Anturiaethau awyr agored

Mae'n synnu pobl pa mor dawel yw sawl man ym Mro Morgannwg, o ystyried pa mor agos yw i Gaerdydd, ein prifddinas brysur. Gallwch gerdded, ymlacio a nofio, yn aml heb lawer o bobl eraill o gwmpas, yn enwedig yng nghanol yr wythnos.

Mae dewis o draethau tawel, tywodlyd sy'n ddelfrydol ar gyfer adeiladu castell tywod, cefn gwlad yn frith o gestyll a gerddi a theithiau cerdded hyfryd trwy bentrefi tlws gyda thafarndai atmosfferig.

Teithiau cerdded chwedlonol

Mae llwybrau gwych ar gyfer pob gallu yn y Fro. Mae Llwybr Arfordir Cymru’n troelli ar hyd bron i 50 milltir (80km) o arfordir yma, gan gynnig golygfeydd ysgubol, traethau cudd a thwyni’n arwain at gildraethau hyfryd. Oddi ar y glannau mae llwybrau drwy goedwigoedd hynafol a chymoedd hardd. 

Mae cyfres o 10 Llwybr y Fro i chi ddarganfod. Gallwch lawrlwytho ap Chwedlau’r Fro sy’n dod â straeon yn fyw ar hyd pob un ohonynt. Bydd digwyddiad poblogaidd Gŵyl Gerdded Bro Morgannwg yn digwydd yn flynyddol gydag ystod eang o lwybrau cerdded i’w dilyn.

Menyw a phlentyn yn cerdded ar hyd Llwybr Arfordir Cymru.
Traeth a chlogwyn

Golygfeydd hyfryd ar hyd Llwybr Arfordir Cymru ym Mro Morgannwg

Parciau a gerddi

Tŷ a Gerddi Dyffryn oedd cartref y masnachwr glo cyfoethog, John Cory. Erbyn heddiw mae’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol – plasty Fictoraidd helaeth. Roedd Cory’n arddwr brwd a gyda help y pensaer tirlunio Thomas Mawson, trodd y 55 erw o erddi’n baradwys o berllannau, gerddi a llyn.

Mae Gerddi Dwnrhefn yn dyddio’n ôl i’r 16eg ganrif. Dyma gyfres o erddi persawrus bach wedi’u hamgylchynu â muriau hynafol dan gysgod adfeilion rhamantus tŵr a phorth castell. Gallech daflu carreg o’r fan hon i draeth tywodlyd braf Bae Dwnrhefn.

Mae Gerddi Fferm Slade yn ddelfrydol os oes plant gyda chi. Ynghyd â naw erw o lwybrau drwy’r goedwig a gerddi deiliog, mae fferm yma a chyfle i gwrdd â’r moch, y gwartheg a’r defaid.

Mae Castell Ffonmon hefyd yn cyfuno gerddi â phob math o weithgareddau. Gallwch ddarganfod y Gerddi Fictoraidd coll, llwybrau hudolus drwy’r goedwig, fferm weithredol ganoloesol a ailgrëwyd yma, a hyd yn oed Profiad Deinosoriaid.

Mae gan Barc Gwledig Porthceri 22 erw o lwybrau heddychlon a dolydd braf gyda lleoedd gwych i gerdded a digonedd o goed i’w dringo. Mae’n cefnu ar draeth caregog ac mae’n gartref i draphont eiconig. Ceir llwybrau natur, llecynnau picnic, parthau barbeciw a maes chwarae antur hefyd.

Mae Llynnoedd a Pharc Gwledig Cosmeston yn arbennig o dda i bobl sydd â nam symudedd, am fod yr holl lwybrau yn wastad, llyfn ac yn hygyrch. Mae dwy hen chwarel a foddwyd bellach yn llynnoedd heddychlon sy’n denu nifer enfawr o adar dŵr. Dyma gartref Pentref Canoloesol Cosmeston hefyd, ble gallwch gamu’n ôl drwy amser i’r 14eg ganrif, a chwrdd â ‘phentrefwyr’ mewn dillad traddodiadol.

Gerddi o natur wahanol yw Gwinllan Llanerch a Gwinllan Glyndwr, ac yn fwy addas i oedolion, efallai! Yng nghanol cefn gwlad braf, mae’r ddwy winllan yn cynnig teithiau gwin a chyfle i flasu gwin. Mae bwyty Llanerch yn gweini bwyd rhagorol, sy’n berffaith ar gyfer ei baru â gwinoedd gwyn soffistigedig y winllan.

Potel win a gwin gwyn mewn gwydr ar fwrdd
Golygfa o'r grawnwin a'r gwesty yng Ngwinllan Llanerch.

