Atyniadau yn The Apprentice

Os ydych chi’n hoffi gwylio The Apprentice ar BBC One, yna gosodwch dasg i chi’ch hun a darganfod mwy am y mannau yng Nghymru sydd yng nghyfres 2022. Ewch i ymweld â rheilffordd treftadaeth, neu saethu ar draws chwarel ar wifren zip.

Zip World Chwarel Penrhyn 

Yn ddiweddar yn The Apprentice gwelsom Zip World Chwarel Penrhyn fel her, ac mewn treial yn I'm A Celebrity... Get Me Out of Here! hefyd.

Paratowch am antur gyffrous yn Zip World's Velocity 2 - y wifren zip gyflymaf yn y byd a’r hiraf yn Ewrop. Gall y rhai sy’n hedfan gyrraedd 125 mya 500 troedfedd uwchlaw safle hanesyddol Penrhyn. Ond mae’n siŵr y byddwch yn gwneud mwy o wichian nag edrych ar yr olygfa tra byddwch i fyny yna.

Os yw cwrs cyflym cyffrous mewn cert mynydd yn fwy at eich dant, ewch â’ch ffrindiau a’ch teulu ar yr her Gert Chwarel. Byddwch yn dechrau 1500tr uwchlaw lefel y môr ac yn carlamu 3km i lawr i waelod y cwrs mewn cert mynydd yn cael ei dynnu gan dyniant y ddaear. Ddwywaith.

 

Rheilffyrdd Ffestiniog ac Ucheldiroedd Cymru

Yn The Apprentice hefyd roedd Rheilffyrdd Ucheldir Cymru yn Ffestiniog - y rheilffyrdd treftadaeth sy’n cwrdd ym Mhorthmadog. Mae eu hanes treftadaeth yn ddifyr iawn ac yn ffordd braf i ymlacio a mwynhau’r olygfa.

Mae Rheilffordd Ffestiniog yn teithio i Flaenau Ffestiniog, gan gadw at ymyl y mynydd uwchlaw afon Dwyryd, cyn teithio i fyny i’r bryniau. Adeiladwyd y rheilffordd yn wreiddiol i gludo llechi i’r arfordir. Erbyn heddiw, yn y chwareli llechi hyn mae nifer o weithgareddau antur sy’n cynnwys Zip World Llechwedd, Antur Stiniog a Go Below Xtreme.

Caernarfon yw terfyn gogleddol Rheilffordd Ucheldir Cymru. Mae peiriannau grymus Garratt yn tynnu’r trenau ar hyd y ffordd drwy’r bylchau cul yn y mynyddoedd gan fynd heibio i droed yr Wyddfa gan orffen wrth gastell anferth Caernarfon. Tra byddwch yng Nghaernarfon, ewch i siop gacennau Alana Spencer, Ridiculously Rich by Alana yr ymgeisydd ar The Apprentice. 

Rheilffyrdd Ucheldir Cymru, Porthmadog

Syniadau wedi'i ysbrydoli gan I'm A Celebrity... Get Me Out Of Here! 

Os yw gweld sêr y rhaglen deledu I'm A Celebrity... Get Me Out Of Here! yn mynd i gysgu yng Nghastell Gwrych yn eich ysbrydoli, beth am gynllunio’ch cyfres eich hun o dreialon i weld a allwch fod yn Frenin neu Frenhines y castell?

Byw fel brenin – cysgu mewn castell

Roedd sêr I'm A Celebrity... yn byw yng Nghastell Gwrych, sy’n dŷ bonedd o’r 19edd ganrif ger Abergele yng Nghonwy. Ar hyn o bryd mae’r lle ar gau i’r cyhoedd, ond gallwch brynu tocynnau ar gyfer y gwanwyn 2022. Mae tocynnau tymor, talebau rhodd, a rhoddion a nwyddau swyddogol I'm A Celebrity hefyd ar gael i’w prynu ar y wefan.

Os ydych yn ffansio byw fel brenin am ychydig, beth am logi ystafell mewn castell? Yma yng Nghymru mae gennym ddigon o gestyll lle gallwch aros, o gaerau canoloesol i dai crand y Tuduriaid, mae gennym adeiladau hanesyddol ar draws y wlad i chi gael hoe gyffyrddus. Ac yn wahanol i’r sêr yn Gwrych, fydd dim angen cael ffrind i bympio dŵr i chi gael cawod.

Ein dewisiadau ar gyfer yr arhosiad perffaith mewn castell yw Castell Aberhonddu, Castell Craig-y-Nos, Castell Deudraeth, Castell Aberteifi, a Chastell y Garn.

