Mae Penwythnos Mawr Pride Cymru wedi dod yn ddigwyddiad y mae pobl yn ei roi yn eu dyddiaduron bob blwyddyn. Ers 1999, mae’r digwyddiad LGBT+ wedi tyfu’n gyflym – yn croesawu pobl o bob oed, diwylliant a chefndir i ymuno â nhw i ddathlu amrywiaeth a cheisio cydraddoldeb i gymunedau LGBT+ a lleiafrifoedd eraill.
Dathlu amrywiaeth
Dros y blynyddoedd, mae Penwythnos Mawr Pride Cymru wedi datblygu i fod y dathliad mwyaf o gydraddoldeb ac amrywiaeth yng Nghymru. Mae wedi dod yn benwythnos lle mae pobl yn dod ynghyd i ddathlu unigrywiaeth a lle mae pawb yn gyfartal, beth bynnag yw eu rhyw, oed, rhywedd, hil, cefndir cymdeithasol ac wrth gwrs gyfeiriadedd rhywiol.

Gorymdaith liwgar yn llonni strydoedd Caerdydd
Bob blwyddyn, mae’r elusen Gymreig LGBT+ yn annog ymwelwyr i gymryd rhan yn eu gorymdaith flynyddol ar y dydd Sadwrn. P’un ai fod pobl yn ymuno fel unigolion neu yng nghwmni ffrindiau neu deulu, mae’r orymdaith yn cynnwys miloedd o bobl wrth iddynt gerdded yn heddychlon drwy strydoedd canol dinas Caerdydd. Dros y blynyddoedd, mae nifer o fusnesau fel Admiral wedi cymryd rhan yn yr orymdaith er mwyn hyrwyddo cydraddoldeb a chefnogi gweithwyr sy’n eu hadnabod eu hunain fel LGBT+, gan ymuno yng ngorymdaith mwyaf lliwgar Caerdydd.

Croesawu enwogion
Bob blwyddyn mae mwy na 50 o berfformiadau yn rhan o Pride Cymru ym mis Awst. Ers 1999, mae perfformwyr gwych wedi troedio’r prif lwyfan yn ystod Penwythnos Mawr Pride Cymru, o Tina Cousins ac Iris Williams, i Gok Wan a Charlotte Church.

Y lleoliad
Caiff Penwythnos Mawr Pride Cymru ei gynnal yng nghanol y ddinas, ar dir Neuadd y Ddinas yng Nghaerdydd. Nid yn unig mae’n lleoliad hawdd i’w gyrraedd i unrhyw un sy’n teithio i’r brifddinas, ond mae hefyd yn un o ardaloedd mwyaf bywiog Caerdydd.
Yn codi'r llen ar berfformwyr drag a chomediwyr
O freninesau a brenhinoedd drag i fandiau teyrnged a chomediwyr, mae popeth i’w gael ym Mhenwythnos Mawr Pride Cymru. Mewn pabell gomedi arbennig, gall ymwelwyr ddisgwyl chwerthin ynghyd â rhai o dalentau gorau'r Glee Club. Mae’r llwyfan cabaret yn lle delfrydol i unrhyw un sy’n mwynhau sioe gerdd a pherfformwyr, lle mae cyfle i weld cymeriadau adnabyddus yn fyw. Er nad yw’r elusen Gymreig yn croesawu Cher neu Britney Spears i’r llwyfan, mae perfformwyr teyrnged gwych yn cymryd rhan, sy’n dod ag ysbryd y breninesau cerddorol a’r tywysogesau pop ychydig yn nes, wrth iddynt ganu rhai o’r caneuon enwocaf.

Canolbwyntio ar y gymuned
Ag ystyried ymwneud Pride Cymru â chymunedau lleol, mae Penwythnos Mawr Pride Cymru wedi dod yn gyfle perffaith i ddod i wybod mwy am gymunedau LGBT+ lleol ac elusennau eraill. Mae Pride Cymru hyd yn oed yn cynnig stondinau i sefydliadau cymunedol nad oes ganddynt gyllid digonol, er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu cynrychioli drwy gydol y penwythnos. Mae yno hefyd babell ffydd bob blwyddyn i ddangos nad yw crefydd yn eithrio unrhyw un sy’n eu hadnabod eu hunain fel LGBT+.