Gwinoedd da a golygfeydd deniadol yng Ngwinllan Llanerch

Pethau i’w gwneud ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Mae Pen-y-bont prysur yn lle cyfleus i leoli eich hunan os ydych chi eisiau ychydig o gyffro neu os oes plant bach gyda chi sydd eisiau bwyta mewn lleoliadau cyfarwydd.

Mae’n hawdd mynd o gwmpas canol y dref, ac mae yma ddigon i’ch cadw’n brysur. Mae llawer ohono’n ddi-geir, felly mae’n ddelfrydol ar gyfer crwydro. Ar gyrion y dref mae safle gwerthu ‘designer’ McArthur Glen, sy’n gartref i fannau bwyta cyfarwydd fel Nando’s a Wagamama, a brandiau moethus fel Calvin Klein a Ted Baker.

Ochr yn ochr â’r siopa, gall oedolion ddiddanu’u hunain ym Mhen-y-bont yn y caffis a’r tafarndai prysur, y mannau yfed a’r cwrw crefft sy’n cael ei fragu gan y bragwyr lleol Bang On Brewery.

Mae afon Ogwr yn llifo drwy ganol y dref, a cheir llwybr pren byr ar lan yr afon. Mae digon o leoedd hardd i ymweld â nhw ger Pen-y-bont os hoffech gerdded ychydig ymhellach. Rhannwyd Llwybr Cylchynol Pen-y-bont yn dair rhan hawdd, sy’n cynnwys tri phentref pert o gwmpas y dref: Llangrallo, Corntwn a Sarn.

Darganfod Ynys y Barri

Daeth y Barri yn enwog fel un o leoliadau’r gyfres deledu BBC boblogaidd Gavin & Stacey. Ond does dim angen dwlu ar y gyfres i fwynhau atyniadau’r dref.

Gallwch gael diwrnod perffaith ar lan y môr ar draeth euraid Bae Whitmore, sy’n llecyn hyfryd i’r teulu cyfan adeiladu cestyll tywod a bracso yn y môr. Gallwch logi un o gytiau traeth lliwgar, eiconig Ynys y Barri am y dydd neu ddarganfod goleuadau llachar Parc Pleser Ynys y Barri. Yn goron ar y cyfan, mae’r prom yn llawn o gaffis, siopau pysgod a sglodion traddodiadol ac arcêds difyr. Mae’r traeth hefyd yn hygyrch i bobl llai abl drwy fenthyca cadeiriau olwyn traeth gan Gyngor Bro Morgannwg.

Pobl yn defnyddio cadair olwyn draeth ger cytiau traeth lliwgar.
Tri pherson yn gwthio cadeiriau olwyn traeth i lawr y llethr tuag at draeth tywodlyd

Cytiau traeth a chadeiriau olwyn traeth yn Ynys y Barri

Mae llawer mwy i’r Barri na’i draeth hefyd. Mae Rheilffordd Dwristaidd y Barri’n cynnal teithiau trên treftadaeth rheolaidd. Mae Amgueddfa Ryfel y Barri ar yr un safle, gyda ffos Rhyfel Byd Cyntaf wedi’i hail-greu a chysgod bomiau Anderson o’r Ail Ryfel Byd. Mae Llyn a Gerddi Knap yn llecyn poblogaidd gan bobl leol i ymlacio, ac mae’n braf iawn cerdded o gwmpas y gerddi. Mae Goodsheds yn gasgliad cŵl o siopau, caffis a bwytai annibynnol, delfrydol ar gyfer cael tamaid i’w fwyta a therapi siopa!

Ynys y Barri o’r awyr yn dangos y ffair a’r traeth.

Bae Whitmore, Ynys y Barri, Bro Morgannwg

Ymweld â phentrefi’r Fro

Ymhob cwr o Fro Morgannwg mae pentrefi pert ble cewch y teimlad fod amser wedi rhewi. Gallwch ddisgwyl darganfod adfeilion hynafol, tafarndai cyfeillgar a siopa unigryw. 

Penarth

Mae digonedd i’w wneud ym Mhenarth. Dyma dref glan-môr gain gyda siopau annibynnol, ei arcêd ei hun a llond llaw o fwytai rhagorol Ewch tua’r dwyrain a dyna Farina Penarth a’r Morglawdd. Ewch am yr arfordir ac mae’n amhosib osgoi’r Pier a’r Pafiliwn Art Deco ysblennydd. Mae’r Esplanade godidog yn ymestyn ar hyd glan y môr ar ei hyd, ble gwelwch fwytai, caffis a siopau o safon uchel iawn.

