Mae ‘epig’ yn air ystrydebol sy’n cael ei ddefnyddio’n aml iawn yn y byd beicio mynydd. Ond weithiau, dyna’r union air iawn.
Yn ystod haf 2022, fe ges i’r wefr o reidio ffordd Sarn Helen gyda Phill a Polly o Beicio Mynydd Cymru. Wrth drefnu’r daith, roedd hi’n ymddangos yn her y byddai modd i mi’i chyflawni heb ormod o drafferth, gyda rhywfaint o esgyn a disgyn ar y daith o’r gogledd i’r de.
Ond beth ges i yn y pen draw oedd profiad cwbl wefreiddiol a dyrchafol, a hynny drwy dirwedd oedd yn newid o hyd, a’r haul yn tywynnu’n ddi-baid. Gwnes i hyn yng nghwmni fy nghariad Dave, neu Superman – enw newydd Phill arno am ei allu i reidio i gopa bryniau amhosibl, ac am ei fod yn edrych yn debyg i Henry Cavill.

Diwrnod un: Conwy i Fronaber
Tua 70km (43 milltir)
Ar y diwrnod cyntaf, dyma ni’n gadael Conwy heb fawr ddim syniad beth oedd o’n blaenau ni. Soniodd neb yn y briff am y gors y byddai’n rhaid teithio drwyddi ar ddiwedd y dydd, ac fe gyrhaeddon ni’r llety yn ddiolchgar am y sychwyr esgidiau, y croeso cynnes a’r bwyd. Ar y diwrnod cyntaf yma, cawson ni’n cyflwyno i’r golygfeydd, i ddawn goginio Polly, i’r modd yr oedd y dirwedd naturiol a dylanwad dyn yn cydblethu, ac i’r her gorfforol a fyddai’n ein hwynebu drwy gydol yr wythnos.
Uchafbwyntiau
- Man cychwyn hyfryd yng Castell Conwy a’r cei.
- Llwybr creigiog heriol ar hyd glannau Llyn Cowlyd, ond llawer o hwyl yn disgyn i Gapel Curig.
- Dilyn Sarn Helen o Ddolwyddelan i Chwarel Cwt-y-Bugail – tirwedd ryfeddol a straeon gwych am y tlysau brenhinol a’r gwaith celf a guddiwyd yma yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ond dringfa anodd neilltuol, a gorfod cario’n beiciau ar ein cefnau.
- Golygfeydd anhygoel o arfordir y gogledd ac i’r de tuag at y Rhinogydd.
- Llwybr Sarn Helen a’r amffitheatr uwchben Trawsfynydd.


Diwrnod dau: Bronaber i Fachynlleth
Tua 75km (47 milltir)
Fy atgofion o’r ail ddiwrnod yw’r olygfa braf o Aber Mawddach oddi fry, a’r wefr gyffrous o wibio i lawr drwy’r creigiau, heb i hynny deimlo’n rhy beryglus.
Uchafbwyntiau
- Sarn Helen i goedwig ryfeddol Coed y Brenin. Hwyl ar drac gwneud.
- Y cacennau a’r coffi yng nghaffis Dolgellau.
- Aber Mawddach a dringfa Ffordd Ddu – hen ffyrdd y pererinion. Golygfeydd anhygoel o’r arfordir.
- Y ddisgynfa olaf o Rydyronen i Bennal, sydd â golygfeydd gwych o aber afon Dyfi.
Diwrnod tri: Machynlleth i Bontarfynach
Tua 55km (34 milltir)
Erbyn y trydydd diwrnod, rydyn ni’n dechrau arfer â’r rhythm wrth feicio bob dydd. Er nad yw hynny’n eich paratoi at ddringo 1500 o droedfeddi yn fuan wedi brecwast, roedd y golygfeydd eang braf yn ein cadw rhag diffygio. Ar y ddringfa olaf, dangosodd ‘Superman’ ei allu drwy gyrraedd copa dringfa hynod o hir i Bontarfynach. Gwthio wnaeth y gweddill ohonon ni, gan gynnwys Phill.
Uchafbwyntiau
- Diwrnod marchnad (dydd Mercher) ym Machynlleth, felly reid brysur allan o’r dref.
- Mae Gwarchodfa Natur Glaslyn a’r dyffryn hydrogen mor anghysbell ag a gewch chi ar feic, gyda Phumlumon, yr uchaf o Fynyddoedd Cambria, fry uwch eich pennau.
- Mwy o hwyl ar lwybrau gwneud yn Nant yr Arian.
- Cwrw neu ddau haeddiannol wedyn yn Hafod, Pontarfynach. Lle bendigedig i aros ynddo.



