Yn y de: beddrodau aruthrol, cerrig seremonïol a defodau mewn ogofâu
Prin y byddwch chi wedi camu o Gaerdydd cyn i orffennol cynhanesyddol Cymru ddod i’r golwg. Mewn dôl ger Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan, a choed ar bob llaw, mae Siambr Gladdu Tnkinswood ymhlith beddrodau siambr mwyaf Prydain. Fe’i codwyd chwe mil o flynyddoedd yn ôl, ac fe ganfuwyd yno weddillion ryw hanner cant o sgerbydau! Ar dop y beddrod y mae capfaen mwyaf unrhyw siambr gladdu Neolithig ym Mhrydain, yn ôl pob tebyg: talp anferth o graig 7.25 metr sy’n pwyso deugain tunnell.
Yng Nghymru, ‘cromlechi’ fyddwn ni’n galw beddrodau fel hyn, pan fydd sawl maen unionsyth yn dal maen llorweddol ar y top. Mae modd dilyn ffyrdd bach gwledig o fan hyn i gromlech arall, a honno yr un mor hynafol a rhyfeddol, sef Siambr Gladdu Llwyneliddon. Codwyd y gromlech hon fel bod yr haul yn tywynnu’n uniongyrchol drwy’r fynedfa ar gyhydnos yr haf a’r gaeaf.


Ymhlith y meini mawr sydd wedi’u gwasgaru drwy’r de, mae ambell un yn fwy adnabyddus na’i gilydd! Un o’r enwocaf yw Maen Chwyf Comin Pontypridd. Carreg anferth yw hon a gludwyd yno yn ystod yr Oes Iâ ddiwethaf, ac fe ddaeth yn fan i bobl ymgynnull dros ganrifoedd maith. Yn ystod oes Fictoria, gosodwyd cylch o Gerrig yr Orsedd o’i amgylch.
Ond prin y gwelwch chi drysor arall, sef Carn Llechart ar y bryniau uwchben Pontardawe, ar y rhan fwyaf o fapiau. Mae’n debygol mai carnedd gylchog yw hon, sef math o safle claddu defodol cynhanesyddol. Mae mewn cyflwr gwych, yn sefyll ar y darn hyfryd o lwybr Cwm Clydach sy’n croesi gweundir. Dyma le arbennig, llawn naws a dirgelwch.
Cewri cynhanesyddol y gorllewin
Mae penrhyn Gŵyr, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf y Deyrnas Unedig, yn llawn dop o hanes. Yn Ogof Paviland y bu’r gladdedigaeth ddefodol gyntaf y mae sôn amdani yn Ewrop, ac yma y canfuwyd yr olion cyntaf un o Homo sapiens yng Nghymru. Mae’r ogof i’w chanfod ar ddarn garw o’r arfordir ger Rhosili a Phen Pyrod, a’r cildraethau’n niferus oddi tanoch. Yn go ddifyr, credwyd yn wreiddiol mai gweddillion menyw Rufeinig oedd ‘Dynes Goch Pafiland’. Ond gwelwyd yn ddiweddarach mae heliwr-gasglwr gwrywaidd ifanc oedd hwn, a fu’n byw tua 34,000 o flynyddoedd yn ôl yn ystod yr Oes Iâ ddiwethaf.
Roedd ein hynafiaid yn y Gymru fegalithig yn griw go greadigol: yn Ogof Cathole ym Mharc Le Breos fe welwch chi gerfiadau o geirw – enghraifft hynaf Prydain o gelfyddyd craig, yn perthyn i gyfnod o leiaf 14,000 o flynyddoedd yn ôl. Ewch am dro i’r ogof ac i Siambr Gladdu Parc Le Breos wrth ddilyn y llwybr o Ganolfan Dreftadaeth Gŵyr. Mae hwnnw’n llwybr 1¼ milltir (2.2km) yno ac yn ôl ar ffordd fach dawel.



