Dwi’n teimlo’n ffodus iawn cael byw ar lan y Fenai yn Felinheli. Mae hi’n braf swatio rhwng Bangor a Chaernarfon - dau le mor wahanol, ond y ddau yn cynnig llu o brofiadau bywiog. O fewn cyrraedd hawdd hefyd mae traeth Dinas Dinlle a’i olygfeydd hardd o Lŷn, hen bentref chwarel Bethesda a phentref Llanberis ar lannau Llyn Padarn. Da ni fel teulu yn trio gwneud y mwya’ o’n cyffiniau ac wedi syrthio mewn cariad gyda bywyd a bwyd ein bro. Un o’n hoff bethau ydi cefnogi (a bwyta!) cynnyrch lleol. Dyma rai o’n hoff lefydd sy’n gweini neu’n gwerthu cynnyrch Gwynedd ar ei orau.

Swellies, Y Felinheli

Da ni’n ffodus iawn o gael caffi o safon yng nghanol Felinheli. Mae lleoliad Swellies yn ddigon i’ch temtio ynddo’i hun – ar ddiwrnod braf o haf mi fedrwch chi’n hawdd ei gam-gymryd am farina yn Ne Ffrainc. Mae byrddau bach wedi’u gosod ar lan y marina yn cynnig lle perffaith i fwyta bwyd tec-awê wrth wylio’r hwyaid a’r cychod yn mynd a dŵad. Cynnyrch lleol Cymreig wedi ei baratoi’n dda ydi cyfrinach Swellies. Bara ffres lleol, wyau o Ben Llŷn, cig gan y cigydd lleol Tom Hughes, cacennau o Fangor gan Amy’s Kitchen, cwrw o Fragdy Lleu a hyd oed te dail rhydd o Gymru! Dwi’n meddwl bod Ed, y perchennog, wedi laru’n gweld ni erbyn hyn!

 Bag papur brown gyda logo Swellies, tri blwch bwyd a mwg coffi melyn ar fwrdd pren gyda chwch ar y dŵr yn y cefndir

Swellies

Llofft, Y Felinheli

Da ni hefyd yn ffodus iawn bod criw mentrus wedi prynu yr hen lofft hwyliau ar y ffrynt a’n gweithio ar ddatblygu bwyty yno. A tra mae’r adeilad yn cael ei drawsnewid mae Llofft Bach - trelar pop up - yn gweini coffi, cacennau a hufen iâ bob dydd Gwener, Sadwrn a Sul. ‘Sa ddim lle gwell i fwynhau panad tra mae’r plant yn chwarae yn y parc, neu wrth eistedd ar y wal yn gwylio’r cychod.

Tyddyn Teg, Bethel

Fferm ffrwythau a llysiau wedi ei lleoli rhwng Bethel a Llanrug ydi Tyddyn Teg. Mae’r troad cul lawr lôn arw yn cynnig cipolwg rhwng y coed a’r dail o’r degau o dwneli polythen. Mae’r holl waith ffermio a chynaeafu yn cael ei wneud gan wirfoddolwyr, a’r holl gynnyrch ar gael i’w prynu mewn siop onestrwydd. Mae’r broses o bwyso a gwneud y symiau yn cystal hwyl â’r casglu!

Dau ddyn yn gweithio y tu mewn i dŷ gwydr mawr yn llawn llysiau
Ffrwythau a llysiau mewn bocsys y tu mewn i siop ffrwythau a llysiau
Eitemau bwyd ar uned silffoedd y tu mewn i siop ffrwythau a llysiau

Tyddyn Teg

Clena, Bangor

Mae’n braf gweld hen leoliad y Greek Taverna ym Mangor Uchaf yn cael defnydd eto - ac mae Clena yn sicr wedi cadw naws unigryw'r lle. Mae’r caffi yn gweini dewis da o frecwast gan gynnwys opsiynau figan a brunch tan ganol pnawn. Mae’r fwydlen cinio yn cynnwys prydau llai cyn i’r fwydlen nos newid i wledd Mecsicanaidd gyda tacos, burritos a nachos lu. Mae dewis da o goctels hefyd ac ambell ddigwyddiad cerddorol min nos.

Braf, Dinas Dinlle

Caffi ar lan y môr Dinas Dinlle yw Braf sy’n gwerthu bwyd tymhorol, cacennau cartref a choffi Poblado. Ond mae Braf yn fwy na chaffi - mae’n ofod cymunedol croesawgar sy’n trefnu llu o ddigwyddiadau a’n croesawu grwpiau i gynnal gweithdai yn eu stiwdio - o ddawns i ioga i sesiynau sensori babi. Mae menter y ddwy ffrind o Ddyffryn Nantlle, Cadi ac Anwen, hefyd yn trefnu clybiau swper yn gweini platiau bach steil Tapas yn defnyddio pysgod lleol a llysiau tymhorol.

Stondin goffi pren wedi'i beintio yn las gyda llun pysgodyn mewn bicini arno. Mae cwpan o goffi mewn cwpan felen ar y cownter.
Tu mewn caffi golau gyda bwrdd pren a chadeiriau retro pren gyda choesau metel gwyrdd. Mae llun ar y wal gydag enw'r caffi sef BRAF.
Tu fewn caffi gyda llawr pren a chownter bwyd gwyn gyda theils glas wrth ei ochr. Mae yna blanhigyn mawr gwyrdd ger y cownter.

Braf, Dinas Dinlle

Bonta Deli, Caernarfon  

Da ni’n mwynhau defnyddio llwybr beics Lôn Las o’r Felinheli i Gaernarfon, rhan o Lwybr yr Arfordir, yn aml. Pan mae digonedd o amser, mae’n braf ei ddefnyddio i nôl neges, neu ymweld â theulu, yn hytrach na neidio i’r car. Yn ddi-ffael, fyddwn ni’n cael ‘pit-stop’ yn Bonta Deli sydd ar Stryd Twll yn y Wal yng Nghaernarfon. Mae’r deli yma fel ogof Aladdin, llawn danteithion hyfryd. Mae’r cynnyrch yn gymysgedd o’r gorau o’r Eidal a Chymru, partneriaeth berffaith yn fy marn i! Mae’r coffi yn anfarwol, ac er mwyn cefnogi busnes lleol… mae’n rhaid cael cacen neu pastry melys yn does?! Mae’r cannoli, y pasta de nata, y gacen gaws, y meringue, y gacen siocled a’r cwcis yn rhai o’n ffefrynnau. 

 

Poblado, Nantlle 

Fe wnaeth Poblado, sydd yn enw cyfarwydd dros Gymru erbyn hyn, ddechrau cynnig sesiynau ioga a chlwb rhedeg i bobol leol dros y cyfnod clo – ac wrth gwrs, coffi a sgwrs i ddilyn. Ers hynny da ni’n mynd yn gyson, ac mae’n werth i bawb sy’n caru coffi drefnu ymweliad i weld y broses o neud gwahanol ‘blends’, prynu bag o ffa neu gael coffi wedi ei baratoi. Mae’r staff yn barod i adrodd hanes y ffa organig sydd wedi ei brynu’n foesol o Rwanda, Iwganda, Swmatra, Tseinia, Guatemala a Cholombia. Trowch i’r chwith allan o Poblado a fyny am chwarel Nantlle, gyda choffi yn eich llaw – a mi fydd yr holl synhwyrau yn deffro.

Dau gwpan coffi ar fwrdd y tu allan gydag adeilad yn y cefndir

Poblado

Straeon cysylltiedig