Diwrnod pedwar: Pontarfynach i Lanfair-ym-Muallt
Tua 75km (47 milltir)
A hithau wedi bod mor sych, ar y pedwerydd diwrnod, aeth y daith â ni dros Ffordd y Mynach. Roedd merlod yn edrych arnon ni’n chwilfrydig wrth i ni ddilyn trac oedd bron yn anweledig, a hwnnw wedi bod yn rhan o lwybr fan hyn am ganrifoedd. Gerllaw, roedd cronfeydd dŵr Cwm Elan, a adeiladwyd o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg ymlaen, gan fy atgoffa bod tirweddau’n esblygu ac yn newid o hyd. Roedd yr hyn a ddilynodd yn wrthbwynt llwyr i’r llonyddwch hwn: disgynfa orau’r daith. Digon o gerrig a chreigiau i’r teiars afael ynddyn nhw, ond digon o her i deimlo’n chwil ar y diwedd. Fe wnawn i’r ddisgynfa yna eto dro ar ôl tro.
Uchafbwyntiau
- Mae’r Arch yn lle braf i stopio am hoe cyn anelu am Ystâd Hafod.
- Mae rhagor o lwybrau gwyllt yn Llyn Teifi a Chwm Elan.
- Mae Llwybr 8 ar ddiwedd diwrnod hir yn braf iawn wrth ddisgyn yn raddol i Lanfair-ym-Muallt.

Diwrnod pump: Llanfair-ym-Muallt i Ystradfellte
Tua 60km (37 milltir)
Dechreuodd y pumed diwrnod yn Llanfair-ym-Muallt gyda brecwast swmpus. Fe wnaethon ni gynnydd da, a ninnau’n gyfarwydd bellach â’r golygfeydd gwych, ac yn gallu mesur y dringfeydd hir. Roedden ni’n ymwybodol ein bod ni bron ym mhen draw’r daith, a ninnau’n dechrau teimlo’n flinedig, gorff ac enaid, ond ar yr un pryd ddim am i’r profiad ddod i ben. Ar ôl gwledda ar fwyd Polly, fe gysgais i fel top y noson honno.
Uchafbwyntiau
- Dros Epynt i Aberhonddu, gan oedi wrth Y Gaer i fwynhau’r golygfeydd o Fannau Brycheiniog a’r Mynydd Du. Syfrdanol.
- Darn syth o ffordd Sarn Helen o Aberhonddu heibio i Ganolfan Ymwelwyr Bannau Brycheiniog, a dros y top i Ystradfellte. Llwybr syth i gyd, fwy neu lai, ac yn amlwg yn ffordd Rufeinig.


Diwrnod chwech: Ystradfellte i Ben Pyrod
Tua 85km (53 milltir)
Ar y chweched diwrnod, dyma ni yn ôl yng nghanol prysurdeb pobl. Rydw i’n cofio cyrraedd Abertawe a theimlo ein bod ni bron iawn yno wrth reidio ar hyd glan y môr (doedden ni ddim). Gydag ambell ddringfa arall, a mwy o ferlod, dyma’n raddol bach wneud rhan olaf ein taith drwy Gymru. Fe gyrhaeddon ni Ben Pyrod wrth i’r niwl ddod i mewn o’r môr.
Uchafbwyntiau
- Dechrau gyda darn syth o Sarn Helen tua Banwen, lle mae ‘mosaig Rhufeinig newydd’ o Sarn Helen i’w weld ar y llawr.
- 10km o lwybr creigiog syth a heriol i Gastell-nedd, a ninnau’n falch iawn o weld y fan gymorth yno’n barod gyda bwyd a dillad glân.
- Drwy harbwr prysur Abertawe a’r Mwmbwls, ac wedyn ar Lwybr Gŵyr – anwastad tu hwnt.
- Reidio ar hyd y grib, golygfeydd godidog o’r arfordir ac am Fae y Tri Chlogwyn, llwybrau ceffylau hyfryd, merlod gwyllt, ac yn olaf un, Bae Rhosili a chroeso cynnes gwesty’r Worms Head.
Ddwy flynedd yn ddiweddarach, ac rydw i’n dal i deimlo fy mod i wedi cyflawni rhywbeth mawr, ac yn cofio’r blinder, yr atgofion a’r cynhesrwydd fel ddoe. Weithiau, ‘epig’ ydy’r unig air.
Alex Kaars Sijpesteijn‘Epic’ is an often used, cliched word in the mountain bike world. Sometimes though, it is just right."



Gwybodaeth ddefnyddiol
Ymunodd Alex â thaith dywys dan arweiniad beicwyr mynydd arbenigol. Mae eich llety, eich bwyd, y trefniadau i drosglwyddo’ch bagiau a’ch offer, a chyngor cyn y daith i gyd yn cael eu rhoi, ac mae hefyd fan gymorth a thywyswyr profiadol i’ch helpu ar y ffordd.
Os byddwch chi’n penderfynu rhoi cynnig ar Coast2Coast Sarn Helen ar eich liwt eich hun, cymerwch gip ar lawlyfr swyddogol Llwybr Sarn Helen a chwiliwch am wybodaeth wrth gynllunio. Mae sawl llwybr ar y ffordd ac oddi arni y gallwch chi’u dilyn, yn dibynnu ar lefel eich sgiliau, eich ffitrwydd a’r math o feic sydd gennych chi.
Mae’r daith dros ddiwrnodau niferus yn antur anhygoel, heriol ar gefn beic, sy’n dilyn traciau gwyllt ac anghysbell. Bydd angen i chi gael yr offer iawn a bod â’r profiad i allu gwneud y daith yn ddiogel.
- Dilynwch y cyngor diogelwch gan Adventure Smart i sicrhau eich bod wedi paratoi’n iawn.