Arfordir godidog Sir Benfro sy’n dueddol o hawlio’r sylw yn y de-orllewin. Ond trowch am y tir, ac am y creigiau uwch, ac fe ddewch chi ar draws rhai o hynodion Oes y Cerrig yng Nghymru.
Mae un daith gerdded ar hyd cefnen Bryniau’r Preseli yn pasio nifer o’r rhain. Llwybr saith milltir o hyd yw’r Heol Aur, sydd yn ôl y sôn yn dilyn llwybr masnach a fyddai’n cael ei ddefnyddio i gludo aur a gloddwyd o fynyddoedd Wiclo yn Iwerddon. Ar y ffordd, fe welwch chi safleoedd hynafol rif y gwlith.
Fe gewch chi ddechrau yng ngharnedd gladdu Foel Eryr o’r Oes Efydd cyn cyrraedd cylch o gerrig Bedd Arthur, un o sawl lleoliad yng Nghymru sy’n gysylltiedig â man claddu’r Brenin Arthur. I orffen eich antur, dringwch i fryngaer Foel Drygarn o’r Oes Haearn. Mae’r chwedlau am Arthur yn frith drwy’r ardal. Yn y Mabinogi, mae’r Brenin Arthur a’i farchogion yn cael brwydr erchyll â’r twrch trwyth yn y cwm islaw Foel Cwmcerwyn. Yn ôl yr hanes, beddau rhai o farchogion Arthur a laddwyd yn y frwydr honno yw’r creigiau sydd wedi’u gwasgaru yng Ngherrig Marchogion. Ger man cychwyn y llwybr, mae meini hir (un yn sefyll a thri wedi cwympo) yn Waun Mawn yn dynodi lleoliad un o gylchoedd cerrig Neolithig mwyaf y Deyrnas Unedig.
Bryniau’r Preseli hefyd yw’r gefnlen i un o siambrau claddu mwyaf ac enwocaf Cymru, Pentre Ifan. Y rhyfeddod mwyaf yw sut yn y byd y mae’r capfaen anferth, 5 metr o hyd, yn llwyddo i gydbwyso ar y cerrig oddi tano. Mae’n edrych fel rhywbeth sy’n twyllo’r llygad, er bod y maen wedi bod yma’n ddigon bodlon ei fyd ers dros bum mil o flynyddoedd!

I gael darlun llawn o’r Oes Haearn, ewch i gael cip ar bennod olaf yr oes fegalithig a barhaodd rhwng tua 800 CC tan gyfnod y Rhufeiniaid. Does dim angen dilyn llwybr gwyllt y tro hwn. Yn hytrach, ewch i Bentref Oes Haearn Castell Henllys ar odre’r Preseli i weld y tai crynion sydd wedi’u hail-greu ar yr un safle’n union ag oedden nhw ddwy fil o flynyddoedd yn ôl. Dyma’r unig le ym Mhrydain lle mae hyn wedi’i wneud! Yma, cewch gwrdd â chymeriadau mewn gwisgoedd o’r oes, sy’n cynrychioli aelodau llwyth Demetae a fu’n byw yn y rhan hon o Gymru un tro. Byddan nhw’n fwy na pharod i rannu gwybodaeth ac i ddangos crefftau a thasgau bywyd bob dydd yn y cyfnod cyn i hanes ddechrau cael ei gofnodi.
Y canolbarth a’r gogledd: bryngaerau o fri, cylchoedd rhyfedd a mwyngloddiau o’r Oes Efydd
Mae tir mynyddog y canolbarth a’r gogledd yn gartref i henebion gwir drawiadol. Yng nghysgod Pen y Fan ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar Ystâd Glanwysg y mae maen hir enwog Penmyarth: yr un talaf yng Nghymru, sy’n 4.5 metr o uchder. Mae hon yn ystâd breifat, felly mae’n rhaid cael caniatâd i fynd yno. Mae aros yn y llety ar yr ystâd a mynd am dro foreol fegalithig yn ffordd wych o weld y maen.
