Sw Fynydd Gymreig, Bae Colwyn
Yn uchel uwchben tref arfordirol Bae Colwyn, mae’r Sw Fynydd Gymreig yn gartref i deigr a llewpard yr eira o Sumatra, yn ogystal â tsimpansïaid, morlewod, pengwiniaid ac adar ysglyfaethus. Mae’r sw hefyd wedi bod yn hafan ers tro i blanhigion, gyda phlanhigion o Chile, Rwsia a Mynyddoedd yr Himalaya.
Folly Farm, Sir Benfro
Mae Folly Farm yn un o’r atyniadau mwyaf poblogaidd i ymwelwyr yn Sir Benfro, ac weithiau ni roddir digon o sylw i’r sw arbennig yma. Y prif atyniad ydy’r jiraffod (yr unig le mae’r jiráff i’w weld yng Nghymru). Dyma leoliad sy’n gyforiog o fywyd gwyllt anarferol. Mae dros 50 math gwahanol o rywogaethau gan gynnwys y bongo, fossa, turaco, lechwe’r Afon Nil a’r capybara. Mae hefyd yn ganolfan ymddeol ar gyfer y sloth (pwy fyddai’n meddwl!).
Manor House Wildlife Park, Dinbych-y-pysgod
Mae Manor House Wildlife Park, sydd mewn 50 erw yng nghefn gwlad Sir Benfro, yn cynnwys anifeiliaid fel y panda coch, rhinoseros, tapir Brasil, marmoset, sebra a llawer mwy. Mae digon o safleoedd ar gyfer picnic, caffi gyda bwydydd lleol a lle chwarae ymysg y byrnau gwair.
Sw Môr Môn
Mae gan Sw Môr Môn dros 150 o rywogaethau morol, o’r siarc i’r morfarch, sy’n dangos amrywiaeth y bywyd gwyllt sy’n byw oddi ar arfordir Cymru. Mae’r sw hefyd yn ymwneud ag amrywiaeth o raglenni cadwraeth, gan gynnwys Gwasanaeth Achub Dolffiniaid a Deorfa Cimychiaid Genedlaethol Cymru.
Pili Palas, Ynys Môn
Mae fferm glöynnod byw Pili Palas ar Ynys Môn yn llawn planhigion ac anifeiliaid egsotig, ac yn cynnig cyfle i ymwelwyr ymuno ag amrywiaeth gyfoethog o löynnod byw sy’n wledd o liw. Gallwch hefyd weld neu ddal nadroedd a madfallod mewn sesiynau trafod arbennig. Byddwch yn falch o glywed na chewch chi gwmni’r sgorpion na llyffant bombina yn y sesiynau hyn! Ymhlith yr amrywiaeth o anifeiliaid mwy blewog mae cwningod, moch cwta, geifr pigmi a moch kune kune hyfryd.
Welsh Hawking Centre, Y Barri
Mae gan y Welsh Hawking Centre gasgliad o 200 o adar ysglyfaethus ar safle 20 erw o barcdir ym Mro Morgannwg. Mae’r casgliad yn cynnwys adar fel y boncath, cudyll coch, gwyddwalch, barcud coch, hebog gwlanog a’r dylluan eryraidd. Gallwch weld yr adar yn hedfan bob dydd. Mae yma faes antur lle mae cyfle i weld cywion bach newydd-anedig sy’n cael eu magu gan y ganolfan fridio fwyaf ar gyfer adar ysglyfaethus ym Mhrydain.
Tŷ Glöyn Byw Hudoliaeth Bywyd, Aberystwyth
Caiff dros 80 rhywogaeth o löynnod byw eu harddangos yn ystod y flwyddyn yn y lleoliad hwn sydd wedi’i leoli yng Nghwm Rheidiol, ger Aberystwyth. Mae’r lleithder a’r tymheredd trofannol o fewn y tŷ glöynnod byw yn creu amgylchedd perffaith er mwyn i blanhigion a’r glöynnod byw i ffynnu yng ngardd y Tŷ Glöyn Byw.