Yn llygaid y byd ar hyn o bryd, mae dinas Wrecsam ar y brig, diolch i ‘stori dylwyth teg’ y tîm pêl droed. Lawlaw â hynny, mae’r diddordeb yn Ryan Reynolds a Rob McElhenney – a’u cyfres ddogfen am Wrecsam ar sianel Disney - yn golygu fod 'na chwilfrydedd anferthol am y ‘dre’. Mae’r ddinas hefyd yn gartref i ŵyl flynyddol FOCUS Wales, sy’n dathlu creadigrwydd Cymreig. Ar ben popeth, eleni, Wrecsam yw lleoliad Eisteddfod Genedlaethol Cymru, gan olygu y bydd na filoedd o Gymry yn heidio yno ar bererindod, ac i ymfalchïo yn eu Cymreictod. Ond pa lefydd sydd yno y tu hwnt i’r Maes yn Is-y-Coed i gael blas o ddinas y Cae Ras? Dyma wibdaith go flasus o amgylch sin fwyd y ddinas, i blesio yn ystod wythnos y Brifwyl.
Pa le gwell i ddechrau’ch taith na thafarn The Turf Hotel, sydd ar agor ers dros canrif a hanner. Dyna’n sicr yw cam cyntaf nifer o deithiwr rhyngwladol sy’n heidio yno’n ddyddiol bellach. Yno i’ch croesawu mae’r rheolwr Wayne Jones a’i deulu; wynebau cyfarwydd i wylwyr y gyfres Welcome to Wrexham ar sianel ffrydio Disney. Y newyddion da i fore-godwyr yw bod eu fan fyrgers adnabyddus ar agor yn blygeiniol am saith y bore! Ceir digon o ddewis yno, o’r ‘bap brecwast’ go gynnil, y ‘Breakfast Stack’ am bumpunt, neu beth am y ‘Belly Burster Breakfast’ am £7.50? Gair o gyngor; ‘cash only’ sydd yr arwydd, felly sicrhewch fod ganddoch ddigon o bres yn eich poced!

Os oes well ganddoch chi leinio’r bol â Matcha Latte trawiadol, ga i’ch cyfeirio at drysor lleol Tôst yng nghanol y ddinas? Yn wir, mae’r caffi deli bendigedig yn gweini brecwast tan 2.30, felly cymerwch eich amser wrth ymlwybro at Stryd Siarl. Gymerwch chi omlet, neu gaws pob? Neu beth am brynu rhodd bwyd gwobrwyol o’r ardal, fel olew Mountain Produce o bentref Y Mwynglawdd? Aeth y caffi yn feiral – yn dilyn adolygiad ar sianel youtube Rate My Takeaway - am eu ‘Welsh Rarebit’ arbennig sy’n cynnwys joch da o gwrw Wrecsam gyda chaws o Hufenfa De Arfon. Neu beth am frechdan gaws wedi’i dostio er cof am Elvis Presely, gyda chig moch o bentre’ Owrtyn, jam llus Welsh Lady Preserves o Eifionydd, a menyn mêl cwmni Crwst o Aberteifi? Daeth y ‘Tôsti’ hwnnw’n agos iawn i ennill cystadleuaeth ‘Cook-Off’ lleol ‘Dyma Wrecsam’ ym mwyty Iâl eleni.
A sôn am fwyty Iâl – dyma lecyn arbennig iawn. Ar y naill law, mae’n gegin i fyfyrwyr dan hyfforddiant yng Ngholeg Cambria, ond mae hefyd yn fwyty chwaethus a chyfoes yng nghanol y ddinas. Mae hefyd yn darparu cynnyrch o safon i fwytai eraill (fel bara surdoes caffi Tôst ddwywaith yr wythnos), ac mae’r fwydlen ginio sydd ar gynnig rhwng dydd Iau a dydd Sul yn un o atyniadau bwyd gorau Wrecsam. Am bris cystadleuol – dau gwrs am £20 neu dri chwrs am £23 – gewch chi wledd o seigiau tymhorol sy’n gwneud defnydd helaeth o gynnyrch lleol, gan gynnwys cig o goleg amaethyddol Llysffasi. Dros yr haf, cewch wledda ar fyrger Iâl, a parfait madarch, cyn gorffen â melysgybolfa mefus a lemwn – ymysg danteithion eraill. Clywais hefyd ganmol mawr gan loddestwyr lleol i’r cinio Sul ‘godidog’ – roedd y profiad ar Sul y Mamau, mae’n debyg, yn ardderchog.
A sôn am ‘foodies’ lleol Wrecsam, maen nhw’n llawn canmoliaeth i ganolfan Tŷ Pawb ar Stryd y Farchnad, a’i arlwy o stondinau bwyd-y-stryd. Un atyniad mawr yw Curry On The Go; a tra bod y bardd lleol Sara Erddig yn hoff o’r tikka masala, ges i flas ar gyri cig oen cartref y gogyddes Rubina, sy’n wreiddiol o Bacistan, ond a symudodd i Wrecsam gyda’i theulu yn y 1980au. Gyferbyn â hi mae siop losin Candyland ei mab, ac yn ôl Imti, melysion mwyaf poblogaidd Wrecsam yw’r cwpanau bach siocled retro mewn ffoil lliwgar! Gerllaw hefyd mae byrgers Smashed It, neu ddewis o bastai the PIE’d PIE’per, a stondin ysgytlaeth hufen iâ Just Desserts, sy’n boblogaidd ag ieuenctid y fro. Ac ar ddiwrnod gêm bêl-droed, mae Bâr Sgwâr yn llawn, neu croeswch y ffordd i gael croeso Cymraeg go-iawn yn nhafarn gymunedol Saith Seren.

