Ychydig iawn o gwestiynau sy’n broblem i Eben Upton. Ond pan ddaw’r sgwrs at nifer y cyfrifiaduron Raspberry Pi sydd wedi’u gwerthu, mae’r creawdwr o Bont-y-pŵl yn fwy gofalus. “I ddweud y gwir, alla i ddim dweud yn sicr,” meddai. “Mae’n saff dweud 70 miliwn, ond rwy’n meddwl ein bod ni’n nes at 75 miliwn, gyda phob un ond tua phum miliwn ohonyn nhw wedi’u cynhyrchu yng Nghymru.”
Mae’n awgrymu cysylltu â Chanolfan Dechnoleg Sony UK ym Mhencoed, sydd wedi bod yn adeiladu’r dyfeisiau ers 2012. Maen nhw’n cadarnhau bod y 75 miliynfed Raspberry Pi eisoes wedi’i gynhyrchu. Heddiw, dyma’r cyfrifiadur un-bwrdd sy’n gwerthu orau yn y byd, ac un o’r llwyfannau cyfrifiadurol mwyaf poblogaidd erioed, ochr yn ochr â’r PC a’r Apple Mac.
Dod â’r stori yn ôl adref i Gymru
Pan lansiwyd cyfrifiaduron Raspberry Pi cyntaf y byd yn 2012, sef y Model A a’r Model B maint cerdyn credyd, nid oedd unrhyw ffatri yn y DU yn gallu eu cynhyrchu. O ganlyniad, bu’n rhaid i Eben Upton droi at Tsieina i’w gweithgynhyrchu.
Daeth yr ateb chwe mis yn ddiweddarach. Wrth i’r ffigurau gwerthu cyntaf fynd ymhell y tu hwnt i bob disgwyliad, dechreuodd Raspberry Pi bartneriaeth â Chanolfan Dechnoleg Sony UK (UK TEC) ym Mhencoed. Ers hynny, mae pob uned wedi’i chydosod yn ei chyfleuster 30,000 metr sgwâr ar gyrion y dref, ychydig funudau’n unig o Ben-y-bont ar Ogwr yng nghanol De Cymru.
Fel cyfarwyddwr masnachol y ganolfan, mae Ian Worgan wedi bod yn rhan o hanes Raspberry Pi ers i’r unedau cyntaf ddod oddi ar y llinell gynhyrchu. “Pan fydd cynhyrchu’n digwydd dramor, mae’n creu rhwystrau logistaidd,” meddai. “Nid yw hynny’n broblem i ni. Does dim byd gwell ar gyfer datblygu syniadau a datrys problemau na chael sgwrs wyneb yn wyneb, yng nghanol y broses weithgynhyrchu.”
Mae Eben yn cytuno. “Mae uchelgais fyd-eang yn deillio o allu lleol,” meddai. “Mae’n hynod bwysig ein bod ni’n gallu gyrru i Ben-coed, cael paned gyda’r tîm a gofyn, ‘Beth allwn ni ei wneud yn well?’ Dyna sy’n sail i’n mantais o ran cost a pherfformiad. Mae’r bartneriaeth â Sony yn rhoi’r gallu i ni ddylunio ar y cyd a sicrhau bod pob cynnyrch mor hawdd â phosibl i’w weithgynhyrchu.”
Porth i fyd cyfrifiadura
Cafodd Raspberry Pi ei greu’n wreiddiol fel peiriant fforddiadwy i blant oedran ysgol a’r rhai oedd yn ymddiddori mewn technoleg, gyda’r nod o danio diddordeb mewn gwyddor gyfrifiadurol a rhaglennu. Er bod y gyfres o fodelau wedi ehangu a datblygu’n sylweddol dros y 14 mlynedd diwethaf, mae’r Pi wedi aros yn driw i’w gwreiddiau addysgol.
Mae’r Raspberry Pi Foundation, elusen addysgol sy’n ceisio ysbrydoli llythrennedd ddigidol ymhlith pobl ifanc, yn dal i fod yn gyfranddaliwr mwyaf y cwmni. Mae’n hyfforddi athrawon, yn creu adnoddau dysgu ac yn cefnogi Clybiau Codio mewn dros 100 o wledydd ledled y byd. Mae hyd yn oed cyfle i blant ysgol weld eu cod yn cael ei redeg yn y gofod, ar unedau Astro Pi arbennig sydd ar fwrdd yr Orsaf Ofod Ryngwladol.
