Mynd am dro

P’un ai os ydych chi eisiau heic faith neu dro hamddenol rhyw brynhawn, mae cerdded yng Nghastell-nedd a Phort Talbot yn cynnig y cyfan. Gallwch ddysgu tipyn am un o’n hactorion gorau a cherdded ar draws traphont ddŵr fawr ar lwybr Richard Burton.

Ac mae digonedd o barciau gwledig sy’n berffaith ar gyfer tro bach deiliog drwy goed ac o gwmpas llynnoedd. Mae gan Barc Gwledig Margam lwybrau wedi’u harwyddo drwy’r ystâd ac i fyny i fannau sy’n cynnig golygfeydd godidog. Cofiwch gadw llygad am geirw enwog y parc. Mae Ystâd Gnoll hefyd yn llawn o lwybrau hawdd o gwmpas pyllau, heibio i adfeilion dirgel a rhaeadrau brochus. Mae gan y ddau barc ddarnau o lwybr sy’n wastad ac yn berffaith ar gyfer bygis a chadeiriau olwyn.

rhaeadr gyda phobl yn cerdded.
pobl yn sefyll ar bont dros ddŵr.

Archwilio’r rhaeadrau a’r llwybrau ar Ystâd Gnoll

Gallwch ymgolli yn y byd natur ar daith gerdded i un o’r llu rhaeadrau o gwmpas Cwm Nedd. Neu gallwch ddysgu tipyn am hanes diwydiannol yr ardal a gweld pob math o adar a phlanhigion ar hyd camlesi Castell-nedd, Tennant neu Abertawe.

Ffansi heic go iawn? Anelwch am lwybr yr arfordir i Abertawe neu ar hyd Llwybr Coed Morgannwg o Fargam i Barc Coedwig Afan, ble cewch olygfeydd bendigedig dros Fae Abertawe.

Ar dy feic

Canolbwynt beicio mynydd yn CPT yw Parc Coedwig Afan, a grëwyd yn y 1970au. Gyda saith llwybr o 5 milltir (7km) i 27 milltir (40km) ac ardal sgiliau hwyliog, mae’n ddelfrydol ar gyfer beicwyr o bob gallu.

Mae’r llwybrau glas a choch yn wych ar gyfer gwella sgiliau, ac mae’r llwybr du W2 yn cynnig rhai o’r disgynfeydd mwyaf heriol yn y DU. Bydd reidwyr iau’n hoffi llwybr y Rheilffordd sy’n dilyn trac yr hen reilffordd drwy’r cwm, tra bo modd i ddechreuwyr roi cynnig ar y llwybr gwyrdd i ddechreuwyr. Mae gan ddwy ganolfan ymwelwyr, Canolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan yng Nghynonville a’r Ganolfan Beicio Mynydd yng Nglyncorrwg, gaffis, parcio, siopau beic a thoiledau.

Teulu â dau blentyn ifanc yn beicio ar hyd llwybr yn y goedwig

Mae Parc Coedwig Afan yn berffaith ar gyfer reid gyda’r teulu

Mae gan Barc Gwledig Margam cyfagos bedwar llwybr beicio a arwyddwyd. Yr un gwyrdd yw’r llwybr hamddenol o gwmpas y pwll a’r fferm, perffaith ar gyfer plant, ac felly’n ddelfrydol ar gyfer reid ar y beic gyda’r teulu. Mae’r glas yn ychwanegu ychydig o ddringo, pontydd a darnau’n llawn gwreiddiau. Mae’r llwybrau coch a du, gyda darnau igam-ogam yn disgyn drwy’r goedwig, llethrau syth a disgynfeydd difrifol, dipyn yn fwy heriol, felly mae angen bod yn brofiadol i roi cynnig arnyn nhw.

