Beth yw e-feic?

Ar yr olwg gyntaf, gall fod yn anodd gwahaniaethu rhwng e-feic a’i gefnder traddodiadol, ond edrychwch yn fwy gofalus ac mae’r cyfan yn dechrau gwneud synnwyr. Yn cuddio o gwmpas corff y beic mae motorau a batris a gynlluniwyd i roi ychydig mwy o gymorth i reidwyr. Mae’n rhaid i chi weithio’r pedalau o hyd, ond mae cymorth yn ei gwneud yn haws teithio ymhellach a thaclo dringfeydd a fyddai'n rhy anodd pe baech chi’n mynd dan eich pwysau eich hun yn unig.

Beiciau mynydd trydan yn cael eu gwefru.
E-feic mynydd yn pwyso yn erbyn creigiau mwsoglyd.

E-feiciau mynydd o WyeMTB, Dyffryn Gwy

Ble galla i reidio e-feic?

Unrhyw le ble gallech chi reidio beic arferol. Mae e-feiciau ar gael ymhob siâp a maint, o feiciau oddi-ar-y-ffordd ‘full-suspension’, i feiciau teithio cyfforddus sy’n fwy cartrefol ar ffyrdd llyfn. Efallai yr hoffech fynd ag un i un o’n canolfannau beicio mynydd rhagorol, gan ddefnyddio’r motor ar y llethrau serth er mwyn arbed eich egni ar gyfer taranu i lawr y rhiw.

Neu os ydych chi wedi cael eich ysbrydoli gan berfformiadau Geraint Thomas wrth iddo ennill y Tour de France, ond dyw eich coesau a’ch ysgyfaint ddim cystal, gall e-feic fynd â chi i uchelfannau newydd. Gyda motor i arbed rhywfaint o’r straen, gall beicwyr cymharol ddibrofiad, hyd yn oed, brofi gwefr dringo dros fylchau serth Eryri a Bannau Brycheiniog – cyn mwynhau gwefr yr un mor syfrdanol wrth wibio i lawr ffyrdd mynyddig troellog. Ceir ysbrydoliaeth am anturiaethau beicio yng Ngogledd Cymru gan Snowdonia360.

 

Dyn ar feic mynydd yn mynd drwy nant.

Taith feicio mynydd gyda WyeMTB, Dyffryn Gwy

Ble alla i roi cynnig ar e-feicio?

Mae canolfannau llogi e-feiciau ar gael ledled y wlad, gan gynnig ystod o feiciau a phrofiadau gwahanol. Mae Ebike Hire North Wales, a leolir yn yr Wyddgrug, yn darparu beiciau sy’n ddelfrydol ar gyfer darganfod heolydd a llwybrau’r rhanbarth. Mae’n lle delfrydol i gael tro o gwmpas Bryniau Clwyd a Glyn Dyfrdwy, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, yn cynnwys bryniau lliw mwsogl, creigiau calchfaen a rhosydd grugog.

I weld Eryri ar gefn beic, ewch i Beics Betws ym mhrysurdeb canolfan anturio Betws y Coed. Bydd eu dewis nhw o e-feiciau mynydd a llwybr yn tynnu pob ymdrech allan o reidio yn yr ardal fynyddig hon. Gallwch logi trelars beic â tho ar gyfer plant (a chŵn lwcus!) gan sicrhau bod y teulu cyfan yn gallu mwynhau’r hwyl. Os nad ydych chi’n siŵr ble i fynd, gall Beics Betws gynnig dewis enfawr o reidiau tywys – anghofiwch am ddod o hyd i’r llwybr, a chanolbwyntiwch ar fwynhau’r golygfeydd ysblennydd.

Ymhellach i’r de mae cael e-feic gan Pembrokeshire Bike Hire ym Maenorbŷr yn ffordd wych o ddarganfod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro – yr unig barc cenedlaethol cwbl arfordirol yn y DU. Mae taith ar hyd llwybrau tawel, di-drafnidiaeth rhwng Hwlffordd a’r marina prydferth yn Neyland yn ddelfrydol ar gyfer beicwyr o bob gallu, gan gynnig golygfeydd bendigedig o’r môr, ynghyd â digonedd o gaffis a llecynnau picnic ar gyfer cael saib haeddiannol.

Am brofiad mwy anturus, ymunwch ag un o anturiaethau e-feic Wye MTB drwy Ddyffryn Gwy a Bannau Brycheiniog. Byddwch chi’n croesi heolydd tân drwy’r coedwigoedd, yn taclo dringfeydd technegol heriol ac yn wynebu sawl allt serth. 

Grŵp mawr o feicwyr mynydd ar ben bryn.
Beicwyr mynydd ar lwybr ar ochr bryn.
Beicwyr mynydd ar lwybr tua’r haul.

Anelu at fryniau Cymru gyda WyeMTB, Dyffryn Gwy

Straeon cysylltiedig