Golygfa o'r awyr o bier a thraeth Penarth

Pier Penarth yn ymestyn i’r môr

Y Bont-faen

Mae tref farchnad y Bont-faen yn hudolus, gyda muriau hanesyddol yn ei hamgylchynu, llwybr plac glas i’w ddilyn a llwyth o siopau annibynnol ffasiynol. Gallwch eistedd i ymlacio a dal eich gwynt yn yr Ardd Berlysiau hyfryd, ac mae dewis rhagorol o gaffis a delis i’ch bwydo.

Llanilltud Fawr

Mae adeiladau hynafol ymhob twll a chornel yn Llanilltud Fawr, un o drefi harddaf Bro Morgannwg; cofnodwyd yr eglwys gyntaf yma dros 1,500 o flynyddoedd yn ôl. Gallwch ddilyn y Llwybr Plac Glas yma hefyd, ac mae’r wlad, yr ogofeydd a’r traethau o gwmpas yn odidog.

Gerllaw, mae Castell Sain Dunwyd yn wledd o dyrrau, amddiffynfeydd a daeargelloedd. Dyma gartref UWC Atlantic, academi addysgol ysbrydoledig sy’n denu myfyrwyr o dros 150 o wledydd. Mae llawer yn digwydd yma i ymwelwyr hefyd, gan gynnwys ffeiriau Nadolig, sinema awyr agored a theithiau o gwmpas y castell, ynghyd â phrofiadau chwaraeon fel caiacio, dringo ac arfordira.

Golygfa allanol o Eglwys Sant Illtyd gydag awyr las a beddau y tu allan
gardd â blodau wedi’u hamgylchynu â pherthi ac adeilad gwyn.

Eglwys Illtud Sant, Llanilltud Fawr a Gardd Berlysiau’r Bont-faen

Peidiwch â cholli…

Crochenwyr a chrochenwaith Ewenni

Fan hyn, yng nghrochendy gweithredol hynaf Cymru, bu’r teulu Jenkins yn creu llestri, ffiolau a photiau hyfryd ac unigryw ers wyth cenhedlaeth. Mae gweithio clai fan hyn yn dyddio’n ôl i’r 15fed ganrif. Gallwch weld y teulu wrth eu gwaith a mynd â’ch darn unigryw o hanes eiconig Cymru, a grefftiwyd â llaw ar safle Crochendy Ewenni, adref gyda chi.

Goleudy yr As Fach

Cynlluniwyd goleudy Trwyn yr As Fach gan y peiriannydd James Walker i warchod yr arfordir yng nghanol y 19eg ganrif. Credir bod rhai cannoedd o longau wedi suddo fan hyn, a’u holion yn dal i lechu dan y don. Dyma oedd y goleudy olaf yng Nghymru i gael ei staffio, cyn cael ei redeg yn awtomatig yn 1998. Cafodd y safle ei agor i’r cyhoedd yn 2007 ac mae’n fan delfrydol i ddechrau ar daith gerdded ar hyd y clogwyni, gyda golygfeydd ysgubol.

Golygfa o oleudy’r As Fach wrth ochr y traeth, Bro Morgannwg.
Traeth creigiog a chlogwyn.
Llun agos o ffosil amonit ar graig.

Goleudy Trwyn yr As Fach a ffosiliau ar y traeth

Merthyr Mawr

Erioed wedi breuddwydio am gyfarfod â Lawrence o Arabia? Ffilmiwyd rhannau o’r ffilm enwog o 1962 ymysg y twyni tywod eiconig yma, gyda golygfeydd dros Afon Ogwr. Mae’r twyni’n rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol Cwningar Merthyr Mawr a cheir llwybrau ag arwyddbyst yma i’ch helpu i ddarganfod y bywyd gwyllt a’r cynefinoedd unigryw yma. Mae bythynnod to gwellt pert ym mhentref Merthyr Mawr hefyd, a phlasty Tŷ Merthyr Mawr o’r 19eg ganrif, ynghyd â Chastell Tregawntlo, adfeilion deniadol maenordy caerog o’r 14eg ganrif.

Castell Ogwr

Lleolir adfeilion Castell Ogwr ar dro yn afon addfwyn Ogwr. Dyma leoliad delfrydol, ond yr hyn sy’n aros fwyaf yng ngof ymwelwyr yw’r rhes o gerrig camu mawr sy’n croesi lled yr afon. Mentrwch groesi i’r ochr draw heb wlychu eich traed!

darn o ddŵr â cherrig camu’n ei groesi. Mae oedolyn a phlentyn yn camu drosodd. Gwelir adfeilion hen adeilad yn y cefndir.

Ar y cerrig camu ger castell Ogwr

Straeon cysylltiedig