Fodd bynnag, mae cost isel, perfformiad uchel a maint bach Raspberry Pi wedi ei wneud yn adnodd gwerthfawr i ddiwydiant hefyd. Mae y ddyfais wedi’i hymgorffori mewn amrywiaeth eang o systemau, o beiriannau golchi a gweisg argraffu digidol i linellau cynhyrchu robotig a cherbydau archwilio tanddwr. Yn fwy diweddar, mae’r galw wedi cynyddu’n sylweddol wrth i genhedlaeth newydd o ddyfeisiau sy’n defnyddio deallusrwydd artiffisial ddod i’r amlwg.
Mae Eben yn parhau i gael ei synnu a’i blesio gan y ffyrdd creadigol y defnyddir ei gynhyrchion yn y byd go iawn.
“Maen nhw ym mhobman,” meddai. “Ewch i faes awyr Heathrow, ac mae Raspberry Pi yn rhedeg y sgriniau gwybodaeth i deithwyr. Camwch i mewn i lifft Schindler, ac mae’r panel rheoli yn defnyddio Raspberry Pi. Ac os ewch chi i ffatri feiciau Brompton, fe welwch fod pob beic yn cael ei gydosod gan ddefnyddio ein systemau ni.
“Rwy’n cofio mynd i CNN unwaith am gyfweliad, a gweld ein logo ar bob sgrin gyfrifiadurol. Roeddwn i’n meddwl eu bod wedi’i roi yno er fy mwyn i, ond mewn gwirionedd roedd cyfrifiaduron yr ystafell newyddion yn rhedeg ar ein technoleg ni ac yn defnyddio system weithredu Raspberry Pi.”
Brwdfrydedd heddiw, peirianwyr yfory
Yn allweddol, nid yw Eben a’i dîm yn gweld marchnadoedd addysgol a diwydiannol Raspberry Pi fel rhai ar wahân. Yn hytrach, maen nhw’n siarad am “gylch rhinweddol” lle mae plant sy’n cymryd eu camau cyntaf ym myd codio a chyfrifiadura gyda Raspberry Pi yn tyfu i fod yn beirianwyr y dyfodol, ac yna’n troi at yr un dechnoleg i ddatrys heriau yn y gweithle.
“Dechreuodd pob un o’n graddedigion eu taith gyda Raspberry Pi,” meddai Eben. “Fe’u haddysgwyd gan athrawon a gafodd hyfforddiant drwy’r Sefydliad, ac fe fynychon nhw glybiau ar ôl ysgol. Maen nhw wedi ymgolli’n llwyr yn ecosystem Raspberry Pi.
“Mae hynny’n fuddiol i’n recriwtio ni ein hunain, ond mae hefyd yn golygu bod llawer o bobl ifanc yn symud ymlaen i sefydliadau eraill gan weld Raspberry Pi fel eu porth naturiol i gyfrifiadura. Roedden ni’n siarad â rhywun yn Tesla, a dywedodd mai dyna’r un peth oedd gan bob recriwt newydd yn gyffredin. Mae hynny’n eithaf arbennig, on’d yw e?”
Mae stori debyg i’w chlywed yng Nghanolfan Dechnoleg Sony UK ym Mhencoed. Mae gweithwyr a ddechreuodd eu siwrnai beirianyddol gyda Raspberry Pi bellach yn chwarae rhan ganolog yn y broses o’i gynhyrchu. Yn fwy na hynny, mae gan Sony raglen addysg hirsefydlog sy’n gwahodd disgyblion lleol i ymweld â’r ffatri, dysgu am weithgynhyrchu uwch-dechnolegol a rhoi cynnig ar sesiynau codio gan ddefnyddio technoleg Raspberry Pi.
“Lansiwyd ein rhaglen ar y safle yn 2014, ac erbyn hyn rydym wedi croesawu tua 35,000 o fyfyrwyr,” meddai Ian. “Rydyn ni’n rhoi blas ar fyd gweithgynhyrchu iddyn nhw ac yn eu hysbrydoli i ddatblygu chwilfrydedd am wyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg. Mae’n ffordd o feithrin talent yma yn Ne Cymru a chefnogi gweithwyr proffesiynol y dyfodol.”
