Mae Ffordd yr Arfordir yn teithio ar hyd yr arfordir gorllewinol o gwmpas Bae Ceredigion, taith ffordd o 180 milltir (290km) rhwng y môr a'r mynyddoedd. Mae Ffordd Cambria'n croesi asgwrn cefn ein gwlad am 185 milltir (300km) rhwng Llandudno a Chaerdydd, trwy Barciau Cenedlaethol ac eangderau gwyrdd gwyllt. Mae Ffordd y Gogledd yn arwain 75 milltir (120km) heibio cestyll cedyrn i Ynys Môn.
Rydym ni hefyd wedi argymell dolenni a dargyfeiriadau fel y gallwch fynd igam ogam a chreu eich taith Ffordd Cymru eich hun.
![Map yn dangos llwybrau Ffordd Cymru](/sites/visit/files/styles/o_articleimage_medium__16_9_1x/public/media-library/2019-03/Wales%20Way%20Illustration%20Map_0.jpg?h=cb6e0c3d&itok=VxGMSdHi)
Ffordd y Gogledd
Dilynwch yr hen lwybr masnachu ar hyd yr arfordir gogleddol i Ynys Môn. Archwiliwch Ffordd y Gogledd.
![Golygfa yn edrych dros y dŵr tuag at Gastell Conwy](/sites/visit/files/styles/o_articleimagegroup__landscape__2_1x/public/media-library/2020-05/NCX-VH08-1718-0079.jpg?h=e5aec6c8&itok=9DxZSMi4)
Ffordd Cambria
Siwrne gyfan de i'r gogledd ar hyd calon fynyddig Cymru. Archwiliwch Ffordd Cambria.
Ffordd yr Arfordir
Mae trefi harbwr a gwyliau, pentrefi pysgota a childraethau cyfrinachol ar hyd ein harfordir. Mae yna dywod euraidd, clogwyni aruthrol, a thraethau o bob math. Archwiliwch Ffordd yr Arfordir.
![Richard Parks ar gefn beic wrth y môr](/sites/visit/files/styles/o_articleimage_medium__16_9_1x/public/media-library/2019-03/BJ3A1200.jpg?h=8c647834&itok=ZWzdZMwe)