Os am ginio cyflym mae Siwan, o Siop Siwan yn argymell Divine Thai ar Stryd y Brenin, sef cwmni oedd yn arfer cynnal stondin yn Tŷ Pawb. A ges i dri argymhelliad tra’n sgwrsio yn ReVibed Records sydd hefyd yn rhan o ganolfan Tŷ Pawb; am frecwast ewch ar eich union i Safar Bistro, yna’r Welch Fusilier am ddiod a chroeso cynnes, yna i Reggie’s Artisan Bakery am eich te prynhawn. Yna ar gyrion gogleddol y ddinas, ym mwyty gwledig Pant yr Ochain, roedd Ramsay – un o’r rheolwyr - yn canu clodydd Marubbi’s ar Stryd y Banc, sef caffi hynna’r dre yn 125 mlwydd oed – a Lot 11 ar Stryd yr Allt (Hill Street) am baned a chacen.
Erbyn hanner dydd mae bariau a bwytai canolog ar agor, yn cynnig amrywiaeth eang o flasau rhyngwladol. Nid nepell o Tŷ Pawb, mae Levant yn boblogaidd iawn; bwyty sy’n dathlu blasau o ddwyrain Môr y Canoldir, gan gynnwys bwydlen ginio dau gwrs am £10. Ond yr atyniad mwyaf poblogaidd yno yw’r ‘hanging kebabs’, gan gynnwys shish gorgimychiaid gyda lemwn a garlleg (£16.90), neu'r shish cig oen gydag iogwrt a mintys a salsa (£15.90).
Yna mae bwyty Lisbon Tapas yn ofod lliwgar ar Stryd yr Eglwys – gyferbyn, gyda llaw, â Cafe De Galles, os yn awchu am gacen sbwng hufen ac oren – ac yno’n barod iawn â’i groeso mae David, o’r Algarve. Ar gynnig ger y bar mae cwrw nodweddiadol Sagres, ynghyd â’r ffefryn lleol, Wrexham Lager. Ond beth i gael i ginio? Fel mae’r enw’n awgrymu ceir amrywiaeth eang o blatiau bychain, megis Bifana (cig moch) , Camarão Frito (gorgimychiaid) ac Almôndegas (peli cig mewn saws mintys a salsa). Neu os am swper mwy sylweddol, beth am blatiad i rannu rhwng criw ohonoch o seigiau Terra e Mar, o’r tir a’r môr? Amhosib fyddai gadael heb flas bach melys i orffen o’r daten gwstard eiconig, pastel de nata.
Os am wledd go arbennig, ceir gofod hynod chwaethus ym mwyty Thai Dine ar Stryd y Bont. A ffefryn mawr arall gyda thrigolion lleol am ddathliad, yw The Lemon Tree, ar Heol Rhosddu. Mae’r fwydlen yn llawn ffefrynnau i blesio pob aelod o’r teulu, fel salad Cesar, draenog y môr, a golwyth llygad yr asen. Neu, am stecen ganol y dre, yna Carniboar yw’r lle; mae’n ofod llawn steil ar ganol y stryd fawr hynod fywiog, ac yn gweini golwythion, plateidiau mawrion, byrger brisged a hyd yn oed byrger llysieuol. Peidiwch da chi a cholli’r ‘steak ends’ i gychwyn; dyma dameidiau hynod flasus i aros pryd, gan gynnwys saws dripin cig eidion, a phwdin efrog. Neu am blatiad o selsig gludiog ewch ar eich union i’r Fat Boar, sef brawd-fwyty poblogaidd Carniboar. Mae hefyd yn far poblogaidd ar Stryd Yorke, sy’n amhosib i’w golli, diolch i’r murlun trawiadol pêl-droed. A pheidiwch â cholli cyfle am ddiod yn The Bank – bar coctel hynod chwaethus, gyda bwydlen ddiddorol iawn, gan gynnwys bwydlen flasu ‘Wrexham Lager’ dri chwrs.


Fin nos ceir amrywiaeth o dafarndai canolog, gan gynnwys bragdy’r Magic Dragon, sy’n gweini cwrw crefft ac yn cynnal sesiynau meic agored poblogaidd iawn. Neu am dafarn draddodiadol i swatio gyda’ch diod, trowch at y Nag’s Head ar Heol y Domen, a Royal Oak y stryd fawr i gael rhyfeddu at yr eland ar y wal. Ac os nad oes ganddoch chi syniad beth yw eland... weld ewch yno, ac fe gewch chi weld! Ac am brofiad tra dymunol, mae bar a siop win Alticcio, lle gewch chi sawru gwinoedd rhyngwladol, a mwy lleol, gan gynnwys Gwinllan y Dyffryn, Llandyrnog. Yn olaf, cyn clwydo, os bydd angen eich bwydo, mae 'na lawer o lecynnau hwyrnos oddi ar Stryd y Rhaglaw (Regent Street). Ond yn ôl y gwybodusion, bwyty Tsieineaidd gorau Wrecsam yw The Sleepy Panda. Pa enw gwell wedi diwrnod llawn a noson i’w chofio yn Wrecsam?