger afon.

Lefelau Gwent – yn edrych tua’r gorllewin ger Trwyn Sudbrook ac Ail Bont Hafren. Y Graig Ddu (dde)

Straeon cysylltiedig