Mewn holiadur diweddar, mi ofynnwyd i mi beth oedd y peth gorau am fyw yng Nghaernarfon. Mi grafais fy mhen: roedd gormod o bethau i’w rhestru. Mae yma dipyn bach o bob dim, ond heb fod gormod o ddim byd. Ac mi sylwais yn sydyn mai dyna oedd fy ateb. Tre gymharol fach ydi hi – ryw ddeg mil o bobl sy’n byw yma. Ond ar yr un pryd, mae ganddi bopeth dan haul y byddai rhywun ei eisiau mewn tre ddifyr, ddeniadol.

Hanes hir

Mewn cerdd rywdro, mi soniais am y clai a’r tywod yng Nghaernarfon yn cloi cannoedd o flynyddoedd o hanesion yn haenau o dan bob stryd. Ond mae digon o hanes yn dal ar yr wyneb. Mi fyddai’n rhaid i chi fod yn ddall i beidio â sylwi ar y castell – er y bydd ambell Americanwr yn holi’n dwll amdano wrth sefyll yn ei gysgod. Pennod ddu yn hanes Cymru a roddodd fod i’r horwth, ond ni piau’r lle erbyn hyn. Wel, ni a Cadw, sydd wedi adnewyddu’r lle’n ddiweddar gan agor caffi a chyfleusterau newydd gwerth £5 miliwn o bunnoedd.

O dyrau’r castell, draw dros y ffordd osgoi, fe saif Ben Twthill. Dyma gaer wreiddiol y Celtiaid a lleoliad sawl brwydr waedlyd dros y canrifoedd. Er bod ambell un yn ei alw’n fynydd, mae’n ddigon hawdd dringo i’r top i gael golygfa banoramig o’r dre. Ac wrth sôn am frwydrau gwaedlyd, roedd y Rhufeiniaid yn ddigon cyfarwydd â’r rheini. Mae adfeilion rhyfeddol Segontiwm yn ein hatgoffa mai cyrraedd ac yna gadael wnaeth pobl ddŵad yma erioed... a bod y Cofis wastad yn goroesi yn y pen draw.

Castell Caernarfon with grounds.

Castell Caernarfon

Cerdded y camau

Os nad ydi copa caregog Ben Twthill at eich dant, mae digon o lwybrau cerdded mwy gwastad yn nes i lawr at y môr. Er mai ‘culfor’ ydi’r Fenai go iawn, ac er bod pawb yn ei alw’n ‘afon’, mae’r gwymon a’r gwylanod a’r llanw yn gwneud iddo deimlo jest fel môr. Croeswch y bont ar y cei a throi i’r dde cyn dilyn y lôn arfordirol am ryw hyd. Mewn dim, fe fyddwch chi ar y ‘Foryd’, sy’n warchodfa natur o bwys. Cariwch ymlaen hyd y ffordd a dychwelyd drwy Lanfaglan a dyna chi wedi cwblhau cylchdaith enwog ‘Rownd y Foryd’. Ond fy hun, mae’n well gen i fynd y ffordd arall a chyrraedd yn ôl i’r dre ar hyd y lan.

Yn nes draw i’r dwyrain, mae Lôn Las Menai yn llwybr braf arall ar erchwyn môr. Dilyn yr hen lein reilffordd o Gaernarfon i Fangor mae hwn, gan gychwyn o dan archfarchnad Morrisons. Ac os nad ydi dyfroedd at eich dant, mae Coed Cadnant yn cynnig llwybrau dirifedi drwy goetir sy’n orlawn o fywyd gwyllt. Felly hefyd Barc y Dre, sy’n swatio o dan y lôn allan am Ben Llŷn. Hen barc Fictorianaidd godidog ydi hwn, sydd ar ôl blynyddoedd o esgeulustod wedi elwa’n fawr o waith twtio diweddar.

Arwerthu annibynnol

O amgylch Stryd y Plas, y tu mewn i waliau’r hen dre, mae tomen o fusnesau bach, annibynnol yn llwyddo’n rhyfeddol er gwaetha grymoedd cyfalafol mawr y byd. Ewch am sgowt ac fe gewch eich synnu gan yr amrywiaeth. I lawr wrth y dŵr, mae datblygiad newydd Cei Llechi yn gartref i grefftwyr a gweithgynhyrchwyr bach. A hyd yn oed yn Stryd Llyn, lle roedd y siopau mawr i gyd ers talwm, mae ambell fasnachwr annibynnol eto’n dal ei dir. Tre’r ‘trigain tafarn’ oedd Caernarfon unwaith ond mae’n siŵr y byddai tre’r ‘trigain siop annibynnol’ yn dipyn nes ati bellach.

Elfennau egnïol

Pa dref arall seis hon sydd â chanolfan hamdden, pwll nofio, canolfan dennis a ffitrwydd, caeau chwarae niferus, a chanolfan ddringo i gyd o fewn ei ffiniau? Mae hyn heb sôn am Lôn Eifion, sef y llwybr seiclo sy’n mynd yr holl ffordd i Fryncir (llogwch eich beics gan griw cyfeillgar Beics Antur ym Mhorth yr Aur). Ac ar gyrion y dre, dyna i chi ganolfan awyr agored Plas Menai. Fan hyn, fe all y rhai mwyaf anturus yn eich plith roi cynnig ar gaiacio, hwylio a hwylfyrddio ymysg sawl gweithgaredd arall sy’n golygu symud ac arnofio ar ddŵr. Y neges amlwg ydi nad oes gan neb sy’n byw yng Nghaernarfon esgus i beidio â bod yn ffit.

