Gŵyl Amgueddfeydd Cymru
22 Hydref - 06 Tachwedd 2022. Mae Gŵyl Amgueddfeydd Cymru yn cynnig amryw o ddigwyddiadau mewn amgueddfeydd ledled Cymru. Mae'r holl ddigwyddiadau yn rhad ac am ddim ac yn cynnwys digwyddiadau gwyddoniaeth, crefftau, darlithoedd a sesiynau cadwraeth.
Lleisiau Eraill Aberteifi
03 - 05 Tachwedd 2022. Mae Lleisiau Eraill Aberteifi yn dychwelyd i Gymru, gyda dwy noson o berfformiadau pennawd yn Eglwys Santes Fair, ynghyd ag 80 o setiau byw ar draws y dref fel rhan o'r Llwybr Cerdd a thridiau o 'Sesiwn Clebran'.
Gemau Rygbi Rhyngwladol yr Hydref
05, 12, 19 a 26 Tachwedd 2022. Gallwch fwynhau chwarae rygbi byw gwych yng Ngemau Rygbi Rhyngwladol yr Hydref yn Stadiwm Principality, yng nghanol dinas Caerdydd. Dyma gêm Cymru v Seland Newydd gyntaf ar 05 Tachwedd, gyda thocynnau o £20, yna Cymru v Ariannin ar 12 Tachwedd gyda thocynnau o £10. Ar 19 Tachwedd mae Cymru'n wynebu Georgia, gyda thocynnau o £5 ac yn olaf Cymru v Awstralia, gyda thocynnau o £12.50.
Nadolig ym Mae Abertawe
08 Tachwedd 2022 - 08 Ionawr 2023.Mae Gwledd y Gaeaf ar y Glannau Abertawe yn dychwelyd i Barc yr Amgueddfa, gyda Phentref Alpaidd estynedig. Mae llu o atyniadau ac amrywiaeth o fwyd a diod Nadoligaidd, gan ddarparu lleoliad perffaith ar gyfer cymdeithasu. Archebwch sglefrio iâ ar-lein. Mae sesiynau hygyrch i sglefrio ar gael yn ystod yr awr gyntaf o sesiynau sglefrio bob dydd Mawrth. Newydd ar gyfer 2022 yw tocynnau arbedwr gwych, sy'n cynnig arbedion sylweddol i deuluoedd a myfyrwyr ar sglefrio, bwyd a diod.



Ffair Aeaf, Canolfan Ymwelwyr Cwm Elan
06 Tachwedd 2022. Dechreuwch eich siopa Nadolig gyda'r Ffair Aeaf yng Nghanolfan Ymwelwyr Cwm Elan. Mae amrywiaeth o fwyd a diod leol o safon, gan gynnwys siocled MAC, Radnor Preserves a Choffi Teifi. Mae yna hefyd gynhyrchwyr crefft ynghyd ag ystod newydd ei ehangu yn y siop anrhegion gan gynnwys cyfwisgoedd dillad awyr agored, binocwlars Hawke a llenwyr hosan perffaith.
Marchnad Nadolig Caerdydd
10 Tachwedd - 23 Rhagfyr 2022. Mae Marchnad Nadolig Caerdydd ar Stryd Sant Ioan, Stryd y Gwaith, yr Aes, Stryd y Bryniau a Stryd y Drindod. Mae'n cynnwys cymysgedd cyffrous ac eclectig o arddangoswyr i'ch temtio gyda'u gwaith gwreiddiol, wedi'i wneud â llaw sy'n gwneud y farchnad hon mor wahanol ac arbennig bob blwyddyn.

Gŵyl y Gaeaf Caerdydd
15 Tachwedd 2022 - 08 Ionawr 2023. Mwynhewch sglefrio iâ, reidiau, gan gynnwys yr Olwyn Fawr yng nghanol ein prifddinas. Cynhelir Gŵyl y Gaeaf Caerdydd yng Nghastell Caerdydd a lawnt Neuadd y Ddinas.


Luminate Wales
17 Tachwedd 2022 - 02 Ionawr 2023. Llwybr ysblennydd, wedi ei oleuo, ac yn llawn rhyfeddod, i swyno a swyno'ch synhwyrau yng ngerddi hanesyddol Parc Gwledig a Chastell Margam. Ewch i wefan Luminate Wales am ragor o wybodaeth.