Cysgu uwchben y môr

Os ewch i arfordir Sir Fôn gallwch fwynhau noson dda o gwsg ar wely ar glogwyn gyda Gaia Adventures. Mae’r antur unigryw hon yn well ar gyfer grwpiau bach gan fod y man lle byddwch yn cysgu yn gallu cymryd dau neu dri yn unig. Bydd angen bod yn ddewr, ond yn sicr fe fyddwch yn siarad amdano am flynyddoedd i ddod.

Byddwch yn cyrraedd eich man paratoi ar ben y clogwyn, yn rhoi eich gêr diogelwch amdanoch ac yn abseilio i lawr yr ymyl at eich ‘gwely cysurus’. Gallwch fwynhau paned o de neu ddarllen llyfr da tra byddech yn ymlacio yn fry uwchben y tonnau garw islaw.

Wyneb clogwyn uwchben y môr gyda dau berson yn eistedd ar bortread wedi eu hatal o ymyl y clogwyn.
Wyneb clogwyn uwchben y môr gyda dau berson yn eistedd ar ‘portaledge’ sy’n hongian o ymyl y clogwyn.

Ymyl y dibyn. Nid i’r gwangalon!

Neidio oddi ar glogwyn...

Ofn uchder? Ddim yn hoffi bod yn wlyb? Gallwch wynebu’r ofnau hynny drwy neidio i mewn i’r tonnau garw o fan uchel.

Yr enw ar y math yma o antur yw arfordira ac yma yng Nghymru y cafodd ei ddyfeisio gan syrffwyr yn Sir Benfro wrth iddyn nhw chwilio ar hyd yr arfordir am fannau i neidio i mewn i’r tonnau. Mae gennym glogwyni a mwy nag 800 o filltiroedd o arfordir, felly, gallwch weld o ble y daeth y syniad. Nawr mae arfordira yn un o’r gweithgareddau hamdden pwysicaf yng Nghymru gyda sesiynau ar gyfer grwpiau o bob oed a gwahanol ofynion mynediad. Cofiwch fynd gyda chwmni neu ddarparwyr wedi'u hachredu. 

group of male adults laughing as they jump off the rocks into the blue sea, coasteering with instructors.

Arfordira 

Treial llawn adrenalin am ddiwrnod

Am her a hanner, Parc Antur Eryri yw’r lle i chi. Mae'n cynnig tri pharth antur - Surf Snowdonia, lle gallwch roi cynnig ar syrffio ar lagŵn syrffio mewnol cyntaf y byd. Yna mae Adrenaline Indoors, gydag ogofâu, sleidiau eithafol, gwifrau zip, muriau dringo a chwrs profi ninja! Yn olaf ewch i Outdoor Adventures, lle mae waliau dringo yn yr awyr agored, gwifrau zip, trac pympio a llawer iawn mwy!

Os yw hyn i gyd yn eich blino, yna gosodwch her i chi eich hun mewn ‘treial ymlacio’. Cewch fyw fel y sêr yn Hilton Garden Inn a’r Wave Garden Spa gerllaw sy’n berffaith ar gyfer ychydig faldod.

Codi arswyd arnoch eich hun mewn tafarn

Arhoswch am sieri bach i dawelu’r nerfau - yna ymunwch mewn séance yn y dafarn fwyaf arswydus yng Nghymru. Roedd tafarn The Skirrid Mountain ger y Fenni yn arfer bod yn llys, a dywed chwedl yn lleol fod hyd at 200 o ddrwgweithredwyr wedi’u crogi oddi ar drawst derw uwchben y grisiau yn y dafarn. Daw’r enw o enw’r mynydd y tu cefn - ysgyryd. Dywed rhai fod y mynydd, yn yr oriau ar ôl croeshoelio Iesu Grist, wedi dangos ei ddicter drwy hollti’n dau hanner gan greu’r Ysgyryd Fawr a’r Ysgyryd Fach.

Snorclo mewn cors

Credwch neu beidio, yng Nghymru mae’r Pencampwriaethau Rhyngwladol Cors-snorclo yn cael eu cynnal. Mae’n brawf o allu dal ati a dangos sgiliau fel dim byd arall, a chafodd ei ddisgrifio gan Lonely Planet fel un o’r 50 o brofiadau i'w cyflawni mewn bywyd.

Er y gall hyn ymddangos yn ddim mwy nag ychydig hwyl, mae pobl yn ymarfer ar gyfer y digwyddiad hwn drwy’r flwyddyn. Wedi’r cyfan, mae’n deitl byd-eang! 

Llun o ddyn yn gwisgo snorcl a gogls ac yn snorclo mewn cors
Llun o berson yn gwisgo snorgl a gogls, ac yn beicio trwy gors

Snorclo mewn cors

Straeon cysylltiedig