 

I blantos bach

Parc Coed Helen ydi enw swyddogol Cyngor Gwynedd ar y lle, ond ‘Dros Rabar’ ydi o i’r Cofis ers cenedlaethau maith. Ac nid ‘parc’ chwaith, ond ‘cae swings’. Fel y gwelwch o’r enw, mae angen croesi’r bont o’r cei i’w gyrraedd. Dyma gae swings gorau’r dre os nad y sir os nad y wlad. Y drws nesaf iddo mae parc sglefrfyrddio mawr. Yn anffodus, dydy hedfan drwy’r awyr ar blanc o bren ddim ymhlith fy nghryfderau, felly dydw i erioed wedi gallu mwynhau ei bleserau.

Wrth gwrs, fydd hi ddim yn braf yng Nghaernarfon bob dydd o’r flwyddyn gron. Diolch i drugaredd (ac yn dad i ddau o blant ifanc fy hun, mi ddiolchais i drugaredd sawl tro), mae’r Hwylfan yn lle chwarae dan do hwylus. Ychydig y tu allan i’r dre, mae canolfannau antur Coed y Sipsi a’r Gelli Gyffwrdd hefyd yn atyniadau teuluol poblogaidd.

Sgram i’r stumog

Mi fyddai gwneud chwarter yr uchod yn ddigon i godi archwaeth, ac wrth lwc mae gan Gaernarfon arlwy i’n digoni. Fel yn achos popeth arall yma, yr amrywiaeth sy’n eich taro. Mi gawn groesi’r gwledydd mewn ychydig gamau, o bizzas Tân i blateidiau meze Ouzo ac Olewydd. Mi gawn ddadlau ymhlith ein gilydd pa un o’r tri bwyty Indiaidd sydd orau (fy marn fy hun: mae’r tri’n dda). Mi gawn ddewis o’r tai Tsieneaidd rif y gwlith (er mai dim ond yn Fu’s y cawn eistedd i lawr i fwyta). Neu mi gawn wledda fel y Brenin Edward ei hun yn Sheeps and Leeks, bwyty mwyaf uchelgeisiol y dre.

Yn amlwg mae yma dai tafarn sy’n gweini prydau – o’r Black Boy sydd wedi ennill ei blwyf ers degawdau i’r Goron sy’n llenwi’ch plât efo bwyd cartref am brisiau hurt o rhad. Mae yma gaffis dirifedi – o’r hen ffefrynnau fel Caffi Maes i newydd-ddyfodiaid fel Tŷ Winsh. Y delis wedyn: mae gan Bonta Deli a Bwyd Blasus Yashka eu cefnogwyr selog, fel y mae gan bob un o’r tri thŷ cebáb. Mae’r dewis o bysgod a sglodion hefyd yn helaeth, a Siop Cae Twthill a Bryn’s ymhlith fy hoff rai i. I’r dant melys, mae’r Palas Caffi yn gwerthu hufen iâ tan gamp, fel y mae Scoops, sy’n arbenigo hefyd mewn crempogau.

Wnewch chi ddim llwgu yng Nghaernarfon, mae hynny’n berffaith saff.

Naws y nos

Drwy’r haf, mae wal enwog yr Anglesey yn sefydliad ynddo’i hun – gardd gwrw orau Cymru meddai sawl un, lawer tro. Ewch yno i wylio afon Seiont yn ymuno â’r Fenai wrth i’r haul fachlud dros Fôn. I osgoi prysurdeb y dre’i hun, mentrwch fymryn am y cyrion a thrio’r Alex neu Twthill Vaults – tafarndai lleol go iawn lle bydd y sgwrs i gyd yn iaith y Cofi. Ac am beint hwyr wrth i’r cloc brysuro yn ei flaen, Bar Bach neu’r Castell amdani (yr un arall sy’n gweini diodydd, dafliad carreg o’r un hŷn, mwy o faint).

Person mewn cot las yn eistedd tu allan i dafarn.
Tafarn a waliau hynafol castell ger dŵr.

Yr Anglesey, Caernarfon

Gŵyl a gig

Dydy Caernarfon ddim yn dre i orffwys ar ei rhwyfau. Mae ganddi griwiau o wirfoddolwyr sy’n sicrhau bod yna fwrlwm i fywyd o hyd. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae’r Ŵyl Fwyd bob mis Mai, sy’n denu degau o filoedd o bobl, a Gŵyl Arall, sy’n gyfle i ddathlu diwylliant y dre bob haf. Gydol y flwyddyn, mi fydd yna gigs yn Neuadd y Farchnad a pherfformiadau o bob math yn Galeri (sydd hefyd yn sinema erbyn hyn). Ac mi fydd y twrw’n codi ar yr Oval a’r Morfa bob penwythnos wrth i dimau pêl-droed a rygbi Caernarfon fynd i stêm.

Crafu’r wyneb ydw i fan hyn, wrth gwrs. Roedd fy ngherdd yn sôn am gladdu hanesion yn haenau, ond mae haenau’r dre heddiw yr un mor niferus. Rhaid i chi alw draw i’w mwynhau yn eu holl gyfoeth. Mi gewch wneud hynny efo’r cysur nad oes yma ormod o ddim byd, ond bod yma’n sicr ychydig bach o bob dim.

Person mewn cot las yn sefyll o flaen Castell Caernarfon.

Rhys Iorwerth, Caernarfon

Straeon cysylltiedig