Ecstrafagansa Nadolig Llandudno
17 - 20 Tachwedd 2022. Mwynhewch reidiau ffair, adloniant, bwyd a diod a stondinau anrhegion yn Ecstrafagansa Nadolig Llandudno yn Sgwar Trinity/Stryd Madoc.
Gŵyl Blues Dinbych y Pysgod
18 - 20 Tachwedd 2022. Mae Gŵyl Blues Dinbych y Pysgod yn cynnwys llu o artistiaid lleol a rhyngwladol. Ceir amrywiaeth o weithdai mewn lleoliadau yn Ninbych y Pysgod hefyd.
Real Ale Wobble
19 Tachwedd 2022. Digwyddiad i farcio cychwyn Gŵyl Gwrw Canolbarth Cymru i'r rheiny sydd ddim yn cymryd eu seiclo yn rhy ddifrifol. Mwynhewch seiclo drwy Fynyddoedd y Cambria cyn blasu cwrw lleol o Fragdy Calon Cymru yn Llanwrtyd. Mwy o wybodaeth am y Real Ale Wobble
Ffair Werdd, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe
19 - 20 Tachwedd 2022. Cynhelir y Ffair Werdd yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe, dros 40 o stondinau i roi popeth sydd ei angen arnoch ar gyfer Nadolig Gwyrdd. Ceir nwyddau sy'n dod o ffynonellau lleol ac yn ystyriol o'r amgylchedd, ynghyd â nwyddau masnach deg, organig ac wedi'u hailgylchu.
Gŵyl y Synhwyrau, Llandeilo
18 - 20 Tachwedd 2022. Mae Gŵyl y Synhwyrau yn dri diwrnod o hwyl, adloniant, siopa Nadolig a thân gwyllt yn nhref Llandeilo yn Sir Gaerfyrddin.
Gŵyl Gaeaf - Blas o Orllewin Cymru, Gardd Fotaneg, Sir Gaerfyrddin
19 - 20 Tachwedd 2022. Cynhelir Gŵyl Gaeaf - Blas o Orllewin Cymru yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Mae'n ddathliad o fwyd, diod, celf a chrefft, crefftwyr a gwneuthurwyr Cymru a'r Ffiniau. Dewch draw i 'gwrdd â'r gwneuthurwyr'. Bydd Canolfan Adar Ysglyfaethus Prydeinig hefyd yn cyflwyno eu hadar ysglyfaethus a bydd sesiynau hedfan rheolaidd drwy gydol y penwythnos.
Ffair Nadolig Gerddi Castell Picton, Sir Benfro
19 - 20 Tachwedd 2022. Mae Gerddi Castell Picton yn cynnal Ffair Nadolig gyda dros 60 o stondinau. Mae 'na win mulled i'r oedolion a llwybr Nadolig am ddim i blant. Gallwch dalu ar y diwrnod. £7 i oedolion, mynediad i blant am ddim. Mynediad yn cynnwys y castell a Gardd a Sŵ Tylluan Cymru.
Reindeer safari, Yr Wyddgrug
19 Tachwedd - 24 Rhagfyr 2022. Mae Reindeer Lodge yn cynnig profiad safari gyrru drwodd a sioe theatr y gallwch ei fwynhau o gysur eich car eich hun. Gallwch ddewis tocyn diwrnod i fwynhau'r golygfeydd godidog neu docyn nos i weld y coetir wedi ei oleuo. Mae yna hefyd bentref Elf cudd a Gweithdy Siôn Corn i yrru trwodd.
Ras 5k Siôn Corn, Llandeilo
20 Tachwedd 2022. Mae Ras 5k Siôn Corn yn cael ei gynnal ar benwythnos Gŵyl y Synhwyrau yn Llandeilo. Darperir siwt Siôn Corn!
Hanner Marathon Conwy
20 Tachwedd 2022. Ceisiwch gwthio eich ffordd i ymylon y pecyn achos mae Runners World yn ei gynnwys yn eu pum hanner marathon mwyaf golygfaol yn y DU. Gan gymryd golygfeydd gwych fel Castell Conwy, Ynys Môn ac Ynys Seiriol.
Am fwy o wybodaeth Hanner Marathon Conwy
Penwythnos y Gaeaf Gŵyl y Gelli
23 Tachwedd 2022. Mae Penwythnos y Gaeaf Gŵyl y Gelli yn dod ag awduron a darllenwyr at ei gilydd am benwythnos o sgwrs feddylgar, adrodd straeon gyda chanhwyllau, comedi, cerddoriaeth, a hwyl teuluol.


Real Ale Ramble, Canolbarth Cymru
26 a 27 Tachwedd 2022. Cynhelir y Real Ale Ramble yn flynyddol ar y cyd â Gŵyl Gwrw Canolbarth Cymru 10 diwrnod. Dewiswch gerdded 12 neu 20 milltir wedi eu marcio neu mae dau lwybr tywys o bump ac wyth milltir, gyda chwrw go iawn am ddim ar gael yn yr ardaloedd checio.
Profiad Believe Dewi Sant, Caerdydd
25 Tachwedd - 24 Rhagfyr 2022. Mae profiad hudolus y Nadolig Believe yn dychwelyd i Canolfan Siopa Dewi Sant, Caerdydd. Dewch i gwrdd â McJingles, un o goblynnod dibynadwy Siôn Corn a Norbert, ei ffrind hudolus. Mae 'na grefftio Nadoligaidd i blant, lle mae nhw'n gallu gwneud eu bag hudolus eu hunain o fwyd ceirw cyn cwrdd â Siôn Corn, a fydd yn rhoi anrheg iddyn nhw a bydd llun yn cael ei dynnu. Rhaid archebu tocynnau ymlaen llaw.


Ffair Aeaf Frenhinol Cymru, Llanelwedd
28 - 29 Tachwedd 2022. Dau ddiwrnod yn llawn cystadlaethau a dathliadau. Ynghyd â’r amserlen lawn arferol o gystadlaethau, arddangosfeydd ac arddangosiadau, mae’r Ffair Aeaf hefyd yn cynnig cyfle perffaith i’r siopwr craff brynu anrhegion Nadolig unigryw a gwreiddiol.
Am fwy o wybodaeth a thocynnau ar-lein Ffair Aeaf Frenhinol Cymru