I feicwyr heol, mae llwybr beicio pell y Llwybr Celtaidd yn cysylltu traeth Aberafan ag Abertawe drwy Jersey Marine a champws newydd y Bae, Prifysgol Abertawe, tra bo Llwybr Cenedlaethol 43 yn mynd am 31 milltir (51km) i fyny’r cymoedd o’r arfordir i Goelbren gan ddilyn llwybrau ar hyd glannau afonydd, darnau newydd a adeiladwyd yn bwrpasol a hen lein reilffordd. Mae’r darn 6.5 milltir (10.5km) ar hyd llwybr camlas a hen reilffordd rhwng Clydach ac Ystalyfera’n ddelfrydol ar gyfer reid gyda’r teulu drwy goedwig heddychlon.

Darganfod y gorffennol

Mae holl hanes diweddar Castell-nedd Port Talbot yn ymwneud â’r Chwyldro Diwydiannol a’r glo a gloddiwyd o’r cymoedd i yrru gweithgynhyrchu ar garreg y drws ac ar draws y byd.

Mae Amgueddfa Lofaol De Cymru, ym Mharc Coedwig Afan, yn cloddio’n ddwfn i’r stori gyda gwirfoddolwyr sy’n gyn-lowyr yn dod â’r ‘profiad dan ddaear’ yn fyw, ac arddangosfeydd sy’n cynnwys efail y gof a thŷ’r injan.

Llun tu allan o amgueddfa gydag olwyn a llwybr a mainc yn y blaendir
Silwét dyn yn edrych i mewn a wal gerrig hynafol daeargell

Amgueddfa Lofaol De Cymru a Mynachlog Nedd

Yng Ngwaith Dur Mynachlog Nedd, gallwch weld dau o ffwrneisiau chwyth mwyaf y 18fed ganrif sydd wedi goroesi, wedyn cerddwch ar hyd y llwybr natur cyfagos i’r rhaeadr. Gerllaw, olion atgofus Mynachlog Nedd yw rhai o’r olion mynachlogaidd mwyaf trawiadol yn ne ddwyrain Cymru.

Mwynhau bod yn heini

Bwced a rhaw yn barod! Anelwch am y traeth yn Aberafan ac fe gewch chi filltiroedd o dywod euraidd sy’n dirwyn yn araf i’r môr. Mae’n wych ar gyfer adeiladu cestyll tywod, chwarae ffrisbi ac wrth gwrs nofio neu syrffio. Ceir sawl caffi braf ar y prom, sy’n llydan a gwastad, perffaith ar gyfer bygis, cadeiriau olwyn a beicwyr ifanc. Ar ben dwyreiniol y traeth mae adran benodol ar gyfer syrffwyr a barcud-syrffwyr. Os oes chwant dysgu syrffio arnoch chi, mae sawl ysgol syrffio yma hefyd.

Bachgen yn rhedeg ar draeth tywodlyd gyda barcud mawr lliw’r enfys
Bachgen yn dringo dros rwyd fry mewn coeden, gan wisgo harnais ddiogelwch
Dau fachgen ar badlfyrddau ar lyn gydag athro

Cael hwyl ar draeth Aberafan, Go Ape a llynnoedd Parc Gwledig Margam.

Gall plant hŷn ollwng stêm wrth anelu am Go Ape ym Mharc Gwledig Margam, ble mae’r weirenni sip a’r llwybrau canopi yn ddigon i godi pendro a diddanu am oriau. Mae digonedd o weithgareddau dyfriog i’w trïo yma ar y llynnoedd hefyd. Eisiau ymarfer eu hymennydd yn ogystal â’u coesau? Gadewch iddynt roi cynnig ar sgiliau darllen mapiau ar her cyfeiriannu ym Mharc Gwledig Ystâd Gnoll.

Rhagor o wybodaeth

Ewch i wefan dwristiaeth CPT Calon Ddramatig Cymru i ddysgu mwy am yr ardal. Neu gallwch gysylltu ar y cyfryngau cymdeithasol:

Golwg o’r cefn o hirbell o feiciwr yn reidio ar drac rhwng coed mawr

Reidio’r llwybrau ym Mharc Coedwig Afan

Straeon cysylltiedig