Yn y pen draw, mae’n stori sy’n dangos sut y gall buddsoddi mewn chwilfrydedd a sgiliau heddiw helpu i lunio’r arloeswyr, y peirianwyr a’r datryswyr problemau fydd yn siapio’r byd yfory.
Hanner canrif o gydweithio
Mae Sony wedi bod yn gweithredu ym Mhencoed ers dros 30 mlynedd, ond mae cysylltiad y cwmni â Chymru yn ymestyn ymhellach yn ôl. Dechreuodd ei ffatri gyntaf ym Mhen-y-bont ar Ogwr gynhyrchu setiau teledu lliw ym 1974. Fe’i hagorwyd yn swyddogol gan y Brenin, pan oedd yn Dywysog Cymru, a dychwelodd i ymweld â safle Pen-coed yn 2024 i nodi hanner canrif o weithgynhyrchu di-dor yng Nghymru.
“Roedden ni ymhlith y don gyntaf un o fuddsoddiad Japaneaidd yn Ne Cymru,” meddai Ian. “Heddiw, mae mwy na 50 o fusnesau Japaneaidd yn gweithredu yma, ac rydyn ni wedi dod yn rhan annatod o’r dirwedd fusnes. Dros y 50 mlynedd diwethaf rydyn ni wedi addasu i newidiadau diwylliannol ac economaidd sylweddol, ac mae’r gymuned leol wedi bod yn sylfaen i’n llwyddiant.”
Heddiw, mae tua 550 o bobl yn gweithio ar y safle. Maent yn cynhyrchu cynhyrchion Sony eu hunain yn ogystal â darparu gwasanaethau gweithgynhyrchu contract i 10 cwmni electroneg arall, o fusnesau newydd lleol i gorfforaethau rhyngwladol.
Mae’r cwmnïau hyn yn cael eu denu gan awtomeiddio o’r radd flaenaf, gweithlu medrus a diwylliant o welliant parhaus. “Rydyn ni’n darparu atebion o’r dechrau i’r diwedd gyda chyflymder, cywirdeb manwl a dibynadwyedd,” meddai Ian. “Rydyn ni’r un mor gryf wrth gynhyrchu nifer fach o gynhyrchion cymhleth iawn, fel ein hoffer darlledu Sony, ag ydyn ni wrth gynhyrchu nifer fawr o gynhyrchion cost isel fel Raspberry Pi. Ac rydyn ni wastad yn barod i groesawu heriau newydd ac addasu i syniadau newydd.”
Edrych tua’r dyfodol
Mae prif gyfrifiadur y gyfres, y Raspberry Pi 5, bellach yn nesáu at ei drydedd pen-blwydd. Mae’n cael ei werthu ochr yn ochr ag amrywiaeth o fodelau mwy arbenigol, gan gynnwys y gyfres Pico o ficroreolwyr hynod fach a’r Zero cost isel iawn.
Un o egwyddorion craidd Raspberry Pi yw gwrthsefyll darfodiad drwy barhau i gynhyrchu modelau hŷn. Felly, bob mis mae ffatri Pen-coed yn dal i gynhyrchu miloedd o’r Raspberry Pi 1 gwreiddiol ar gyfer y selogion mwyaf brwd.
O ran y dyfodol, mae gan Eben un uchelgais glir.
“Mwy o gapasiti!” meddai. “Ar hyn o bryd rydyn ni’n amcangyfrif bod y ffatri’n gallu cynhyrchu tua 12 miliwn Raspberry Pi y flwyddyn ar ei hanterth, ac rydyn ni’n cyrraedd rhwng 80 a 90% o hynny. Rydyn ni eisiau dod o hyd i ffyrdd o adeiladu mwy o gynhyrchion.
“Bydd mwy o gapasiti yn golygu mwy o swyddi, ac mae hynny’n gyffrous. Bydd Raspberry Pi 6 yn cyrraedd rywbryd, ynghyd â chenedlaethau newydd o’n cynhyrchion lled-ddargludyddion. Allwn ni ddim gorffwys ar ein rhwyfau. Mae’n rhaid i ni barhau i wthio’r ffiniau, cynyddu’r niferoedd, ehangu’r galluoedd a chadw’r awch i arloesi.”