Gyda chopaon trawiadol Parc Cenedlaethol Eryri ar y naill ochr, a chromlin ddramatig Bae Ceredigion ar y llall, mae Harlech yn dref odidog sy’n llawn dop o hanes, harddwch naturiol a chyfleoedd i gael antur yn yr awyr agored. Mae digonedd i’r holl deulu ei wneud, o fwynhau’r traeth mawr, tywodlyd gerllaw Gwarchodfa Natur Morfa Harlech a Chlwb Golff Brenhinol Dewi Sant, i grwydro muriau hynafol Castell Harlech neu Chwarel Llanfair.
Llwybrau cerdded yn Harlech
Efallai eich bod chi’n chwilio am dro bach hamddenol, neu daith gerdded i bara’r diwrnod cyfan. Yn Harlech a’r cylch, mae dewis o lwybrau sy’n addas i bawb.
Llwybr Meirion
Pellter/Amser: Tua 1.5 milltir (2.4k) / 1 awr
Yn fwyaf addas ar gyfer: Teuluoedd a phobl sy’n hoff o hanes. Mae’n hygyrch i’r rhan fwyaf o gerddwyr
Wrth ddilyn Llwybr Meirion, sy’n addas i’r teulu i gyd, fe gewch chi ddysgu am chwedlau lleol drwy gyfres o fyrddau stori a cherfluniau unigryw o gadeiriau sydd wedi’u creu â llaw. Wrth droelli i lawr drwy’r dref a thir y castell, mae’n ffordd wych o ennyn diddordeb plant yn hanes rhyfeddol Harlech. Mae’r llwybr yn un gwastad, gan mwyaf, ac yn addas i bramiau.

Llwybr Branwen
Pellter/Amser: Tua 2 filltir (3.2k) / 1 awr
Yn fwyaf addas ar gyfer: Teuluoedd a phobl sy’n hoff o hanes
Harlech yw lleoliad un o olygfeydd enwocaf ‘Branwen Ferch Llŷr’ yn y Mabinogi. Stori yw hon am sut achubwyd Branwen gan ei brawd, y cawr Bendigeidfran. Defnyddiwch fap llwybr Branwen i grwydro’r dref, gan fwynhau’r castell, y strydoedd braf, y traeth a’r twyni, ynghyd â darn o Lwybr Arfordir Cymru.
Y Llwybr Igam-ogam
Pellter: 2.8 milltir (4.4km) un ffordd.
Yn fwyaf addas ar gyfer: Cerddwyr sy’n gymharol heini. Mae yma olygfeydd gwych ac mae’n llwybr sy’n llawn byd natur
Dilynwch Lwybr Arfordir Cymru i’r de ar hyd traeth Harlech tan y cyrhaeddwch chi waelod clogwyn uchel. Dringwch y llwybr igam-ogam o’r traeth i’r ffordd i gael eich gwobrwyo â golygfeydd gwych o’r glannau. Ar ôl cael eich anadl, mae dau ddewis: ewch yn ôl y ffordd daethoch chi, neu ewch yn eich blaenau i bentref hardd Llandanwg, lle gallwch chi ddal trên yn ôl.

Llwybr Arfordir Cymru: Harlech i Ddyffryn Ardudwy
Pellter: Tua 12 milltir (19km)
Yn fwyaf addas ar gyfer: Cerddwyr sy’n gymharol heini. Mae yma olygfeydd gwych a chyfle i fwynhau byd natur
Mae’r rhan o Lwybr Arfordir Cymru sy’n mynd o Harlech i Ddyffryn Ardudwy yn dilyn min y traeth i’r de o Harlech, gan basio twyni, morfeydd heli a thraethau braf. Fe allwch chi greu cylch a dod yn ôl ar lwybrau mewndirol, neu fynd ar daith fyrrach a dal y trên yn ôl o un o’r gorsafoedd ar y ffordd.
Taith Ardudwy
Pellter/Amser: Mae’r llwybr cyfan o Landecwyn i’r Bermo yn 24 milltir (39km) / 2–3 diwrnod neu gallech ei gerdded mewn rhannau
Yn fwyaf addas ar gyfer: Cerddwyr profiadol, cerddwyr sydd eisiau llwybr hir
Os ydych chi’n awchu am daith gerdded fwy heriol, mae Taith Ardudwy yn llwybr hir gweddol newydd sy’n croesi’r ucheldir ac yn dilyn hen ffyrdd anghysbell o un safle cynhanesyddol i’r llall. Fe gewch chi fwynhau golygfeydd ysblennydd dros Fae Ceredigion a mynyddoedd y Rhinogydd, gyda digon o gyfle i fwynhau bywyd gwyllt yr ardal hefyd. Beth am aros yn Harlech, a rhannu’r llwybr yn sawl rhan, neu wneud y cyfan dros dridiau? Mae modd dal y bws neu’r trên i’ch man cychwyn/gorffen – mae Traveline Cymru yn wych i drefnu’ch taith ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Llwybrau cerdded gerllaw Harlech
Nepell o dref Harlech ei hun, mae tri llwybr cerdded yn rhoi cyfle i fwynhau harddwch naturiol yr ardal.
Rhaeadr Nantcol
Pellter/Amser: Llwybrau byrion amrywiol / 1-2 awr
Yn fwyaf addas ar gyfer: Teuluoedd a phobl sy’n mwynhau byd natur
Dyma le hynod o hardd ger Llanbedr, yn llawn rhaeadrau a llwybrau sy’n gweu drwy’r coed. Mae’n fan perffaith i fwynhau prynhawn hamddenol neu bicnic wrth yr afon. Mae rhai o’r llwybrau’n anwastad, felly mae’n syniad da gwisgo esgidiau cadarn. Ewch i wefan Visit Harlech i gael rhagor o wybodaeth.