Yn y gogledd, mae dwy fryngaer anferth ar y naill du. Mae’n debygol nad oes bryngaer arall ym Mhrydain mewn cyflwr cystal â Thre’r Ceiri ar ben bryn 1600 troedfedd yn Llŷn. Yno, mae olion rhagfuriau, tai crynion a mynedfeydd amlwg yn rhoi syniad rhyfeddol i ni o natur bywyd yn niwedd yr Oes Haearn. Daliwyd i ddefnyddio fan hyn fel bryngaer ar ôl i’r Rhufeiniaid oresgyn Prydain, tan y bedwaredd ganrif OC.
Draw yn y dwyrain ym Mryniau Clwyd, bryngeiri yw nifer o’r copaon uchaf. Mae’r un fwyaf, sef copa Penycloddiau, yn ymestyn am 50 erw. Er mai yn yr Oes Haearn y cafodd y lle’i greu, mae arfau o’r Oes Efydd wedi’u canfod yno. Dyma ddangos eto bod henebion o’r fath yn bwysig i bobl mewn mwy nag un oes.
Bryn Cader Faner sy’n cael y wobr am atyniad cynhanesyddol mwyaf od yr Oes Efydd. Mae’r garnedd gylchog anarferol hon yn sefyll mewn ardal lle ceir sawl safle megalithig, a hynny ar dir bryniog i’r dwyrain o Dalsarnau ger Harlech. Ei siâp yw’r peth rhyfeddaf. Maen nhw’n dweud bod hwnnw’n debyg i goron o ddrain, gyda thwmpath o gerrig yn sefyll yng nghanol meini hirion sydd i gyd yn pwyso tuag allan. O bellter, mae’n edrych fel pigau draenog Neolithig anferth!
Moel Tŷ Uchaf yw un o gylchoedd cerrig gorau Cymru. Dyma gylch cyflawn o 41 o gerrig sy’n sefyll yn drawiadol ar gopa bryn glaswelltog ym Mynyddoedd y Berwyn, gydag ehangder godidog Dyffryn Dyfrdwy ymhell islaw.
Yn nhref glan môr Fictoraidd Llandudno, mae atyniad mwy hynafol o lawer i’w ganfod uwchben yr hwyl ar y traeth. Yn yr Oes Efydd, bu mwyngloddwyr wrthi’n creu twneli tanddaearol ar y Gogarth Mawr er mwyn cloddio am copr. Mae hynny’n fwy rhyfeddol fyth o gofio’u bod nhw wedi gorfod gwneud hyn gydag arfau asgwrn a charreg syml. Heddiw, Mwyngloddiau’r Gogarth yw’r mwynfeydd metel hynaf sydd ar agor i’r cyhoedd unrhyw le ar y ddaear. Bu pobl yn gweithio yma gyntaf 3500 i 4000 o flynyddoedd yn ôl.
Ble well nag Ynys Môn i ddod â’ch taith o amgylch y gogledd cynhanesyddol i ben? Mae’r siambrau claddu seremonïol niferus yn un o brif nodweddion archaeolegol yr ynys. Mae un o’r hynotaf, Bryn Celli Ddu, ymhlith beddrodau cyntedd mwyaf dramatig Prydain. Safle sy’n rhannol o’r cyfnod Neolithig ac yn rhannol o’r Oes Efydd yw hwn, a’r hyn sy’n ei wneud yn fwy trawiadol fyth yw bod twmpath glaswellt yn dal i’w orchuddio. Er y byddai hynny’n wir am nifer o feddrodau tebyg, mae’r glaswellt wedi diflannu oddi ar y rhan fwyaf ohonyn nhw erbyn heddiw. Mae cyntedd 8.5 metr yn arwain drwy’r twmpath i siambr gladdu gerrig, gyda wal gefn honno ar agor. Yr adeg orau i ddod yma yw bore hirddydd haf, pan fydd yr haul yn codi ac yn saethu pelydryn o olau’n uniongyrchol drwy’r cyntedd i oleuo’r siambr gladdu. Rhywfaint o hud a lledrith megalithig, yn wir.