Ymrwymiad i fod yn hygyrch
Mae Penwythnos Mawr Pride Cymru yn un o ddau ddigwyddiad yn unig yn y Deyrnas Unedig sydd wedi derbyn Gwobr Aur gan Attitude is Everything am fod yn hygyrch. Mae’r digwyddiad hwn wedi datblygu i fod yn un o’r digwyddiadau mwyaf croesawgar sy’n sicrhau bod modd i bobl fyddar a thrwm eu clyw fwynhau’r perfformiadau. A gydag arwyddwyr Iaith Arwyddion Prydain, platfform anabledd penodol i’r prif lwyfan, cyfleusterau i bobl anabl, tocynnau hygyrch penodol a hyd yn oed ardal dawel, gall unrhyw un fwynhau Pride, beth bynnag yw eu hanabledd.

Bwyd stryd gwych i’w flasu
Mae stondinau bwyd wedi eu gosod yr holl ffordd o amgylch tir Neuadd y Ddinas lle gallwch chwilio am damaid i’w fwyta. P’un ai ydych chi’n figan neu’n caru cig, p’un ai ydych chi awydd pryd Caribïaidd diddorol neu glasur fel byrgyr, mae yma rywbeth i blesio pawb.

Y gwirfoddolwyr
Ni fyddai Penwythnos Mawr Pride Cymru yr un fath heb y cannoedd o wirfoddolwyr croesawgar. Ni fyddai’r elusen LGBT+ Cymreig yn bodoli hebddynt ac yn ystod y penwythnos daw’r holl wirfoddolwyr ynghyd i ddathlu amrywiaeth gydag ymwelwyr, gan ddod â’r gymuned LGBT+ yn nes at ei gilydd.
Cefnogi perfformwyr lleol
Ochr yn ochr â’r mawrion sy’n mynychu, mae Pride Cymru hefyd yn croesawu rhai o berfformwyr gorau De Cymru, o berfformwyr drag i gantorion a chorau, felly mae digonedd o ddewis i ymwelwyr.
Gwych i blant
Gydag ardal benodol ar gyfer teuluoedd a phrisiau gostyngedig i blant, mae Penwythnos Mawr Pride Cymru yn ddiwrnod gwych ar gyfer teuluoedd gyda phlant o bob oed. Mae’r ardal ar gyfer teuluoedd yn cynnal amryw o ddigwyddiadau i ymwelwyr ifanc gan gynnwys sioe gŵn.

Fel ffair
Gall y rheiny sy’n mwynhau gwefr adrenalin gymryd seibiant o’r gerddoriaeth a’r perfformiadau drwy groesi’r cae at ble mae reidiau’r ŵyl.
Mae’n parhau i fod yn lle diogel
Cafodd Penwythnos Mawr Pride Cymru ei sefydlu’n wreiddiol er mwyn ymateb i droseddau casineb. Tra bo amrywiaeth a chydraddoldeb yn cael ei ddathlu trwy gydol y penwythnos, mae’r frwydr yn erbyn anoddefgarwch a thrais yn parhau. Mae Penwythnos Mawr Pride Cymru yn dal i fod yn un o’r digwyddiadau mwyaf lle gall grwpiau lleiafrifol amlygu’r anawsterau maen nhw’n eu hwynebu. Byth ers ei sefydlu ym 1999, fel Mardi Gras Caerdydd, mae wedi datblygu’n ddigwyddiad lle gall pobl ddod ynghyd a bod yn nhw eu hunain, heb deimlo unrhyw feirniadaeth a theimlo’n gwbl ddiogel.
Bob blwyddyn, daw teuluoedd a chyfeillion i Gaerdydd i gefnogi anwyliaid sydd wedi dod allan yn ddiweddar, sy’n gwneud y digwyddiad yn ddathliad o gariad.

Ble a phryd?
Caiff Penwythnos Mawr Pride Cymru ei gynnal dros benwythnos Gŵyl y Banc ym mis Awst ar gaeau Neuadd y Ddinas yng Nghaerdydd.