Llwybr Pren Traeth Benar
Pellter/Amser: Tua 1 milltir (1.6km) / 30 munud
Yn fwyaf addas ar gyfer: Pawb o bob gallu, ac yn hygyrch i gadeiriau olwyn a phramiau
A hwnnw i’w ganfod ym mhrydferthwch Gwarchodfa Natur Genedlaethol Morfa Dyffryn, rhwng Dyffryn Ardudwy a Thal-y-bont, mae Llwybr Pren Traeth Benar yn un cwbl hygyrch. Crwydrwch drwy’r twyni tywod cyfnewidiol i Draeth Benar, gan gadw llygad am fflora a ffawna prin, cyn mwynhau’r golygfeydd amrywiol o’r arfordir dros Fae Ceredigion.
Y Grisiau Rhufeinig
Pellter: Tua 8 milltir (12.6 km)
Yn fwyaf addas ar gyfer: Cerddwyr profiadol, pobl sy’n hoff o hanes a byd natur
Yn weddol agos at Harlech mewn car, llwybr cylchol yw hwn sy’n dringo drwy fynyddoedd y Rhinogydd. Er gwaethaf yr enw, o’r oesoedd canol y daw’r grisiau mewn gwirionedd. Ewch i grwydro drwy goetiroedd hynafol a dros gorstiroedd, gan oedi ger y carneddau cynhanesyddol sydd hwnt ac yma yn y dirwedd ddiamser hon. Mae’r golygfeydd yn go arbennig hefyd! Mae’n well dod yma ar ôl cyfnod o dywydd sych – mae’r llwybrau’n gallu mynd yn wlyb iawn. Ewch i wefan Visit Harlech i gael rhagor o wybodaeth.
Bwyta ac yfed yn Harlech
Mae awyr y môr â’r mynydd yn sicr o godi archwaeth, ac mae digonedd o dafarndai a bwytai i ymlacio ynddyn nhw ar ôl eich anturiaethau. Os am lymaid neu damaid i’w fwyta ar ôl cerdded, mae gan Y Branwen ddewis da o gwrw a bwyd lleol, ynghyd â dewisiadau figan. Yn ogystal â’r cwrw go iawn, mae bron i hanner cant o boteli yn rhan o’r bar jin helaeth . Mae’r lle hefyd yn hynod o groesawgar i gŵn.
Y drws nesaf i’r castell, mae Caffi Castell. Dyma le braf am rywbeth sydyn i’w fwyta neu goffi a chacen i’ch cynnal ar eich taith.
Neu os am bacio picnic i fynd gyda chi, mae Y Groser Harlech yn ddeli lleol poblogaidd sy’n cynnig amrywiaeth o gynnyrch Cymreig, bara ffres, cawsiau a phethau melys – y lle delfrydol felly i lenwi’ch sach cyn cychwyn cerdded.


Llefydd i aros yn Harlech
Beth am gysgu yng nghysgod y castell yn Harlech Castle Apartments neu yn y Castle Cottage Restaurant with Rooms? Mae hefyd ddigonedd o barciau gwyliau a meysydd gwersylla yn agos at y traeth, neu fythynnod/fflatiau hunanarlwyo i ddewis o’u plith.
Paratowch yn iawn
Cyn cychwyn cerdded, cofiwch ofalu bod gennych chi’r cyfarpar iawn at y daith, fel dillad ac esgidiau addas. Mae llawer o gyngor ac awgrymiadau defnyddiol ar wefan AdventureSmart UK.
Wrth fwynhau eich antur, cofiwch wneud eich rhan drwy ddilyn y Cod Cefn Gwlad. I fod yn ddiogel ac yn fodlon yng nghwmni’ch ci, ac i beidio ag achosi trafferthion i neb arall, dilynwch y Cod Cerdded Cŵn hefyd.