Wyt ti’n ymwelydd?
Chwilio am lety ac atyniadau
Defnyddia'r cynnwys ar y wefan hon i gael ysbrydoliaeth ar gyfer cynllunio dy wyliau yng Nghymru. Mae ein cronfa ddata chwiliadwy yn dy alluogi i ddod o hyd i lety, atyniadau, darparwyr gweithgareddau a digwyddiadau. Defnyddia'r hidlyddion i fireinio'r canlyniadau, neu dewis ‘Dangos mwy o hidlyddion’ i chwilio'n fwy penodol, er enghraifft am lety neu atyniadau sydd â mannau gwefru cerbydau trydan. Gelli weld y canlyniadau fel rhestr neu ar fap.
Nid ydym bellach yn cynhyrchu nac yn anfon taflenni na mapiau printiedig. Ein nod yw sicrhau bod gwybodaeth ar gael ac yn hygyrch i bawb ar-lein. Mae popeth a oedd gynt yn ein cyhoeddiadau printiedig ar gael ar y wefan.
Cei wybodaeth am cyrchfannau Cymru, ynghyd ag ystod eang o weithgareddau, gan gynnwys cerdded, beicio, a mwynhau ein traethau.
Cadw mewn cysylltiad
Cei’r newyddion diweddaraf am Gymru, ynghyd â manylion digwyddiadau a phethau i’w gwneud, drwy gofrestru i dderbyn cylchlythyr Croeso Cymru.
Mae llawer o’r atebion i gwestiynau cyffredin ar gael ar ein gwefan. Am wybodaeth leol, edrych ar ein tudalen gwybodaeth i dwristiaid ar wefannau allanol.
Os oes gennyt gwestiwn sy'n ymwneud â thwristiaeth, gelli hefyd roi cynnig ar Gwydion, cynorthwyydd teithio deallusrwydd artiffisial Croeso Cymru. Mae Gwydion yn gallu cynnig ysbrydoliaeth, syniadau am gyrchfannau a gwybodaeth deithio i dy helpu i gynllunio taith i Gymru.
Os na alli ddod o hyd i'r ateb rwyt yn chwilio amdano o hyd, anfon e-bost at ymholiadau.cymru@llyw.cymru. Byddwn yn ceisio ymateb o fewn 15 diwrnod gwaith.
Nid ydym yn ymateb i ymholiadau nad ydynt yn ymwneud â thwristiaeth. Ar gyfer pob ymholiad arall, anfon e-bost at customerhelp@gov.wales.
Ardoll ymwelwyr neu ‘dreth twristiaeth’
Cyflwynwyd Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) etc. (Cymru) i’r Senedd ar 25 Tachwedd 2024.
Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gynnal cofrestr o ddarparwyr llety ymwelwyr a’u safleoedd yng Nghymru.
O dan y ddeddfwriaeth, bydd gan awdurdodau lleol yr hawl i benderfynu a ydynt am gyflwyno ardoll ymwelwyr ar arosiadau dros nos yn eu hardaloedd.
Byddai ardoll ymwelwyr yng Nghymru yn creu ffynhonnell incwm newydd a fyddai'n cael ei hail-fuddsoddi i gefnogi twristiaeth a gwella seilwaith. Pe bai pob awdurdod lleol yn dewis ei chyflwyno, gallai gynhyrchu hyd at £33 miliwn ledled Cymru. Byddai'r arian hwn yn cael ei ail-fuddsoddi i gefnogi'r economi ymwelwyr, cryfhau'r economi ehangach a chefnogi cymunedau lleol.
Yn dilyn ymgynghori â thrigolion a busnesau lleol, amcangyfrifir mai 2027 fyddai'r cynharaf y gellid cyflwyno ardoll ymwelwyr mewn unrhyw ran o Gymru.
Cafodd y Bil Gydsyniad Brenhinol ar 18 Medi 2025 ac mae bellach yn gyfraith.
Wyt ti'n fusnes?
Eisiau ychwanegu dy lety, digwyddiad, atyniad neu ddarparwr gweithgareddau at ein cronfa ddata, neu yn cael trafferth gyda rhestriad sy'n bodoli eisoes?
Gweler ein tudalen Gweithio gyda ni am wybodaeth ar sut i ychwanegu neu ddiweddaru dy fanylion.
Sut mae codi pryder am fy rhestriad ar croeso.cymru?
Os wyt ti wedi dod ar draws problem gyda dy restr cynnyrch ar croeso.cymru, anfonwch e-bost at product.database@gov.wales
Cofia gynnwys:
- disgrifiad llawn o'r broblem
- dolen i'r dudalen berthnasol
- enw a fersiwn dy borwr gwe
- gwybodaeth am system weithredu dy gyfrifiadur
Byddwn yn ceisio datrys y mater cyn gynted â phosibl ac yn ymateb o fewn pum diwrnod gwaith.
Fodd bynnag, gall rhai problemau gymryd mwy na phum diwrnod gwaith i'w datrys. Os bydd hynny’n digwydd, byddwn yn rhoi gwybod i ti ac yn anelu at ddarparu ymateb terfynol o fewn 20 diwrnod gwaith.
Am wybodaeth am ddiweddaru rhestriad cynnyrch, gweler ein tudalen Gweithio gyda ni.
Chwilio am fanylion cyswllt y diwydiant twristiaeth?
Os wyt ti’n rhan o’r diwydiant twristiaeth, yn ddarparwr llety neu’n weithredwr gweithgareddau ac yn chwilio am wybodaeth gyswllt berthnasol, ewch i’n tudalen Gwybodaeth gyswllt y diwydiant twristiaeth.
Eisiau rhoi adborth?
Beth os yw fy mhryder yn ymwneud ag ansawdd cynnyrch sydd wedi'i raddio gan Croeso Cymru?
O bryd i’w gilydd, efallai na fydd ansawdd cynnyrch yn bodloni dy ddisgwyliadau. Mae Croeso Cymru yn gwerthfawrogi dy farn. I gael rhagor o wybodaeth, edrych ar ein tudalen Cwynion defnyddwyr.
I gofrestru problem gyda’r wefan
Os ydych wedi cael problem wrth ddefnyddio ein gwefan, anfonwch e-bost at ymholiadau.cymru@llyw.cymru yn cynnwys disgrifiad o’r broblem, dolen i’r dudalen benodol, enw a fersiwn eich porwr gwe a gwybodaeth am system weithredu eich cyfrifiadur.
Rwyf am roi adborth am faterion ehangach sy'n ymwneud â Chymru
Os oes gen ti bryder neu ymholiad nad yw'n ymwneud â thwristiaeth, gweler tudalen Cysylltu â Llywodraeth Cymru.